Ymchwiliad lleol i gynigion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd newydd

Cyflwynwyd Is-ddeddfau Pysgota â Gwialen a Rhwyd 2017 arfaethedig ar gyfer 'Cymru Gyfan' i Lywodraeth Cymru i'w cadarnhau ar 20 Chwefror 2018. 

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei chasgliad mai "o ystyried lefel yr ymateb i’r ymchwiliad, nifer y gwrthwynebiadau amlwg i'r is-ddeddfau a gynigiwyd a natur yr ohebiaeth, y cam gweithredu mwyaf priodol fyddai cynnal Ymchwiliad Lleol a fydd yn caniatáu craffu annibynnol ar gynigion Cyfoeth Naturiol Cymru." 

Gofynnwyd i Arolygiaeth Gynllunio Cymru gychwyn Ymchwiliad Lleol o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Ar ôl i'r Ymchwiliad ddod i ben, bydd yr Arolygwr Cynllunio yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd yn llywio eu penderfyniad terfynol ynglŷn â’r cais i’r is-ddeddfau gael eu cadarnhau'r. 

Disgwylir i'r ymchwiliad, a fydd yn cael ei gynnal yn y Drenewydd, Powys, ddechrau ar 15 Ionawr 2019 a bydd yn para am dair wythnos. 

Ymchwiliad Cyhoeddus - hysbysias ymchwiliad

Pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnig is-ddeddfau newydd? 

Mae ein stociau eogiaid mewn perygl difrifol, ac mae llawer wedi dirywio i lefelau hanesyddol isel. Gellir dweud yr un peth am ryw dwy ran o dair o'n stociau brithyllod y môr eiconig. Ni all y naill na'r llall gynnal pysgota nad yw’n cael ei reoli, felly mae'n hanfodol i ni sicrhau bod gan yr holl eogiaid gyfle i oroesi a bridio. 

Mae'r dirywiad yn y stociau eogiaid yn helaeth ar draws  Gogledd yr Iwerydd. Yng Nghymru, bydd 20 o'n 23 prif stociau eogiaid a 21 o'n 33 prif stociau brithyllod y môr yn methu cyflawni'r targedau rheoli tan o leiaf tan 2022. Mae chwech o'r stociau eogiaid sy'n methu yn cynnal dynodiadau o afonydd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Mae ein cynigion yn ceisio cyflawni cynaliadwyedd yn y tymor canolig a'r hirdymor wrth sicrhau, yn y cyfamser, fod pysgota'n gallu parhau ond heb unrhyw achosion o ladd eogiaid yn fwriadol, na rhai brithyllod y môr chwaith mewn afonydd penodol.

Gwnaethom gynnal ymchwiliad statudol ar is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd er mwyn atal lladd eogiaid, a diogelu stociau a physgota yn y tymor canolig a'r hirdymor drwy hynny. 

Mae ein hachos wedi'i amlinellu yn llawn yn ein hachos technegol, y gellir dod o hyd iddo ar ein tudalennau gwe

Ymgynghoriadau rheoliadau dalfeydd eogiaid a sewin 2017  ynghyd â gwybodaeth bellach. 

Pam mae Llywodraeth Cymru wedi atgyfeirio'r mater i Ymchwiliad Lleol? 

Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at Cyfoeth Naturiol Cymru ar 8 Awst yn nodi

"O ystyried lefel yr ymateb i'r ymchwiliad, nifer y gwrthwynebiadau amlwg i'r is-ddeddfau a gynigiwyd a natur yr ohebiaeth yr wyf wedi'i derbyn, rwyf wedi penderfynu mai'r cam gweithredu mwyaf priodol fyddai cynnal Ymchwiliad Lleol i'r is-ddeddfau hyn a gynigiwyd" 

"Bydd Ymchwiliad Lleol yn caniatáu craffu annibynnol ar yr is-ddeddfau arfaethedig, y gwrthwynebiadau a wnaed a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr holl bartïon ac yn fy ngalluogi i ddod i gasgliad ynghylch y ffordd orau o fynd ymlaen." 

Beth bydd yr Ymchwiliad Lleol yn ei ystyried? 

