Canol De Cymru yn dathlu Wythnos Natur Cymru

Mae Wythnos Natur Cymru yn dathlu byd natur ac yn arddangos rhywogaethau a chynefinoedd arbennig Cymru.

Mewn argyfwng natur ac argyfwng hinsawdd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwerthfawrogi a gwarchod byd natur. Mae Wythnos Natur Cymru yn annog pobl i fwynhau a gwerthfawrogi byd natur yng Nghymru, gan archwilio ardaloedd lleol a dysgu mwy.

Mae Wythnos Natur Cymru, a sefydlwyd yn 2002, yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau ar thema natur a gydlynir gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae Wythnos Natur Cymru yn bosibl oherwydd bod sefydliadau sy'n gweithio dros fyd natur yn cynnal digwyddiadau a thrwy gyfranogiad gan Bartneriaethau Natur Lleol, cymunedau, ysgolion, busnesau ac unigolion.

Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ffodus iawn o fod â chyfoeth o fyd natur ar garreg ein drws, o goetiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol i ieir bach yr haf prin a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ceir ardaloedd helaeth o ffriddoedd, sef clytwaith pwysig o gynefinoedd a geir yn aml ar lethrau dyffrynnoedd sy’n ffurfio cefndir ffisegol a diwylliannol i’r cymunedau lleol, ac yn gweithredu fel pont rhwng ecosystemau trefol, lled-naturiol ac amaethyddol. Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg hefyd yma ac mae llawer o’n hardaloedd trefol yn agos at fannau gwyrdd.

Mae CNC wedi ymrwymo i Adfer Natur yn ein cynllun corfforaethol presennol ac ochr yn ochr â’n partneriaid rydym yn gweithio’n galed yng Nghanol De Cymru i nodi cyfleoedd, gweithredu a chreu newid cadarnhaol.

Dysgwch fwy am rywfaint o’r gwaith diweddar rydym wedi bod yn rhan ohono isod:

Byddwn yn amddiffyn byd natur

Erlyn dyn o Fro Morgannwg am ddinistrio cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt | Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol | NWCU

Byddwn yn adfer byd natur

Cyfoeth Naturiol Cymru / Ailgyflwyno planhigyn arfordirol mewn perygl i ardal gadwraeth yn Ne Cymru

Byddwn ni'n sefydliad enghreifftiol o ran bod yn bositif am natur

Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhostir prin yn adfywio ar ôl i goed gael eu cwympo yng nghoedwig Hensol

Byddwn yn ailgysylltu natur a phobl

Rydym yn bartner mewn Partneriaethau Natur Lleol ar draws Canol De Cymru ac yn eistedd ar grwpiau llywio Partneriaethau Natur Lleol. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn ffurfio rhwydwaith adfer natur sy'n ymgysylltu â phawb o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gymunedau a busnesau. Mae Partneriaethau Natur Lleol yn canolbwyntio ar weithredu, cynllunio a chysylltu pobl â byd natur.

Byddwn ni’n sicrhau bod natur yn cael ei barchu a'i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau

Fel aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg rydym wedi bod yn gweithio i gynyddu amlygrwydd yr argyfwng natur. Rydym wedi derbyn cymeradwyaeth lawn gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, ac rydym bellach wrthi’n adolygu Siarter Argyfwng yr Hinsawdd yn swyddogol i ymgorffori’r Argyfwng Natur ymhellach. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl Siarter Argyfwng yr Hinsawdd a Natur ym mis Mai.

Os hoffech chi ddathlu Wythnos Natur Cymru, cliciwch i ddarganfod mwy a chymryd rhan.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru