Cyfres newydd o weminarau SoNaRR 2025 yn lansio ym mis Medi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn lansio cyfres newydd o weminarau yr hydref hwn i helpu partneriaid, rhanddeiliaid ac ymarferwyr i archwilio'r dystiolaeth a'r mewnwelediadau ymarferol o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2025.
Mae'r gyfres yn gyfle i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu amgylchedd naturiol Cymru a'r camau sydd eu hangen i ysgogi newid cadarnhaol.
Gan redeg rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, bydd y sesiynau ar-lein rhad ac am ddim yn archwilio rhai o themâu allweddol yr adroddiad ac yn dangos sut y gall tystiolaeth lywio polisi, cynllunio, gwneud penderfyniadau a gweithredu ymarferol ledled Cymru.
Mae SoNaRR 2025 yn amlygu'r pwysau sylweddol sy'n wynebu amgylchedd naturiol Cymru a'r angen am weithredu ar draws y system gyfan i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llwybrau ymarferol ar gyfer newid mewn meysydd fel bwyd, ynni, teithio a'r amgylchedd adeiledig.
Bydd y gyfres o weminarau yn rhoi cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, gofyn cwestiynau, ac archwilio sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf i gefnogi penderfyniadau a gweithredu yn eich maes gwaith eich hun.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar:
- Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym
- Pam mae'n bwysig
- Beth sydd eisoes yn gweithio
- Y ffactorau sy'n sbarduno newid a'r cyfleoedd i weithredu
- Sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth yn ymarferol
Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau drwy sesiwn Holi ac Ateb, a bydd recordiadau a deunyddiau ategol ar gael wedi'r digwyddiad.
Rhaglen y gweminarau
Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros foroedd Cymru
- Pwnc: Morol
- Dyddiad: 16 Meid
- Amser: 12pm
Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros afonydd Cymr
- Pwnc: Dŵr croyw a physgodfeydd
- Dyddiad: 14 Hydref
- Amser: 1:00pm
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros dir Cymru
- Pwnc: Rheoli tir yn gynaliadwy a choetiroedd
- Dyddiad: 14 Tachwedd
- Amser: 2:00pm
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros anifeiliaid a phlanhigion Cymru
- Pwnc: Bioamrywiaeth
- Dyddiad: 1 Tachwedd
- Amser: 11:00am
Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros Gymru Drefol
- Pwnc: Amgylcheddau trefol
- Dyddiad: 10 Rhagfyr
- Amser: 2:00pm
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r weminarau yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys:
- Cyrff cyhoeddus
- Sefydliadau amgylcheddol a chadwraeth
- Sefydliadau academaidd ac ymchwil
- Busnesau a chynrychiolwyr diwydiant
- Llunwyr polisi ac ymarferwyr
- Grwpiau cymunedol ac unigolion sydd â diddordeb
P'un a ydych yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau, datblygu polisi neu gyflawni prosiectau ar lawr gwlad, bydd y sesiynau hyn yn cynnig mewnwelediadau defnyddiol a chyfleoedd i drafod gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru.
Cofrestrwch nawr
Mae'r sesiynau yn rhad ac am ddim, ond mae angen cofrestru ymlaen llaw.
Cofrestrwch ar gyfer cyfres weminarau SoNaRR 2025
Rhagor o wybodaeth
- Darllenwch adroddiad SoNaRR 2025 a'r adnoddau ategol
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gyfres, cysylltwch â thîm SoNaRR: sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk