Diddordeb yn Arwain at Ragor o Grantiau i Adfer Mawndir

Adfer mawndir yng Nghwm Elan gyda mawndir gwlyb a haul yn disgleirio

Wrth i drafodaethau ar uchelgeisiau datgarboneiddio byd-eang symud i frig yr agenda yn COP27 yn yr Aifft heddiw (11 Tachwedd), mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi fod ffenest newydd i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Grantiau Datblygu Mawndir wedi agor, sy’n cynnig rhwng £10,000 a £30,000 i baratoi tir ledled Cymru ar gyfer adfer mawndir.

Roedd y rownd gyntaf o Grantiau Datblygu, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, mor boblogaidd nes i’r gronfa wreiddiol o £100,000 gael ei hymestyn i £112,366 i gyd-fynd â safon uchel y ceisiadau.

Cyflwynwyd y Grantiau Datblygu mewn ymateb i geisiadau rhanddeiliaid am help i gyflymu'r gwaith o adfer mawndiroedd drwy gymorth ariannol i gasglu tystiolaeth am y tir cyn ei adfer, fel arolygon ac asesiadau cychwynnol.

Yn yr ail rownd hon o grantiau cystadleuol, a ddyfernir drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, £100,000 fydd cyfanswm y gronfa eto a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8/2/2023.

Mawndir yw'r adnodd tir mwyaf gwerthfawr yng Nghymru ar gyfer dal carbon, o ystyried ei botensial i storio 30% o garbon sy’n bodoli mewn pridd. Ond eto, amcangyfrifir fod 90% o fawndiroedd Cymru wedi'u difrodi ac yn gollwng nwyon tŷ gwydr, felly mae eu hadfer yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.

Esboniodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae llwyddiant y Grantiau Datblygu’n dangos uchelgais parhaus ein partneriaid i wella a datblygu’r gweithgarwch adfer mawndir yng Nghymru.
"Yng nghynhadledd hinsawdd COP27 yn yr Aifft heddiw, bydd arweinwyr y byd yn trafod y polisïau a'r camau sydd eu hangen i leihau olion traed carbon byd-eang wrth i ni symud tuag at ddatgarboneiddio.
"O ystyried cyfraniad cymharol gyflym a chost-effeithiol gwaith adfer mawndir wrth fynd i'r afael ag agweddau ar argyfyngau’r hinsawdd a natur, gall tirweddau Cymru chwarae rhan allweddol yn yr uchelgais hon."

Ychwanegodd Rhoswen Leonard, Prif Gynghorydd Arbenigol y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:

"Mae'r Grant Datblygu hwn yn helpu partneriaid newydd i gymryd y camau cyntaf i asesu eu mawndir cyn cyflwyno cynllun gweithredu i gefnogi adferiad yn y dyfodol. O ystyried diddordeb a safon y ceisiadau yn y rownd gyntaf, mae'n wych bod Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy o arian i ni ehangu'r cyfleoedd gyda'r ail rownd hon.
"Mae'r Grant Datblygu’n rhan o raglen fwy i adfer mawndir sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a sydd â gwerth o dros £2.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae gennym opsiynau ariannu gwahanol ar gyfer gwahanol amgylchiadau o ran cyflwr mawndir a thirfeddiannaeth ac rydym bob amser yn agored i sgyrsiau."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS:

"Mawndiroedd yw ein dalfa garbon ddaearol fwyaf ond gall eu gadael i ddirywio gyflymu newid hinsawdd. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi eleni y byddwn yn treblu ein targedau o ran adfer mawndiroedd, ac rwy nawr yn annog unrhyw un sydd â mawn ar ei dir i ystyried gwneud cais am gyllid, fel y gallwn helpu ein corsydd i’n gwarchod rhag argyfwng yr hinsawdd."

Gellir cael mynediad i'r broses ymgeisio am Grantiau Datblygu drwy dudalen we'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Bydd gweminarau am ddim yn Gymraeg a Saesneg hefyd yn cael eu cynnal ar 30/11/2022 i arwain darpar ymgeiswyr drwy'r broses.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a than reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, nod y pedwar prosiect Datblygu Mawndir llwyddiannus a gafodd gyllid yn y rownd gyntaf oedd defnyddio'r arian i fod yn barod ar gyfer gwaith ymarferol i adfer mawndiroedd erbyn mis Ebrill 2023.

Mae prosiectau arfaethedig y rownd gyntaf yn adlewyrchu ystod o ddibenion posib ar gyfer y Grant Datblygu, fel paratoi i ailsefydlu migwyn a chasglu data ar safleoedd gan gynnwys data GIS ar ddyfnder mawn a draeniad artiffisial ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol. Mae un o dderbynwyr y grant, Rhondda Cynon Taf, yn bwriadu defnyddio ei gyllid gwerth £22,366 i gefnogi'r gymuned drwy gydlynu'r holl fewnbynnau angenrheidiol i weithredu Cynllun Adfer Mawndiroedd Cwmparc.

Mae gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i arwain gydag ymagwedd gydlynus at Adfer Mawndir Cymru drwy ariannu, monitro safonol ac adrodd, a chysylltu â rhanddeiliaid i rannu arferion da. Mae adfer mawndir yn cyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.