10 ffordd i ymddWYn yn gyfrifol yr awyr agored y Pasg hwn

O fynd ar helfa wyau Pasg, dal i fyny gyda ffrindiau, neu fynd am dro gyda’r teulu yn y coed, bydd llawer ohonom yn mynd allan ac yn mwynhau cefn gwlad y Pasg hwn.

Gyda’i bryniau hardd a llwybrau troellog, ei thraethau geirwon a chaeau llawn blodau, mae Cymru'n frith o olygfeydd hardd i’w darganfod wrth i'r gwanwyn gyrraedd ac wrth i’r dyddiau ymestyn.

Ynghyd â'r penderfyniad hollbwysig o ran ble i stopio am luniaeth ar y ffordd, dyma restr o 10 peth y mae angen i chi eu cadw mewn cof wrth fwynhau cefn gwlad y Pasg hwn:

  1. Gwiriwch eich llwybr a’r amodau lleol, a chynlluniwch eich antur yn ofalus: Mae tywydd Cymru yn anwadal, felly wrth i’r gwanwyn gyrraedd, mae’n bwysig eich bod chi’n barod am yr amodau. A pheidiwch â dibynnu ar Wi-Fi neu signal ffôn cryf pan fyddwch chi allan; sicrhewch fod gennych fap wrth law neu lawrlwythwch fap o'ch llwybr i'w ddefnyddio all-lein.

  2. Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi’u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael: ymgyfarwyddwch ag arwyddion a symbolau cefn gwlad, a chadwch olwg amdanynt bob amser. Er enghraifft, a oeddech chi'n gwybod nad yw'r arwyddion mes yn symbol o fwyd cwningod y Pasg, ond yn hytrach o Lwybr Cenedlaethol!

  3. Byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y lle: lledaenwch ychydig o lawenydd dros y Pasg a chyfarchwch bwy bynnag a welwch chi, gallai ambell air drawsnewid diwrnod rhywun (mae hyn yn rhan o’r Cod Cefn Gwlad - rydyn ni’n griw cyfeillgar!).

  4. Byddwch yn ystyriol i’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau: parchwch bawb a phopeth y dewch ar ei draws yng nghefn gwlad, yn enwedig y ffermwyr sy’n gweithio bob awr o’r dydd – dim gwyliau Pasg iddyn nhw!

  5. Gofalwch am natur - peidiwch ag achosi difrod neu aflonyddwch: gadewch greigiau, cerrig, wyau (heblaw am y rhai siocled), planhigion a bywyd gwyllt fel yr oeddent cyn i chi gyrraedd; mae hynny'n cynnwys eirlysiau (yr arwydd cyntaf o’r gwanwyn!), gloÿnnod byw yn gorffwys yn yr haul, a llyffantod dafadennog yn mudo!

  6. Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent: p’un a ydych chi ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, gwnewch yn siŵr bod y person olaf yn gwybod sut i adael y giatiau. Mae ffermwyr yn aml yn cau giatiau i gadw anifeiliaid i mewn neu'n eu gadael ar agor er mwyn rhoi mynediad i fwyd a dŵr. Gallech hyd yn oed droi hyn yn gêm i ddiddanu’r plant - pwy yw ceidwad y giatiau ar eich taith gerdded?

  7. Peidiwch â rhwystro mynediad i fynedfeydd neu dramwyfeydd pan fyddwch yn parcio: parciwch mewn mannau diogel amlwg yn unig a gwnewch yn siŵr nad yw eich car, eich beic neu'ch sgwter yn rhwystro mynediad pwysig i ffermwyr a phobl sy'n byw yno.

  8. Ewch â'ch sbwriel adref - peidiwch â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad: cofiwch ddod â bag gyda chi a mynd â'ch sbwriel a'ch gwastraff bwyd adref o bicnics a danteithion y Pasg. Defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchwch os gallwch chi; mae sbwriel yn difetha harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt a da byw. Efallai fod cwningen y Pasg yn hoff o wyau siocled a deunydd lapio lliwgar, ond dydyn nhw ddim yn gwneud lles i gwningod ac ysgyfarnogod gwyllt!

  9. Cadwch eich cŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser: mae cefn gwlad, parciau a’r arfordir yn lleoedd gwych i fynd â’ch ci am ymarfer corff ond mae angen ichi ystyried pobl ac anifeiliaid eraill, yn enwedig adar sy’n nythu ar y ddaear ac ŵyn yr adeg hon o’r flwyddyn. Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol, ar dennyn, neu yn y golwg i sicrhau ei fod yn cadw draw oddi wrth fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill oni bai ei fod yn cael ei alw draw.

  10. Bagiwch a biniwch faw ci mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref: does neb eisiau i’w gwyliau Pasg gael eu difetha gan faw ci sydd wedi’i adael ar lwybr felly glanhewch ar ôl eich ci bob amser i atal salwch mewn pobl, da byw a bywyd gwyllt. Peidiwch byth â gadael bagiau o faw ci o gwmpas, hyd yn oed os ydych chi'n bwriadu eu casglu yn nes ymlaen. Gall bagiau a chynwysyddion â diaroglyddion wneud bagiau o faw cŵn yn haws i'w cario. Os na allwch ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus, dylech fynd ag ef adref a defnyddio'ch bin eich hun.

Gellir dod o hyd i'r cyngor hwn a mwy yn y Cod Cefn Gwlad. Dysgwch fwy yma: www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad