Lansio Prosiect Corsydd Crynedig LIFE

Mewn wythnos lle rhoddwyd lle blaenllaw i’r argyfwng natur ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i bartneriaid wedi dangos eu huchelgeisiau eu hunain i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd sydd wedi’u cysylltu’n naturiol â lansiad prosiect corsydd crynedig LIFE.

Mae prosiect corsydd crynedig LIFE yn brosiect pum mlynedd sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a’i amcan yw adfer mawndir, corsydd crynedig a’u tirweddau o wlyptiroedd ategol ehangach i statws cadwraeth ffafriol.

Y prif ffocws yw 'corsydd crynedig' - sy’n cael eu henw gan fod y ddaear yn ‘crynu’ dan draed pan fo'r amodau'n gywir.

Mawndir yw adnodd tir mwyaf gwerthfawr Cymru gan ei fod yn storio 30% o'r carbon sydd ar y tir. Amcangyfrifir bod 90% o fawndir Cymru, sy’n gorchuddio tua 4% o’r wlad, mewn cyflwr sy'n dirywio ac yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Bydd y prosiect sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth gan CNC, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn canolbwyntio ar saith Ardal Cadwraeth Arbennig – Cors Crymlyn, Comin Gogledd-Orllewin Sir Benfro, Preseli, Rhos Goch, Corsydd Eifionydd, Gweunydd Blaencleddau a Chors Caron.

Cafodd y cynefin ei asesu fel un 'anffafriol' yn yr holl safleoedd dethol. Achosir amodau o’r fath yn aml gan fod y tir yn cael ei or-bori gan anifeiliaid. Mewn rhai achosion, mae pori annigonol wedi arwain at blanhigion pwysig yn cael eu llethu gan rywogaethau trechol neu oresgynnol. Ffactorau eraill sy'n effeithio ar y safleoedd yw rhoi'r gorau i reoli tir, draenio gwael a llygredd eang.

Bydd y prosiect yn mynd i'r afael ag amodau dŵr gwael ar y saith safle drwy adfer systemau draenio a llif hanesyddol - mewn rhai achosion dod â mwy o ddŵr i gors, ac mewn achosion eraill ei symud oddi yno.

Yn ystod oes y prosiect bydd tua 50 km o waith ffensio a seilwaith arall yn cael ei osod ar draws y safleoedd a fydd yn caniatáu’r lefelau cywir o bori cynaliadwy. Bydd gwaith torri glaswellt, crafu a chloddio yn digwydd er mwyn cael gwared o lystyfiant a rhywogaethau goresgynnol annymunol sydd ar hyn o bryd yn llethu'r planhigion a'r mwsoglau pwysig sy'n creu'r 'corsydd crynedig' hyn.

Bydd ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid a’r gymuned yn cyd-fynd â'r gwaith arfaethedig i gynyddu lefelau dealltwriaeth, gwerthfawrogiad ac er mwyn mabwysiadu'r technegau a ddefnyddir i adfer a chynnal pob un o'r safleoedd.

Daw'r lansiad ar ddiwedd wythnos lle cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth a’i hymrwymiad i dreblu ei thargedau adfer mawndiroedd ac ar yr un pryd addo camau pellach i adfer bywyd gwyllt a phlanhigion Cymru.

Meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De-Orllewin Cymru ar gyfer CNC:

"Rydym yn falch tu hwnt o lansio'r prosiect hwn a fydd yn cyd-daro ag addewid Llywodraeth Cymru i gynyddu ei hymrwymiad i adfer mawndiroedd yn ddramatig. Mae'r gwaith gweithredu hwn ar fawndiroedd a fydd yn digwydd yn fuan ar brosiect corsydd crynedig LIFE, nid yn unig yn gwella amwynder lleol ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol, ond mae hefyd yn rhan bwysig o gyfraniad Cymru wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd yn fyd-eang."

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

"Rwy'n hynod falch o gael mynychu lansiad y prosiect LIFE newydd pwysig hwn a bod Llywodraeth Cymru'n gallu cyfrannu dros £1.7m tuag ato dros y pedair blynedd nesaf.
"Bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'n cynlluniau uchelgeisiol o gyrraedd targed sero net 2050 drwy adfer 45,000 hectar o fawndir. Bydd hefyd yn helpu i ehangu a chyflymu ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ac i adfer cyflwr cynefinoedd allweddol i sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid yn fwy gwydn yn wyneb newid hinsawdd." 

Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn cynnwys ariannu Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC. Drwy gyfuno arbenigedd mewnol CNC ym meysydd mawndiroedd a bioamrywiaeth, a thrwy gydweithio mewn partneriaethau allanol cryf, nod y gwahanol brosiectau sy'n cyfrannu at Weithredu Mawndiroedd Cymru yw adfer ecosystemau sy’n gweithio ac sydd, yn eu tro, yn diogelu ac yn cloi carbon.

Gall ‘ailwlybhau’ mawndir liniaru effeithiau eraill newid hinsawdd fel llifogydd a pherygl tân.