Astudiaeth o adar yn Niwbwrch yn cyrraedd ei degfed flwyddyn
Mae Christopher Bridge, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, yn astudio poblogaeth fawr o gyffylogod yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn.
Yn y blog hwn, mae'n ysgrifennu am yr astudiaeth sydd wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd, gan ‘fodrwyo’ mwy na 300 o gyffylogod o amgylch Niwbwrch.
Mae'r cyffylog, neu Scolopax rusticola, yn un o’r rhywogaethau ar Restr Prydain o Adar sy’n Bridio sydd heb ei hastudio rhyw lawer.
Mae’n aderyn hynod swil sy’n nosol yn bennaf, felly prin iawn mae pobl yn ei weld. Daw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am yr aderyn gan helwyr a chiperiaid, gan ei fod yn aml yn cael ei saethu.
Y prif offeryn ymchwil i astudio'r rhywogaeth hon yw modrwyo adar, sef dull ymchwil lle mae modrwywr adar trwyddedig yn gosod cylch metel bach ar goes yr aderyn. Mae gan bob modrwy ei rhif unigryw ei hun sy'n ein galluogi i fonitro ac astudio'r adar yn effeithlon.
Oherwydd natur swil y cyffylog, o'i gymharu â llawer o rywogaethau eraill, ychydig iawn sy'n cael eu modrwyo bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Cysylltiad rhwng Cymdeithas Adareg Prydain (BTO), The Woodcock Network a'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt yw'r prif ffynonellau y tu ôl i fodrwyo ac astudio cyffylogod.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch. Mae'r wybodaeth arbenigol hon a rheolaeth o bantiau agored y twyni, y coetiroedd brodorol a'r tir prysgwydd, yn ogystal â'r brithwaith o goetir cymysg, yn gwbl hanfodol ar gyfer y boblogaeth o gyffylogod sy'n gaeafu yn yr ardal.
Mae'r cynefinoedd hyn yn hanfodol gan eu bod yn darparu safle clwydo diogel a ffynhonnell fwyd doreithiog i gyffylogod wrth iddynt hedfan allan o'r goedwig wrth iddi nosi, o'r coetiroedd conwydd a chollddail cymysg i fwydo yn y nos.
Mae'r cyfuniad o'r cynefinoedd hyn yn creu hafan i boblogaeth nodedig o fawr o gyffylogod sy'n gaeafu.
Rwy'n gweithio gyda CNC a'r BTO ac mae’r cyfan yn cysylltu â'r agenda ryngwladol bwysig ar gyfer ein cyffylogod mudol ac yn creu gwelliant enfawr o ran bioamrywiaeth yr ardal.
Mae'r gwaith rheoli ac adfer parhaus ar gyfer systemau’r twyni agored hefyd yn hanfodol gan fod yr ardaloedd o bantiau gwlyb yn darparu cynefin hanfodol i'r rhywogaeth chwilota ynddo.
Nid oes gan Ynys Môn y gyfran uchaf o goetiroedd yn y byd, ond mae ganddi rai ardaloedd eithaf pwysig o goetir, yn enwedig yn Niwbwrch.
Mae'r ddaear drwchus, llaith a gwlyb a'r cymysgedd o lwyni a choed llai, yn efelychu tiroedd bridio'r cyffylog draw yn Sgandinafia.
Bydd y cyffylog yn eistedd i fyny yn y coed drwy'r dydd, gan gadw’n ddiogel ac wrth iddi nosi, bydd yn hedfan allan ar y gwningar i fwydo yn y nos. Ar y rhan fwyaf o ymweliadau roedd hyn yn amlwg wrth weld adar yn bwydo ar ochr y prif ffyrdd o fewn y goedwig a'u gweld yn hedfan allan dros y coetir ac i gyfeiriad y gwningar.
Mae’r da byw, defaid, gwartheg a cheffylau sy’n pori yn darparu ffynhonnell ychwanegol o reolaeth ar y cynefin a hefyd ffynhonnell fwyd ychwanegol. Mae'r da byw yn helpu i gadw hyd ac uchder y glaswellt a'r cynefin i'r lefelau a argymhellir.
Ar nodyn olaf, mae Coedwig Niwbwrch a Thywyn Niwbwrch, fel un, yn safle pwysig iawn i gyffylogod a hoffwn feddwl y byddwn yn ymdrechu i gydweithio a gwarchod y boblogaeth bwysig iawn hon o adar a'r ecosystem drwy gydol oes y prosiect hwn.

Llun: Hamza Yassin