Golwg ar y gwaith a ariennir gan CNC

Mae ein rhaglen Grantiau yn ariannu amrywiaeth eang o brosiectau ledled Cymru. yma cymerwn olwg ar ychydig o honynt.

SEASEARCH, Y GYMDEITHAS CADWRAETH FOROL

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n sefydliad wedi’i sylfeini ar dystiolaeth ac yn dibynnu ar sawl gwahanol sianel i gasglu’r wybodaeth sy’n llywio ein penderfyniadau ac yn cwrdd â’n cyfrifoldebau i bobl, amgylchedd, ac economi Cymru.

Mae CNC wedi bod yn gweithio gyda phrosiect Seasearch Y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Mae Seasearch yn gweithio gyda deifwyr o amgylch Cymru (a’r DU) i ddarparu gwybodaeth hanfodol am bresenoldeb y cynefinoedd a’r rhywogaethau o amgylch yr arfordir sy’n hanfodol i wella ein sylfaen dystiolaeth.

Er gwaetha’r cyfyngiadau’n gysylltiedig â Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r prosiect gwyddonol hon ar Benrhyn Gŵyr, a oedd yn cynnwys cyfranogiad a chydweithrediad y cyhoedd, wedi parhau ac wedi cynnwys hyfforddiant i wirfoddolwyr ar-lein a chefnogaeth i wirfoddolwyr ar gyfer arolygon ar hyd y traethau a gyda snorcel.

Dywedodd Dr Charlotte Bolton:

“Mae Seasearch wedi creu gwirfoddolwyr brwdfrydig sy’n wybodus am yr eigion ac sydd wedi mabwysiadu eu hardal leol ac yn cymryd diddordeb brwd ynddi, yn cynnal arolygon maes, gweithredu ac ymgyrchu ar faterion penodol sy’n effeithio ar eu hardal, yn ogystal â chynyddu eu sgiliau personol a’u mwynhad o’r amgylchedd morol.
“Maen nhw’n ymgysylltu â’u hamgylchedd lleol, eisiau gwneud rhywbeth ystyrlon yn lleol ac, fel canlyniad, rydyn  ni wedi diweddu â chronfa o bobl leol gwybodus sydd wedi ymgysylltu ac sy’n helpu sefydlu gwaelodlin o ddata mewn maes a fu gynt yn brin ei gofnod ac yn ddiffygiol mewn data, y gellir ei ddefnyddio bellach mewn pob math o reolaeth forol.”

Llun gan Blaise Bullimore, Seasearch

Gardd gymunedol yn blaguro o hadau partneriaeth

Mae gweithio mewn partneriaeth yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu a gwella’r amgylchedd ledled y wlad.

Yng Nghwm Rhondda, fe fuon ni’n gweithio gyda Gardd Gymunedol Sunrise i droi tir diffaith ger y Ffatri Gelfyddydau yng Nglyn Rhedyn yn ardd gymunedol.

Mae Gardd Gymunedol Rhondda Fach yn fan agored bywiog, hygyrch, sy’n dod â phobl o bob oed a galluoedd ynghyd i ennill sgiliau newydd a brwydro yn erbyn ynysigrwydd ac unigrwydd.

Mae’r prosiect yn cyfrannu at ymrwymiad CNC i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gynnwys creu mannau iach i bobl, cyfrannu at yr economi gylchol a helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.

Fe fydd yn cynhyrchu sgiliau, creu syniadau ac annog cenedlaethau’r dyfodol trwy gysylltu pobl a natur trwy fuddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd.

