Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf i’w chynnal ar 25 Mehefin 2021

Bydd y Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed yn cael ei chynnal ym mis Mehefin flwyddyn yma er mwyn taro sylw ar bwysigrwydd gwarchod y cynefinoedd hanfodol hyn ledled y byd.

Dyddiad y dathliad yw 25 Mehefin 2021 ac mae’r diwrnod wedi ei chreu ar y cyd rhwng y prosiectau Twyni Byw ac Dynamic Dunescapes. Dyma ddau brosiect sydd yn gweithio yn galed ledled Cymru a Lloegr i amddiffyn y twyni tywod a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt.

Mae twyni tywod iach yn cynnig cynefinoedd ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt prin ac arbenigol. Rhain yn cynnwys blodau gwyllt, bryoffytau, infertebratau a phryfetach sydd angen cynefin tywod noeth i oroesi.

Hefyd mae twyni tywod a’r tirweddau cyfagos yn llefydd pwysig i’n cymunedau, fel mannau i gadw’n heini drwy gysylltu â byd natur, ac o ran y cysylltiadau i’n treftadaeth ddiwylliannol ac amryw o safleoedd hanesyddol.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod noeth wedi diflannu i rannau helaeth o’n twyni tywod, ac mae glaswellt a phrysgwydd trwchus wedi cymryd ei le. Achoswyd y newid yma gan ffactorau fel cyflwyno planhigion anfrodorol, lefelau is o bori, newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Wrth i'r twyni sefydlogi a gordyfu, mae bywyd gwyllt prin wedi dirywio.

I ddathlu’r Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed mae Twyni Byw ac Dynamic Dunescapes yn gobeithio cynnal ambell i ddigwyddiad bychan, arwain teithiau cerdded a sgyrsiau am y cynefin arbennig yma. Bydd holl ddigwyddiadau a deunydd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Cadwch lygad barcud ar gyfrifon Trydar y ddau brosiect @TwyniByw ac @DynamicDunes am ragor o gyhoeddiadau.

Prosiect cadwraeth bwysig yw Twyni Byw gyda’r nod i adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin. Bydd y prosiect, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer mwy na 2400 hectar o dwyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru.

Prosiect partneriaeth yw Dynamic Dunescapes i adfywio twyni tywod yn Lloegr ac yng Nghymru. Partneriaid y prosiect yw Natural England, Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Yr Ymddiriedolaeth Natur.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru