Cynllun i reoli Coedwig Hirnant yn destun ymgynghoriad cyhoeddus gan CNC

Hirnant

Mae cynllun deng mlynedd i reoli Coedwig Hirnant - i'r dwyrain o Lyn Efyrnwy ym Mhowys - wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r cynllun yn cynnwys prif flociau coedwig Cwmwr a Chwm Gwnen sydd gyda'i gilydd yn cwmpasu 257 hectar. Fel rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, mae Coedwig Hirnant yn cael ei rheoli gan CNC.

Mae gan y cynllun yr ymgynghorir ag ef nifer o nodau gan gynnwys adfer coetir hynafol a rheoli coed.

Dywedodd Glyn Fletcher, Uwch Reolwr Tir CNC:

"Mae pob coedwig a reolir gan CNC wedi'i chynllunio i sicrhau amrywiaeth o fanteision. Rydym am sicrhau bod y goedwig yn cael ei defnyddio mewn modd sydd o fudd i'r amgylchedd a chynefinoedd lleol yn ogystal â chymunedau lleol.

"Rydym am i'r coedwigoedd rydym yn rheoli i fod yn lleoedd gwych i ymweld â nhw a hefyd i fod yn goetir cynhyrchiol sy'n cyflenwi pren cynaliadwy ac yn darparu swyddi gwledig pwysig.

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i drigolion ardal Coedwig Hirnant roi eu barn ar y cynlluniau ar gyfer eu coedwig leol a'n helpu i sicrhau ein bod yn gosod ac yn cyrraedd y targedau cywir ar gyfer yr ardal."

Mae crynodeb o brif amcanion y goedwig a'r holl fapiau drafft ar gael i'w gweld ar wefan hwb ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gall preswylwyr chwilio am 'Gynlluniau Adnoddau Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru' ar unrhyw beiriant chwilio ar y rhyngrwyd a dilyn y dolenni i dudalen Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant.

Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. O'r fan honno byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Powells Place, Y Trallwng, Powys, SY21 7JY.

Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 5 Mawrth 2021 fan bellaf.