Diweddariad Ymchwiliad Tirlenwi Withyhedge 5.1.24.

Rydym yn dal i dderbyn nifer o adroddiadau am arogleuon yn ymwneud â Safle Tirlenwi Llwynhelyg, Sir Benfro, ac rydym yn deall y rhwystredigaeth a’r anfodlonrwydd y mae hyn yn ei achosi o fewn cymunedau lleol.

Cyn y Nadolig, fe wnaethom ni gyflwyno Hysbysiad Gorfodi i weithredwr y safle tirlenwi, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt orchuddio’r holl wastraff agored cyn gwyliau’r Nadolig i leihau arogleuon. Yn anffodus, er i’r safle gwblhau’r cam gweithredu hwn, ychydig iawn o effaith a gafodd hyn ar leihau arogleuon oddi ar y safle.

Ail agorodd y safle tirlenwi ar 2 Ionawr ac mae'n bosib bod trigolion wedi gweld cerbydau'n cyrraedd ers y dyddiad hwn. Ni fydd unrhyw wastraff pellach yn cael ei waredu yn y gell lle'r oedd tipio yn digwydd cyn y Nadolig. Mae adroddiad dilysu adeiladu wedi cael ei gytuno ar gyfer cell newydd, a bydd gwastraff bellach yn cael ei waredu yn y lleoliad hwn.

Yn ystod ein harchwiliad safle ar 19 Rhagfyr 2023, cynhaliwyd arolwg nwy tirlenwi cychwynnol yn y gell a ddefnyddiwyd i waredu gwastraff yn 2023. Mae’r canlyniadau’n dangos bod lefelau amrywiol o nwy yn cael ei ryddhau o’r gwastraff wrth iddo ddechrau dadelfennu. Rydym o’r farn mai dyma ffynhonnell fwyaf tebygol yr arogleuon oddi ar y safle.

Mae angen capio’r gell a gosod seilwaith casglu ac echdynnu nwy tirlenwi er mwyn rheoli’r nwy hwn. Mae hyn yn broses safonol ym maes tirlenwi, a dyma’r ffordd orau o ddatrys y problemau arogl parhaus.

Mae'r gweithredwr wedi cyflwyno cynllun i CNC yn amlinellu'r camau i gapio'r hen gell. Rydym yn adolygu'r ddogfen hon ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn nodi amserlen o 2 - 3 mis i gwblhau'r seilwaith capio a chasglu nwy tirlenwi; byddwn yn ceisio cyflymu’r broses lle bynnag y bo modd. Ni fydd y cynllun yn lleihau arogleuon a allai ymestyn y tu hwnt i’r safle ar unwaith neu yn y tymor byr. Bydd y broses hefyd yn golygu ailbroffilio'r gell cyn capio a gallai hyn gynhyrchu arogl ychwanegol.

Rydym wedi cynyddu ein presenoldeb rheoleiddio ar y safle a bydd ein goruchwyliaeth lefel uwch yn parhau hyd y gellir rhagweld. Rydym yn ymchwilio i nifer o achosion posibl o beidio â chydymffurfio â thrwyddedau a, lle bo hynny'n briodol, byddwn yn cymryd camau gorfodi pellach.

Rydym yn cydnabod yn llawn lefel yr anfodlonrwydd yn y cymunedau o amgylch safleoedd tirlenwi Llwynhelyg. Rydym hefyd yn cydnabod bod ein hadborth i’r rhai sydd wedi adrodd digwyddiadau wedi bod yn gyfyngedig o ganlyniad i nifer y galwadau a dderbyniwyd, a’n bod yn blaenoriaethu gwaith rheoleiddio ar y safle.

Gobeithiwn fod y diweddariad yn ddefnyddiol, ond rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod llawer o gwestiynau am y safle a’n gwaith rheoleiddio. Felly, rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod rhithwir ar-lein yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i fynd i'r afael â'r ymholiadau hyn. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn dilyn.

Rydym yn ddiolchgar i'r rhai sy'n codi'r mater hwn i ni ac yn annog unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan arogl, neu sydd â phryderon am lygredd o safle tirlenwi Llwynhelyg, i gysylltu â CNC drwy ffonio ein rhif 24 awr - 0300 065 3000, neu adrodd ar-lein yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad (naturalresources.wales). Sicrhewch fod yr adroddiad yn cynnwys disgrifiad o’r arogl, amser o’r dydd y sylwyd ar yr arogl, ac am ba hyd.