Mae’r ardd eisoes wedi gwneud argraff gadarnhaol ar y gymuned, fel y gwelir o’r sylwadau canlynol gan wirfoddolwyr:

“Mae sawl cyfeillgarwch eisoes wedi’u ffurfio a’u cyfannu i rai lle bu’r pandemig yn achos iddyn nhw golli cysylltiad â ffrindiau a theulu. Rydyn ni wedi sylwi bod gwên wedi dychwelyd i wynebau llawer o bobl.”
“Rydyn ni ar stâd ddiwydiannol, drysfa o goncrid, ond dyma ardd brydferth yn ei chanol hi.”
“Rydyn ni wedi dysgu ynghylch gwahanol ffyrdd o blannu gwelyau sy’n wyrddach. Rydyn ni wedi plannu moron, letys, ffa gwyrdd, tatws, a hefyd ychydig o flodau ar gyfer peillwyr ac i wneud i’r lle edrych yn ddel.”
“Mae hi wedi bod mor dda cael pobl allan i’r awyr agored a chreu ymdeimlad o gyrhaeddiad trwy gyfrannu at yr ardd a chymryd perchnogaeth ohoni.”
“Rydyn ni’n dechrau magu’r dull o gydweithio rhwng y cenedlaethau sy’n allweddol i’r Ffatri Gelfyddydau, yn helpu plant i weld pawb yn gyfartal.”
“Mae plant yn tyfu pethau mewn ardal i blant. Fe welwn ni orwelion plant yn ymestyn o’u blaen wrth dreulio amser yn yr awyr agored. Dyma’r tro cyntaf i’r Ffatri Gelfyddydau allu cynnig gweithgareddau mewn mannau gwyrdd i blant.”

Mynd i’r afael â’r gostyngiad mewn poblogaethau pysgod

Mae’r lleihad yn niferoedd pysgod ac iechyd afonydd yn bryderon cyfredol ond, yn anffodus, does dim un datrysiad cyffredinol ac mae taclo’r mater yn mynd i olygu mewnbwn gan amrywiaeth o sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio gydag Afonydd Cymru ar Adferiad Cynefinoedd Pysgodfeydd Mewndirol, ynghyd â thirfeddianwyr, Cynghorau Sir a gwirfoddolwyr i gyflenwi gwelliannau wedi’u blaenoriaethu i gynefinoedd pysgodfeydd mewndirol ledled y wlad.

Mae’r prosiect yn anelu at:

  • Wella dosraniad gofodol pysgod magu trwy gysylltu dros 400 cilomedr o afonydd trwy symud rhwystrau, gan ganiatáu i boblogaethau eog a brithyll gyrraedd eu meysydd silio o’r môr, adfer cynefinoedd dŵr croyw
  • Adfer cynefinoedd optimaidd mewn dalgylchoedd uwch i hybu creu amrywiaeth o bysgod.
  • Datrys mynediad gwaddol i afonydd o fannau lle mae gwartheg yn yfed ac a reolir yn wael i wella ansawdd y dŵr ein ecosystemau dŵr croyw.

Dywedodd Gail Davies-Walsh :

“Mae hi wedi bod yn gyfle go iawn i gasglu gwybodaeth helaeth am ddalgylchoedd prydferth Cymru ac adeiladu perthynas â thirfeddianwyr.
“Mae’r cydberthynas rhwng partneriaid, Ymddiriedolaethau Afonydd rhanbarthol, a thrwy fudiad yr Ymddiriedolaeth Afonydd drwyddi draw wedi’u cryfhau. Rydyn ni wedi ymgysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr ac wedi meithrin perthynasai ar gyfer y prosiect hwn, yn ogystal ag i’r dyfodol.
“Wrth weithio trwy’r pandemig, rydyn ni wedi cydnabod pwysigrwydd Ymddiriedolaethau Afonydd yn cefnogi swyddi gwyrdd ledled Cymru – rydyn ni bellach am weithio tuag at gynnwys yr elfen ychwanegol hon o’n gwaith yn ein prosiectau yn y dyfodol.”

