Rhaid i bysgodfa rhwydi gafl ddal a rhyddhau i ddiogelu stociau eogiaid

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ysgrifennu at yr wyth pysgotwr sy’n pysgota â rhwydi gafl yn Black Rock i gadarnhau bod yn rhaid i'r bysgodfa weithredu trefn dal a rhyddhau unwaith eto yr haf hwn.

Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad â Natural England ac asesiad pellach o'r gweithgaredd, y cynefin gwarchodedig a statws stociau eogiaid. Daeth i'r un casgliad â'r llynedd – y gallai lladd hyd yn oed niferoedd bach o eogiaid effeithio'n negyddol ar boblogaethau sydd eisoes dan fygythiad.

Felly, mae’n angenrheidiol gofyn i'r pysgotwyr ddychwelyd unrhyw eog y maent yn ei ddal yn ofalus er mwyn sicrhau bod y rhywogaeth yn cael y cyfle gorau i oroesi a bridio.

Mewn trafodaethau ynghylch y trwyddedau eleni, roedd y pysgotwyr wedi gwirfoddoli i leihau eu dalfa drwyddedig o 15 i bump. Ond nid arweiniodd yr ystyriaeth hon at newid casgliad yr asesiad.

Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddwyd gorchymyn yn ei gwneud yn orfodol i bysgotwyr gwiail a rhwydi ddal a rhyddhau eogiaid ar holl afonydd Cymru fel rhan o ystod o fesurau i ddiogelu stociau eogiaid sy'n dirywio.

Mae Aber Afon Hafren lle mae'r bysgodfa wedi'i lleoli yn Safle Morol Ewropeaidd gwarchodedig, ac mae Afon Wysg a Gwy sy'n bwydo i mewn iddi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig lle mae eogiaid yn nodwedd ddynodedig.

Dywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau gyda CNC:

"Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn siomedig i'r pysgotwyr, ond mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i ddiogelu dyfodol ein stociau eogiaid yng Nghymru. Gyda phoblogaethau dan fygythiad mae pob eog yn bwysig a gallai colli niferoedd bach hyd yn oed gael effaith.
"Mae'r traddodiad o bysgota â rhwydi gafl yn Black Rock wedi cael ei basio i lawr drwy genedlaethau ac mae'n rhan bwysig o hanes a threftadaeth yr ardal. Nid ydym am atal pysgotwyr rhag defnyddio rhwydi gafl yn Black Rock. Fodd bynnag, mae angen iddynt newid eu harferion, fel y mae rhwydwyr a physgotwyr eraill wedi'i wneud ledled Cymru.
"Rydym yn gobeithio'n fawr y byddant yn defnyddio’r trwyddedau yr haf hwn ac yn cadw'r traddodiad yn fyw."