Ynni yng Nghymru
Mae cael at ynni yn hanfodol i gymdeithasau modern. Mae’n sail i lawer o’n bywydau pob dydd, o’r adeilad sy’n gartref inni, y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n cynnal ein heconomi, y cludiant y dibynnwn arno a’r gweithgareddau hamdden a fwynhawn.
Mae pobl yn fwyfwy ymwybodol bod ein ffynonellau ynni presennol yn gyfyngedig a’u bod yn cael effaith negyddol ar yr hinsawdd.
Y Trilema Ynni
Y tri mater allweddol sy’n ymwneud ag ynni, o’r enw’r Trilema Ynni, yw:
- Diogelu ynni, sy’n cynnwys pethau fel diogelu cyflenwad a dibynadwyedd seilwaith
- Tegwch ynni, sef pa mor hygyrch a fforddiadwy yw’r cyflenwad ynni ar draws poblogaeth
- Cynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n edrych ar symud tuag at gyflenwad ynni adnewyddadwy a charbon isel i fynd i’r afael â’n heriau newid hinsawdd
Ynni a Newid Hinsawdd
Newid hinsawdd yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf y mae’r ddynoliaeth wedi’i wynebu erioed, a’r her fwyaf hefyd. Y sector cyflenwi ynni (yr holl echdynnu, trosi, storio, trawsyrru a dosbarthu ynni) yw’r cyfrannwr mwyaf at allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang sy’n achosi newid hinsawdd.
Ynni sydd wrth wraidd yr her newid hinsawdd. Cyfrannodd sector cyflenwi ynni Cymru 38% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2014, a hwnnw hefyd yw’r ffynhonnell fwyaf o allyriadau.
Trawsnewid Ynni
Mae angen i’n systemau ynni drawsnewid yn gyflymach tuag at gynhyrchu mwy o ynni a gostwng dwyster carbon er mwyn mynd i’r afael â’r trilema ynni.
Mae technoleg newydd fel cynhyrchu adnewyddadwy, a thechnoleg storio fel batris a hydrogen, yn dod i’r amlwg wrth i ddulliau hŷn o gynhyrchu ynni, fel pwerdai glo, adael y system.
Mae trawsnewid ynni hefyd yn newid y mater cyflenwad a galw sy’n effeithio ar ddibynadwyedd y system a chostau.
Ateb Ynni
Ceir ateb ac iddo ddwy ran i’r her ynni hon:
- lleihau allyriadau sy’n deillio o’r cyflenwad ynni drwy gynyddu’r gyfran o ynni di-garbon neu garbon isel yng nghymysgedd y cyflenwad
- cymedroli'r twf yn y galw am ynni drwy gynyddu’n sylweddol effeithlonrwydd ynni a chynhyrchiant ynni (y cynnyrch economaidd o bob uned o ynni a ddefnyddir)
Drwy wneud y ddau beth hyn, dylem fod yn gallu bodloni galw’r dyfodol am ynni heb orgynhesu’r blaned, bydd cyflenwadau ynni’n lanach, a bydd anghenion pobl yn cael eu bodloni’n fwy effeithlon.
Ynni a Datganoli
Mae ynni’n fater a gedwir yn ôl, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol a chyfrifoldebau rheoleiddio mewn perthynas â materion ynni fel diogelu, fforddiadwyedd a thegwch marchnad, yn perthyn i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn cynrychioli newid lle mae’r Ddeddf yn datganoli cyfrifoldeb i’r Cynulliad am gynhyrchu ynni ar raddfa fwy a swyddogaethau mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir.
Targedau Ynni Cymru
Ym mis Medi 2017, cynigiodd Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y targedau canlynol i Gymru:
- Cymru i gynhyrchu 70% o’r trydan a ddefnyddia o ynni adnewyddadwy erbyn 2030
- 1GW o allu trydan adnewyddadwy yng Nghymru i fod yn eiddo lleol erbyn 2030
- Erbyn 2020, pob prosiect ynni adnewyddadwy i gael o leiaf elfen o berchenogaeth leol
Mae gwaith wedi dechrau i sicrhau bod fframwaith ar waith i helpu i gyflenwi’r targedau hyn.
Fframwaith Polisi Ynni Cymru
Nodir polisi ynni Llywodraeth Cymru yn Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (2012). Y nod yw economi carbon isel sy’n sicrhau swyddi a ffyniant tymor hir gan weithio mewn partneriaeth â busnesau a chymunedau i sicrhau dyfodol ynni carbon isel craffach i Gymru.
Ein gwaith ar Ynni
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru lawer o ddyletswyddau mewn perthynas â materion ynni. Mae ein Nodyn Cyfarwyddyd Ynni yn manylu ymhellach ar ein rôl ac yn amlinellu ein hymagweddau allweddol at faterion ynni.
Rhaglen Cyflenwi Ynni
Mae’r Rhaglen Cyflenwi Ynni yn gyfrifol am gyflenwi’r Portffolio Datblygu Ynni, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o ffrydiau gwaith mewn perthynas â chyfleoedd a datblygiadau ynni adnewyddadwy ac ynni na ellir ei adnewyddu fel:
- Rhaglen Ynni Gwynt ar y Tir
- Rhaglen Ynni Dŵr ar Raddfa Fechan
- Rhaglen Mynediad Trydydd Parti ar gyfer Ynni
- Rhaglen Cyfleoedd Busnes Ynni (e.e. Cysyniad Parc Ynni)