Adfywio'r twyni yng Ngronant a Thalacre
Ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin bydd pobl ledled y byd yn dathlu Diwrnod Twyni Tywod y Byd ac yn achub ar y cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd gwarchod a gwella’r cynefinoedd arfordirol hanfodol hyn.
Hwn fydd y pedwerydd dathliad blynyddol a sefydlwyd yn 2021 gan brosiectau Twyni Byw a Twyni ar Symud.
Yma mae Neil Smith, Cynghorydd Cadwraeth CNC, yn siarad â ni am bwysigrwydd cynefinoedd twyni tywod a’n gwaith i’w hadfer yng Ngronant a Thalacre.
--
Mae twyni tywod yn aml yn gynefinoedd sy’n cael eu hanwybyddu, ond maen nhw’n gartref i amrywiaeth o fflora a ffawna prin, fel môr-wenoliaid bach, tegeirianau, llyffantod y twyni, yn ogystal â myrdd o infertebratau fel gloÿnnod byw, gwyfynod a gwenyn turio, y mae llawer ohonynt wedi’u categoreiddio fel rhywogaethau dan fygythiad neu agored i niwed.
Nod Diwrnod Twyni Tywod y Byd yw tynnu sylw at y tirweddau unigryw hyn, sy’n pontio’r tir a’r môr, ac sy’n rhai o’r lleoliadau gorau ar gyfer bywyd gwyllt yng Nghymru, yn ogystal â bod yn lleoedd ardderchog i ymlacio, dadflino ac ailgysylltu â natur.
Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Gronant a Thalacre rhwng Prestatyn a Thalacre, ac mae o ddiddordeb arbennig oherwydd y planhigion, y trychfilod a’r adar sydd yno. Mae’r twyni yng Ngronant a Thalacre hefyd yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Aber Afon Dyfrdwy sy’n bwysig yn rhyngwladol.
Mae'r twyni hyn yn cynrychioli’r unig ran sylweddol sy’n weddill o system dwyni arfordirol Gogledd Ddwyrain Cymru a oedd ar un adeg yn ardal helaeth a oedd yn ymestyn o'r Rhyl i'r Parlwr Du, gydag un toriad yn unig yng nghilfach Gwter Prestatyn. Dyma hefyd y prif safle yng Nghymru sy'n gartref i lyffant y twyni.
Yn anffodus, mae rhannau o dwyni Gronant a Thalacre wedi bod dan bwysau ers peth amser. Felly mae swyddogion CNC, mewn partneriaeth agos ag Eni (UK) Ltd. a Presthaven Holiday Park, wedi bod yn buddsoddi’n ddiweddar mewn gwaith adfer ar draws Gronant a Thalacre, ac ar yr un pryd rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych er mwyn cefnogi dyletswyddau warden y nythfa o fôr-wenoliaid bach.
Rydym wedi chwarae rôl arweiniol o ran creu ardaloedd o gynefin tywod noeth newydd yn y llennyrch agored, a fydd, gobeithio, yn rhoi hwb i blanhigion ac infertebratau prin sy’n dibynnu ar y cynefin hwn. Bydd hyn hefyd o fudd i boblogaeth llyffant y twyni.
Darn pwysig arall o waith i helpu i amddiffyn y twyni yw torri gwair. Yn absenoldeb pori, mae contractwyr wedi torri mannau o laswelltir y twyni i helpu i gadw’r llystyfiant yn fyr a fydd yn caniatáu i degeirianau ffynnu.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i gael gwared ar rywogaethau goresgynnol o'r twyni tywod er mwyn adfer eu bioamrywiaeth naturiol. Dechreuodd barf-yr-hen-ŵr, ac i raddau llai rhafnwydden y môr a Rosa regosa, ledaenu'n eang ar draws y safle. Mae'r rhain yn rhan o raglen barhaus i leihau eu heffaith ar ein rhywogaethau brodorol.
Rhoddwyd cynlluniau ar waith yn ddiweddar i adfer dwy ardal o laciau twyni yn y Ddrysfa a pharhau i reoli rhywogaethau goresgynnol er mwyn gwella cyflwr y system dwyni tywod hardd hon sy'n rhyngwladol bwysig.
Mewn mannau eraill mae prosiect Caru Aber Dyfrdwy yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o dwyni tywod a chynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig eraill Aber Afon Dyfrdwy. Mae prosiect Partneriaeth Dalgylch y Ddyfrdwy Lanwol wedi’i gynllunio i ysbrydoli cymunedau arfordirol Cilgwri a Sir y Fflint a Sir Ddinbych ynglŷn â threftadaeth naturiol Aber Afon Dyfrdwy, ac fe’i cefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg twyni tywod Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Twyni tywod.