Gwaith rheoli rhostiroedd yn anelu at adfywio ac amddiffyn Mynydd Llantysilio

 360 groundacre gorse mowing with flailbot

Mae amrywiaeth o waith rheoli rhostiroedd wedi'i gwblhau drwy'r gaeaf i helpu Mynydd Llantysilio i wella o'r tanau gwyllt dinistriol a ddifrododd rannau helaeth o gynefin y safle gwarchodedig yn sylweddol yn ystod haf 2018.

Ariannwyd y gwaith drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru a’i gyflawni mewn cydweithrediad agos â thirfeddianwyr lleol a chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Prosiect Rheoli Rhostir ac Atal Tanau Gwyllt Sir Ddinbych.

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng CNC, Cyngor Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n anelu at leihau'r risg o danau mawr yn y dyfodol.

Mae CNC wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion yr effeithiwyd ar eu tir gan y tanau gwyllt er mwyn sefydlu trefn rheoli rhostiroedd sydd o fudd i'r cynefin ac yn adeiladu gwydnwch i danau gwyllt yn y dyfodol.

Rhwng mis Hydref a mis Mawrth, mae contractwyr a phorwyr wedi bod yn brysur yn torri grug a llystyfiant ucheldirol eraill. Mae’r grug yn cael ei reoli ar sail cylchdroi. Mae ardaloedd llai yn cael eu rheoli bob blwyddyn er mwyn sicrhau oedran a dwysedd amrywiol o grug wrth gynnal gorchudd grug ar gyfer pori da byw. Mae parthi dim llosgi wedi'u gwneud fel mesur rheoli rhagweithiol pe bai tanau gwyllt yn y dyfodol.

Mae’r gwaith o symud prysgwydd diangen, fel eithin neu goed ifanc, wedi digwydd mewn ardaloedd lle mae’r llwyni coediog hyn yn drech na’r grug, sef llystyfiant pennaf y mynydd. Heb reolaeth, byddai prysgwydd yn cymryd drosodd yn gyflym gan arwain at ddirywiad a cholli nodwedd warchodedig y safle yn y pen draw.

Bydd ailsefydlu rhostir iach nid yn unig yn helpu i ddod â’r safle gwarchodedig a’i fioamrywiaeth i gyflwr mwy ffafriol, ond bydd hefyd yn dod â buddion ehangach, megis gwytnwch newid hinsawdd, ansawdd tirwedd gwell, dal a storio carbon a ffermio a rheoli rhostiroedd y rugiar.

Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC yn Sir Ddinbych:

"Mae Mynydd Llantysilio yn bwysig iawn i bobl a bywyd gwyllt. Mae rhywogaethau prin fel y gylfinir a'r rugiar ddu yn dibynnu ar gynefin hanfodol y mynydd i'w goroesiad, tra mae'n bwysig i dirfeddianwyr lleol fel tir pori a cherddwyr hefyd.

"Bydd y gwaith yr ydym wedi'i gwblhau yn ein gweld yn adeiladu ar y gwaith ail-hadu blaenorol a gwblhawyd ym mis Hydref 2021 a helpodd i gychwyn sefydlu gorchudd tir ar dir moel.

"Yn dilyn y tân gwyllt yn 2018, rydym wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr o Brosiect Rheoli ac Atal Tanau Gwyllt Sir Ddinbych, tirfeddianwyr a phorwyr lleol i adfer y llystyfiant ar y safle ar gyfer bywyd gwyllt a phori.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r gwaith partneriaeth i helpu i weld adferiad y mynydd yn parhau dros y blynyddoedd nesaf.”