Coed Caerdydd yn gwyrddu’r ddinas 

Prosiect mewn tair rhan ydy Coed Caerdydd, a ariennir gan CNC, a’i gyflenwi gan Adran Parciau Cyngor Caerdydd, yn gweithio gyda phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Mae’n cynnwys ymarferiad cwmpasu defnydd tir ar gyfer plannu coed ar dir dan berchnogaeth partneriaid y BGC a gosod waliau gwyrdd ar dir BGC.

Mae’r prosiect yn cyfrannu at egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru trwy helpu ecosystemau i fod yn fwy gwydn, gan ddiogelu pobl rhag risgiau amgylcheddol a helpu creu mannau iach i bobl wrth wella ansawdd ein hecosystemau.

Mae manteision y prosiect wedi’u nodi gan y partneriaid a’r gwirfoddolwyr.

Medden nhw:

“Mae’r cyhoedd yn hoffi waliau gwyrdd, rhywbeth gwyrdd medwn dirwedd galed. Fe wyddon ni fod waliau gwyrdd yn helpu gydag ansawdd aer, ac mae gennym ni’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a’i gwirfoddolwyr yn helpu monitro pethau megis peillwyr a glöynnod byw.”
“Mae’r swyddogion tân wedi’u hysbrydoli i wneud eu balconi’n le gwell. Bellach, maen nhw’n gwneud defnydd o ofod nad oedd ganddyn nhw o’r blaen.”
“Mae hi wedi bod yn gyfle go iawn i estyn allan y tu hwnt i fannau agored Cyngor Caerdydd, i gael pobl i gyfrannu at gynyddu canopi’r coed.”
“Mae’r brand o bwys oherwydd mae’n cael ei adnabod, yn helpu gweld coed unigol fel rhan o goedwig drefol a chanopi i’r ddinas, gan esbonio beth all coed eu gwneud i bobl. Mae hi wedi caniatáu inni ddatblygu’r brand, sy’n bwysig fel paratoad ar gyfer y prosiect fwy.”
“Un o’r pethau mwyaf ydy’r ddolen-gyswllt â phartneriaid BGC. Roedd hi’n gyfle ffantastig i dreiddio’r BGC. Mae wedi helpu lleihau’r bwlch rhwng lefelau gweithredol a strategol.”

Gwobr briodol i’r dyfodol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth John Muir i ymestyn defnydd Gwobr John Muir trwy ysgolion, cymunedau Cymraeg a chynulleidfaoedd cynhwysiant cymdeithasol i alluogi mwy o bobl i ymgysylltu â, mwynhau a gofalu am lecynnau gwyllt Cymru.

Mae hyn yn golygu gwella sgiliau, hyfforddiant arweinwyr a darparu cefnogaeth uniongyrchol i ysgolion a sefydliadau addysgol eraill o amgylch y cwricwlwm newydd a chreu cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored.  

Mae’r dyfarniad yn canolbwyntio ar gyflenwi llesiant i unigolion a chymunedau, gan gynnwys lleiafswm o 25 awr o weithgareddau awyr agored a chael effaith ymarferol ar yr amgylchedd naturiol trwy weithgareddau megis casglu sbwriel, plannu coed a lleihau ôl-troed carbon. 

Meddai llefarydd:

“Rydyn ni wedi cymryd agwedd newydd, i fod yn fwy agored, gan fod yn rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol. Fase hyn ddim wedi bod yn bosib heb y seilwaith rydyn ni’n ei osod trwy’r prosiect.
“Mae’n caniatáu inni adeiladu cydberthynasau; mae’n creu capasiti a phrofiad staff ac rydyn ni wedi lleihau’r rhwystrau i gyfranogi trwy hyfforddiant rhad ac am ddim a darparu mynediad i gyngor rhad ac am ddim.
“Mae’n newid syml ond eithaf sylfaenol, i fod am ddim ac yn hygyrch.”

Mae’r prosiect yn cyfrannu at egwyddorion CNC o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy trwy hyrwyddo amgylchedd Cymru a helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.

Astudiaethau achos wedi'u coladu gan Resources for Change

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru