Gwaith diogelwch cronfa ddŵr Llyn Tegid i ddechrau ym mis Tachwedd 2021

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau ar waith sylweddol ym mis Tachwedd 2021 i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.

Gwyliwch y fideo

Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y gall Llyn Tegid yn Y Bala barhau i wrthsefyll tywydd eithafol nawr ac yn y dyfodol, tra hefyd yn dod â gwelliannau amgylcheddol a hamdden eraill i'r ardal.

Y prif ffocws yw cryfhau argloddiau'r llyn ac ailosod yr amddiffyniad rhag tonnau ar lan y llyn.

Ni all y gwaith cryfhau ddechrau nes bod CNC wedi clirio 300 o goed sydd wedi hunan-hadu, ac sy’n tyfu i mewn I’r argloddiau gan eu gwanhau. Mae CNC yn ymrwymo i blannu tair coeden yn lleol am bob un sy’n gorfod cael ei thorri.

Bydd y gwaith, a wneir gan y contractwyr peirianneg sifil William Hughes, yn para tan y Ganwyn 2023. Bydd angen cau llwybrau i gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn ystod y gwaith a bydd CNC yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyfeirio pobl at lwybrau amgen, a fydd wedi'u cyfeirio'n glir.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd Orllewin Cymru: “Mae argloddiau’r llyn yn rhoi amddiffyniad hanfodol rhag llifogydd i dref y Bala ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y dref yn parhau i fod yn ddiogel.
“Mae pobl leol wedi bwydo i mewn i’n proses gynllunio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a bydd eu mewnbwn, yn enwedig ynglŷn â chyfleoedd amgylcheddol a hamdden, yn cael ei weithredu ochr yn ochr â’r gwaith i ddiogelu’r gronfa ddŵr.”

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Gwella llwybrau i bobl o bob gallu;
  • Creu mannau eistedd newydd;
  • Adfer cynefinoedd gan gynnwys gwneud gwelliannau sensitif i faes parcio'r llyn a ger caffi'r ganolfan hamdden;
  • Creu ardaloedd newydd o ddolydd blodau gwyllt;
  • Paratoi adnoddau i ysgolion lleol eu defnyddio ar gyfer addysg amgylcheddol.
Ychwanegodd Sian Williams: “Byddwn yn rhannu gwybodaeth efo’r gymuned yn rheolaidd am ein cynnydd ac yn gwneud ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl.
“Bydd y gwaith hanfodol yma’n cael ei wneud mor effeithlon â phosibl, gan sicrhau bob amser ein bod yn cadw'r cyhoedd yn saff ac yn cynnal safonau diogelwch cronfeydd dŵr bob amser.”

Mae CNC yn gweithio gyda Rheilffordd Llyn y Bala i ymgorffori elfen o'u estyniad arfaethedig yn y gwaith hwn.

Gallwch ddod o hyd i'n mwy ar wefan CNC www.cyfoethnaturiol.cymru/llyntegid