Traws Eryri - lansio llwybr beicio 200km newydd yng Ngogledd Cymru

Traws Eryri yng Ngogledd Cymru yw llwybr beicio oddi ar y ffordd pellter hir diweddaraf y DU, a chafodd ei greu gan yr elusen Cycling UK.

Mae’r llwybr aml-ddiwrnod hwn yn ymdroelli am 122 milltir (196km) trwy ardaloedd gwyllt Cymru, a rhannau llai adnabyddus o Barc Cenedlaethol Eryri, heibio Aber Afon Mawddach, coedwigoedd Coed y Brenin a Gwydir, ac olion treftadaeth chwareli llechi Gogledd Cymru.

Gan fod y llwybr yn dringo i uchder o 4424m uwch lefel y môr – mwy na phedair gwaith uchder yr Wyddfa (1065m) – mae’n sicr yn llwybr i feicwyr anturus. Mae'r elusen yn amcangyfrif y bydd yn cymryd pedwar i bum niwrnod i’w reidio i feicwyr medrus ar feiciau oddi ar y ffordd arbennig, fel beiciau mynydd neu feiciau graean.

Meddai Sarah Mitchell, Prif weithredwr Cycling UK:

“Gellid dadlau mai Gogledd Cymru yw prifddinas antur Prydain ac mae gan yr ardal ganolfannau llwybrau beicio mynydd ardderchog. Gyda Traws Eryri, roeddem yn awyddus i ysbrydoli pobl i fentro y tu hwnt i’r goedwig ac archwilio mwy ar y Parc Cenedlaethol mewn ffordd gynaliadwy ac actif.
“Gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Cycling UK wedi creu llwybr yr ydym yn hyderus y bydd, cyn bo hir, ar restr fwced ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.”

Cafodd y gwaith o greu’r llwybr ei ariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a’i roi at ei gilydd gan yr elusen feicio dros gyfnod o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, ymgysylltodd Cycling UK â chymunedau lleol a beicwyr oddi ar y ffordd i gael eu barn am y llwybr gorau posibl, a chafwyd trafodaethau â thirfeddianwyr er mwyn cytuno ar fynediad newydd i feiciau ar rannau addas o’r llwybr i gysylltu’r llwybr â’i gilydd.

Meddai John Taylor, Arweinydd Tîm Hamdden Gogledd Orllewin Cymru:

“Rydym yn falch o fod wedi lansio Llwybr Traws Eryri mewn cydweithrediad â Cycling UK. Mae hwn yn brosiect cydweithredol rhagorol ac mae’r wybodaeth leol sydd gan ein tîm yn llunio prosiect twristiaeth gwirioneddol ardderchog a chynaliadwy.

Mae'r llwybr yn cysylltu canolfannau llwybrau beicio mynydd cyfredol â llwybr beicio oddi ar y ffordd, ac yn cyfuno'r hawliau tramwy a'r llwybrau cyfredol gorau i gynnig opsiwn beicio pellach, mwy gwyllt.

“Bydd hyn yn adeiladu ar y cynnyrch twristiaeth beicio sydd eisoes yn yr ardal, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn darparu atyniad beicio carbon isel, ac yn cynnig dewis arall yn lle twristiaeth sy’n ddibynnol ar geir.
“Mae’r math hwn o brosiect yn cyd-fynd â’n gwaith ehangach o fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Mae gwariant twristiaeth beicio yn y DU yn cynhyrchu £520m y flwyddyn. Ceir 1.23 miliwn o deithiau dros nos bob blwyddyn, sydd o fudd arbennig i fusnesau bach, ac mae’r rhain yn cyfrannu £433m i’r economi. Mae arolwg o feicwyr Llwybr y Brenin Alfred, sy’n cychwyn yng Nghaer-wynt ac a gafodd ei lansio gan Cycling UK yn 2020, yn dangos fod pob beiciwr, ar gyfartaledd, yn gwario £83.60 y dydd ar fwyd a llety.

Mae Cycling UK yn gobeithio y bydd y diddordeb yn Traws Eryri yn arwain at fanteision economaidd tebyg i sector lletygarwch Cymru ar hyd y llwybr.

“Nid dim ond ar gyfer y rhai sy’n caru bod allan yn yr awyr agored y mae llwybrau fel Traws Eryri, ond fel y mae Cycling UK wedi’i ganfod, maen nhw o fudd hefyd i’r economi wledig leol sy’n elwa ar fusnes gan ymwelwyr,” meddai Sarah Mitchell. “Ar lwybr Traws Eryri, fe fyddwch chi eisiau teithio’n ysgafn er mwyn cyrraedd y bryniau a manteisio’n llawn ar y mannau cyflenwi yn y siopau lleol, y tafarndai a’r caffis y byddwch yn mynd heibio iddyn nhw – a bydd llawer o’r rhain yn weddol ddiarffordd.”

Mae Traws Eryri yn rhan o nod ehangach Cycling UK o greu rhwydwaith o lwybrau pellter hir oddi ar y ffordd ar hyd a lled Prydain, sy’n mynd heibio mannau rhyfeddol a thirweddau gwyllt.

Dyma’r seithfed llwybr beicio pellter hir i Cycling UK ei lansio ers i’w lwybr beicio North Downs Way gael ei lansio yn 2018.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.cyclinguk.org/traws-eryri