Trwsio’r meddwl - manteision ‘dos o natur’ ar gyfer iechyd meddwl
Mae llawer ohonom wedi teimlo’n bryderus, dan straen neu’n isel ar adegau, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd pandemig y coronafeirws.
Gorbryder, straen, iselder
Mae iechyd meddwl yn fater o bwys sy’n effeithio ar lawer o unigolion ac mae’n cael effaith ar eu teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr, ond hefyd mae iddo oblygiadau cyffredin iawn o ran iechyd cyhoeddus, yr economi a chymdeithas gyfan.
Mae Covid 19 wedi achosi cynnydd sylweddol mewn materion iechyd meddwl gyda’r dystiolaeth ddiweddaraf o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod:
- 1 ymhob 5 oedolyn (21%) wedi profi iselder yn gynnar yn 2021 – sef dwbl y nifer yn 2019. Roedd lefelau iselder ymhlith oedolion ifanc a merched hyd yn oed yn uwch yn ystod pandemig Covid.
- Cododd lefelau gorbryder yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i’w lefel uchaf ers dechrau cadw cofnodion, a bu lleihad sylweddol o ran hapusrwydd pobl yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
Mae ymateb i’r mater tyngedfennol hwn yn gofyn am ymateb cenedlaethol gan bob sector. Felly sut gall natur ac ymgysylltu â’r awyr agored helpu gyda’r argyfwng iechyd meddwl hwn ar draws cymdeithas?
Beth sy’n gweithio ar gyfer iechyd meddwl? Dos o natur!
Mae corff cynyddol o dystiolaeth gadarn yn dangos sut y gall ein hymgysylltiad â natur gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Mind, yr elusen genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl, sy’n hyrwyddwr cryf dros dreulio mwy o amser yn yr awyr agored i fanteisio i’r eithaf ar yr holl fuddion y gall hyn eu cynnig i bobl ag ystod o gyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder, iselder ac OCD.
Ond ydyn ni’n gwybod pa ‘ddos o natur’ sy’n gweithio ar gyfer iechyd meddwl? A oes gwahaniaeth faint o amser a dreuliwn yn yr awyr agored neu ba mor aml yr ydyn ni’n mynd allan? A yw gwahanol weithgareddau neu fathau o ofod gwyrdd yn gwneud gwahaniaeth i wella iechyd meddwl a lles?
Dengys gwaith ymchwil diweddar wedi’i seilio ar arolwg ar raddfa fawr fod treulio dros 2 awr yr wythnos ym myd natur yn cael ei gysylltu’n gryf gyda chynnydd mewn iechyd da a lles. Canfu y gellid cael y manteision hyn o un ymweliad hir neu nifer o ymweliadau byrrach – nid oes gwahaniaeth o ran effaith.
Yn ogystal, mae ymchwil bellach wedi defnyddio mesuriadau ffisiolegol gwrthrychol ar gyfer straen yn seiliedig ar brofi lefelau gwirioneddol o gortisol (yr ‘hormon straen’). Canfu hyn fod bod mewn amgylcheddau awyr agored wedi achosi gostyngiad sylweddol yn lefel y cortisol, mesur cadarn o straen, ar ôl ‘dos o natur’ o 30 munud yn unig.
Roedd yr un mor effeithiol os oedd pobl yn ymlacio y tu allan yn unig, neu yn cymryd rhan mewn gweithgareddau mwy egnïol, gan ddangos y gall natur fod o fudd i iechyd meddwl drwy amrywiaeth eang o weithgareddau.
Felly rydym bellach yn gwybod bod treulio amser y tu allan yng nghanol natur am o leiaf 30 munud ar y tro am fwy na 2 awr yr wythnos, un ai’n ymlacio neu’n gwneud gweithgareddau mwy actif, yn lleihau straen yn sylweddol ac yn gwella ein hiechyd meddwl a’n lles cyffredinol.
Manteision natur i iechyd meddwl yn ystod Covid 19
Felly sut y gellir defnyddio’r manteision profedig hyn nawr i fynd i’r afael â her iechyd cyhoeddus Covid 19? Er bod cyfyngiadau sylweddol wedi bod yn ystod y pandemig, yn arbennig felly yn ystod y ‘cyfnodau clo’, rydym wedi gallu mynd allan i ymarfer corff o leiaf unwaith y dydd ac ymweld â’n man gwyrdd lleol. Yn ystod cyfnodau pan oedd cyfyngiadau wedi llacio ychydig, rydym wedi medru mwynhau ymweld ag ardaloedd eraill ychydig ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys parciau cenedlaethol a gwarchodfeydd natur.
Mae pwysigrwydd y ‘mannau gwyrdd a glas’ hyn i iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig wedi ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth hanfodol. Canfuwyd bod ymgysylltu â natur, mynd am dro, eistedd yn y parc, yn lleihau straen a gorbryder, tra gall ymarfer corff yn yr awyr agored leihau iselder. Mae arolygon diweddar o ymweliadau â choetiroedd CNC wedi canfod bod pobl yn gwerthfawrogi mynediad i natur fel ffordd o ddianc rhag ofn seicolegol y pandemig:
Er fy mod yn lwcus o gael gardd, helpodd y gallu i gerdded mewn amgylchedd mor wych i fynd â rhywfaint o ofn y pandemig i ffwrdd. Mae’n anodd peidio â chredu y byddwch yn goroesi pan fyddwch yn cerdded yn y coedwigoedd hyn.
Yn ogystal â darparu gofod gwyrdd hanfodol i ganiatáu i bobl leol ac ymwelwyr ymgysylltu â natur ar gyfer buddion iechyd meddwl cyffredinol, cydnabyddir ‘amgylchedd yr awyr agored’ yn ‘ofod cymharol ddiogel’ gyda risg is o drosglwyddo Covid 19. Mae felly yn cynnig cyfleoedd i wasanaethau iechyd meddwl ddefnyddio gofod gwyrdd ar gyfer sesiynau therapiwtig.
Cefnogir hyn gan Gymdeithas Seicolegol Prydain a gyhoeddodd ganllawiau yn ddiweddar yn annog seicolegwyr clinigol i ddefnyddio’r dull hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyfuno therapi confensiynol dan do, gyda’r buddion y gwyddom amdanynt o ymgysylltu â natur, gan hefyd fodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol yn unol ag argymhellion Covid 19.
Oherwydd Covid 19, mae angen natur yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl. Felly cymerwch amser i fynd allan i’r awyr agored a chael ‘dos o natur’ heddiw!