Cymru’n rhagori ar ei tharged adfer mawndir

Mae Cymru’n parhau i ragori ar ei tharged adfer mawndir cenedlaethol, gan adfer dros 3,600 hectar o fawndir oedd wedi’i ddifrodi – sy’n cyfateb i fwy na 3,600 o gaeau rygbi – mewn dim ond pum mlynedd.
Amcangyfrifir y bydd y camau gweithredu naturiol hyn i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn atal allyriadau sy'n cyfateb i dynnu 6,840 o geir oddi ar y ffordd.
Cyrhaeddwyd y garreg filltir drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a chyflawnwyd y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ochr yn ochr â rhwydwaith eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol. Targed gwreiddiol y Rhaglen oedd adfer 3,000 hectar erbyn 2025, ond mae wedi mynd 20% y tu hwnt i hynny – gan gyrraedd 3,600 hectar diolch i gynnydd yn ei waith cyflawni yn ystod y pumed flwyddyn.
Yn hollbwysig, mae'r mawndiroedd hyn sydd wedi’u hadfer yn helpu i storio tua 1.92 miliwn tunnell o garbon, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau Hinsawdd a Natur.
Wrth gyhoeddi’r canlyniadau yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
“Y llynedd cyhoeddais ein bod wedi cyrraedd ein targed adfer cychwynnol, ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd, flwyddyn yn gynnar. Rydym bellach wedi rhagori ar hynny drwy adfer cyfanswm o 3,600ha dros bum mlynedd gyntaf y Rhaglen. Hoffwn ddiolch i'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ac yn enwedig i'n partneriaid cyflawni am fynd y tu hwnt i'n disgwyliadau. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, ein chweched flwyddyn, rwyf wedi ymrwymo £5.2m ychwanegol i barhau ac adeiladu ar y gwaith gwych a gyflawnwyd hyd yn hyn, gan gynnwys cyfrannu at gyfleoedd ar gyfer swyddi gwyrdd yng Nghymru.”
Mae mawndiroedd yn storio tua 30% o’r carbon sydd i’w gael yn y tir yng Nghymru er mai dim ond 4% o’r tir maen nhw’n ei orchuddio. Ond mae tua 90% mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd, gan ollwng nwyon tŷ gwydr yn lle eu storio.
Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:
“Mae mawndiroedd yn un o’n hadnoddau naturiol mwyaf pwerus yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd – ond dim ond pan maen nhw’n iach. Ar hyn o bryd, mae tua 90% o fawndiroedd Cymru wedi'u difrodi, gan ollwng carbon yn lle ei storio. Dyna pam mae'r gwaith adfer hwn yn bwysig.
“Mewn dim ond pum mlynedd, rydym wedi helpu dros 3,600 hectar i ddechrau eu hadferiad – gan ddod â’r tirweddau hyn yn ôl yn fyw fel y gallant storio carbon, cynnal bywyd gwyllt, a dal dŵr yn fwy effeithiol. Mae'r enillion i'r hinsawdd, i natur, ac i bobl.”
Mae ymarferwyr mawndiroedd yn defnyddio dros 100 o ddulliau ymyrraeth. Y nod yw adfer y tir yn gors neu ffen iach, gan ffurfio haenau newydd o fawn sy'n dal carbon yn flynyddol, ar gyfradd o 1mm y flwyddyn. Eglurir pwysigrwydd adfer mawndir ymhellach yn y fideo byr hwn, gydag animeiddiad ategol Stori Mawndir Cymru. Gellir dod o hyd i Adroddiad Blynyddol Pumed Flwyddyn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar dudalen we’r Rhaglen gyda gweithgarwch adfer blaenorol wedi’i gofnodi ar Fap Data Mawndiroedd Cymru.