Blog Natur am Byth – Ionawr 2024
Ysgrifennwyd gan John Clark – Rheolwr Rhaglen Natur am Byth
Partneriaeth gref sy’n gweithredu ar ran rhywogaethau a chymunedau
Ers mis Rhagfyr dwi wedi bod yng nghanol llu o weithgarwch Natur am Byth gyda llawer o staff newydd yn dechrau eu swyddi ar draws y bartneriaeth. Fel rheolwr rhaglen rwy'n gyfrifol am broses ymsefydlu ein holl gydweithwyr Natur am Byth, gan rannu sut y gwnaethom wireddu’r bartneriaeth ac esblygiad nodau a gweledigaeth ein partneriaeth. Dwi wedi croesawu'r cyfle i gamu’n ôl ac ystyried yn llawn pa mor bell mae pethau wedi dod ers 2018 pan ddechreuodd y cydweithio hwn gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bu'n bleser teithio ledled Cymru i gwrdd â phob aelod newydd o staff, a'u clywed yn siarad am eu cefndiroedd amrywiol a meithrin perthnasoedd newydd. Mae eu brwdfrydedd dros achub rhywogaethau a chysylltu pobl â natur yn rym mor gadarnhaol, ac rwy'n falch y gallwn drosglwyddo holl brosiectau cyffrous Natur Am Byth i dimau deinamig o'r fath.
Myfyrio wrth edrych tua'r dyfodol
Un peth sydd wedi fy nharo yw pa mor brofiadol yw ein cydweithwyr newydd mewn perthynas ag ymgysylltu â'r gymuned a chadwraeth gymhwysol. Rwy'n cofio yn gynnar yn fy ngyrfa y byddai staff yn aml yn cael eu rhoi yn y criw 'sy'n canolbwyntio ar bobl' neu'r criw 'ecoleg', felly mae'n galonogol gweld set sgiliau mor gytbwys ar draws pob un o'n timau prosiect. Wrth ddatblygu ein cynlluniau am weithgareddau a'n gweledigaeth ar gyfer y bartneriaeth fe wnaethom ganolbwyntio ar wreiddio gwaith rheoli cynefinoedd ac allgymorth cymunedol yn ein holl brosiectau. Mae'n rhoi cymaint o foddhad i mi weld y gwaith cynllunio hwn yn cael ei wireddu gyda'r 21 aelod o staff newydd.
Mae’r holl fyfyrio yma a’r sesiynau cynefino niferus wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod wedi bod yn y maes yma ers peth amser bellach (!). Camais yn betrus i faes cadwraeth natur am y tro cyntaf yn y 2000au cynnar ar ôl i mi raddio mewn Swoleg. I mi, a dechreuwyr newydd eraill, roedd rolau o fewn prosiectau a rhaglenni a ariannwyd gan grantiau, fel Natur am Byth, yn aml yn sylfaen i yrfa ym maes yr amgylchedd. Bryd hynny, prin yr oedd y lleisiau oedd yn gofyn i'n sector adlewyrchu mwy o amrywiaeth yn cael eu clywed, ond drwy lwc dda cefais fy hun yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr gwych o’r Black Environment Network yng ngorllewin Yr Alban ac yn raddol creais rwydwaith bach o bobl LHDTC+ eraill oedd yn gweithio yn y sector.
Rwy'n falch ein bod ni, drwy Natur am Byth, wedi sicrhau bod cynhwysiant ac amrywiaeth yn ganolog i genhadaeth ein rhaglen – nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn i wedi'i ddychmygu wrth i mi ddechrau fy ngyrfa. Rwy'n gobeithio na fydd yn rhaid i'r don bresennol o staff a gwirfoddolwyr sy'n newydd i gadwraeth natur ddibynnu ar lwc dda i ddod o hyd i bobl fel nhw. Yn y bartneriaeth hon rydym o ddifrif ynglŷn â’r angen am sector amgylcheddol sy’n adlewyrchu’n well y genedl y mae’n ei gwasanaethu. O ganlyniad, byddwn yn fwy gwydn, ac yn ennill mwy o gefnogaeth.
Ymunwch â ni ar ein taith
I gael y newyddion diweddaraf am y bartneriaeth, gweithgareddau a digwyddiadau, gallwch gofrestru ar gyfer e-gylchlythyr chwarterol Natur am Byth yma a dod yn rhan o raglen adfer rhywogaethau fwyaf Cymru!