Bydd yr Ymchwiliad yn caniatáu craffu annibynnol ar yr is-ddeddfau arfaethedig, y gwrthwynebiadau a wnaed, a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr holl bartïon. 

Pryd a ble bydd yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal? 

Disgwylir i'r Ymchwiliad ddechrau ar 15 Ionawr am 10am, a bydd yn para am dair wythnos. 

Y lleoliad fydd Gwesty'r Elephant and Castle yn y Drenewydd 

Pwy sy'n cynnal yr Ymchwiliad? 

Arolygiaeth Gynllunio Cymru fydd yn cynnal yr Ymchwiliad Lleol o dan y gweithdrefnau a amlinellir yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991. 

Wrth i'r Ymchwiliad ddod i ben, bydd yr Arolygydd Cynllunio yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Llywodraeth Cymru, a fydd yn llywio eu penderfyniad terfynol ynglŷn â’r cais i’r is-ddeddfau gael eu cadarnhau. 

Pa rôl bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chwarae yn yr Ymchwiliad? 

Er nad oeddem yn disgwyl y penderfyniad hwn, rydym yn croesawu'r cyfle i gyflwyno ein hachos a'n tystiolaeth.  

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu'n gryf at yr ymchwiliad ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennym i ddatblygu ein cynigion ar gyfer craffu annibynnol. 

A yw sefyllfa stociau eogiaid Cymru wedi newid ers i'r cynigion ar gyfer is-ddeddfau gael eu gwneud? 

Ers i'n hachos technegol yn cefnogi rheolaethau pysgota newydd gael ei gyhoeddi, mae tystiolaeth bellach ar statws stociau wedi'i chasglu. 

Nid yw statws diweddaraf y stociau pysgod aeddfed yn seiliedig ar asesiad stoc 2017 yn dangos unrhyw welliant, ac yn gyffredinol mae dirywiad parhaus mewn stociau eogiaid a rhai stociau allweddol o frithyllod y môr. Gellir dod o hyd i'r asesiadau diweddaraf ar ein tudalennau gwe Stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru. 

Mae tystiolaeth newydd ar boblogaethau pysgod ifanc yn 2017 yn cadarnhau'r pryderon difrifol a ddilynodd fethiannau silio yn 2015–16 gyda diffygion sylweddol o ran niferoedd gleisiaid blwydd. 

Mae hyn yn debygol o arwain at ddiffygion sylweddol mewn eogiaid aeddfed o 2019 hyd at 2021. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl yr Ymchwiliad Lleol? 

Disgwylir i'r Ymchwiliad ddod i ben erbyn 1 Chwefror.  Pan fydd y trafodaethau â'r holl bartïon wedi'u cwblhau, bydd yr Arolygydd yn ystyried yr holl dystiolaeth, yn paratoi adroddiad, ac yn gwneud argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. 

Gall Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn neu wrthod cyngor yr Arolygydd. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad, a fydd yn llywio ei phenderfyniad terfynol ynglŷn â’r cais i’r  is-ddeddfau gael eu cadarnhau. 

Gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, newid, neu wrthod unrhyw is-ddeddfau a gyflwynir iddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwrthodiad Ymholiad

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Rhestr Dogfennau'r Ymchwiliad 7/3/19 Dim ond yn Saesneg PDF [357.0 KB]
Cyflwyniadau Cau CNC Dim ond yn Saesneg PDF [771.9 KB]
Ymchwiliad Cyhoeddus - hysbysias ymchwiliad Dydd Mawrth 15 Mawrth 2019 am 10:00am PDF [156.9 KB]
1D - Appendix 3 PDF [128.7 KB]
Proof 2 PDF [529.6 KB]
2A Summary proof PDF [316.9 KB]
2B Appendix PDF [774.9 KB]
3 Proof PDF [377.2 KB]
3A Summary Proof PDF [182.2 KB]
3D Proof of evidence - Appendix 3 Jon Barry PDF [283.8 KB]
Proof 4 PDF [277.9 KB]
4A Summary Proof PDF [175.9 KB]
4B Appendix PDF [196.6 KB]
Proof 5 PDF [361.4 KB]
5A Summary PDF [308.7 KB]
Proof 6 PDF [463.8 KB]
6A Summary of Proof PDF [243.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf