Dod o hyd i bryf mwyaf y DU yn Nyffryn Teifi ar ôl 20 mlynedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cofnodi presenoldeb pryf sydd mewn perygl, sef Asilus crabroniformis, mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a hynny ar ôl absenoldeb o 20 mlynedd.

Y tro diwethaf i’r pryf hwn, sy’n rhywogaeth bwysig i'r ardal ac i'r DU, gael ei weld yng Nghymru oedd yn 2007, ond nid oedd wedi cael ei gofnodi yn SoDdGA Hen Gilgwyn a Chae Helsop ers 2003, ardal sydd hefyd yn nodedig fel safle'r ornest ynnau olaf yng Nghymru.

Fel un o nifer o rywogaethau â blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UK BAP), mae ymdrechion cadwraethol wedi cael eu rhoi ar waith i wella niferoedd y boblogaeth ac atal y posibilrwydd fod y rhywogaeth yn diflannu am byth.

Mae'r Asilus crabroniformis yn dioddef o ganlyniad i golli cynefin i amaethyddiaeth a datblygiad ac oherwydd cylchred fridio'r rhywogaeth mae’r cemegion a ddefnyddir ar gyfer stoc pori yn cael cryn effaith arni.

Mae'r rhywogaeth arbennig hon yn dodwy ei wyau mewn tail anifeiliaid sy’n pori, fel gwartheg a cheffylau. Gall cemegau a ddefnyddir i drin parasitiaid yn yr anifeiliaid arwain hefyd at anffurfio neu ladd yr epil yn llwyr, a gall hyd yn oed un driniaeth wedi'i hamseru'n wael arwain at golled enfawr i'r boblogaeth.

Drwy weithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr ac amseru pryd y bydd da byw yn cael eu trin, fel nad yw’n amharu ar dymor bridio'r Asilus crabroniformis, gall CNC leihau'r risg i'r rhywogaeth a helpu i sicrhau bod mwy o'r epil yn llwyddo i ddod yn oedolion.

Meddai Michael Sneade, cynghorydd cadwraeth ar gyfer CNC:

“Yr Asilus crabroniformis yw un o bryfed mwyaf y DU ac maen nhw’n brif ysglyfaethwyr ym myd y pryfed fel larfa ac fel oedolion. Maen nhw’n chwarae rhan bwysig drwy gynnal cydbwysedd ecolegol sensitif ac mae eu presenoldeb fel arfer yn brawf fod gan yr ardal werth mawr o ran bioamrywiaeth.
“Mae'r rhywogaeth wedi bod mewn perygl ers y chwyldro diwydiannol ac mae'r niferoedd yn parhau i leihau ledled y DU oherwydd nifer o ffactorau a wnaed gan ddyn. Mae gennym gyfrifoldeb arbennig i sicrhau y gall y pryfyn pwysig hwn barhau i helpu cydbwysedd yr ecosystem.
“Rydym wedi gweithio'n ddiflino gyda'r tirfeddiannwr ar y safle hwn i ddiogelu un o gadarnleoedd olaf y rhywogaeth arbennig hon yng Ngheredigion. Mae gweld y niferoedd mwyaf erioed yn y SoDdGA hwn wedi bod yn bleser gwirioneddol i ni ac mae wedi cadarnhau bod arferion rheoli cywir yn gwbl allweddol wrth inni sicrhau fod y rhywogaeth hon yn gallu byw a ffynnu ochr yn ochr â phobl, nawr ac yn y dyfodol.”