Cydweithio dros Fyd Natur: Casglu Hadau Coed yn Nant Ffrancon

Yn ddiweddar, daeth staff o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ynghyd ar gyfer diwrnod o wirfoddoli yn nyffryn godidog Nant Ffrancon yn Eryri. Fe fuon nhw’n casglu hadau o goed lleol a fydd yn helpu i greu coetir newydd ac adfer cynefinoedd hanfodol yn yr ardal.
Dechreuodd y diwrnod gyda thro drwy dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nant Ffrancon, gan chwilio am rywogaethau addas o goed, er enghraifft y ddraenen wen, y ddraenen ddu, coed criafol a choed cyll. Nid yn unig mae’r rhywogaethau hyn yn frodorol ond maent hefyd yn wydn, ar ôl addasu i amgylchedd heriol y mynyddoedd. Drwy gasglu hadau o’r coed hyn, gallwn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o goed yn wydn ac wedi’u haddasu i’r amodau lleol.
Rhaid oedd cadw at un rheol syml ond pwysig wrth gasglu’r hadau: peidio â chymryd mwy nag 20% o’r aeron neu’r cnau o unrhyw un goeden. Mae hyn yn sicrhau bod digon dros ben ar gyfer y bywyd gwyllt a’r ecosystem. Ar ôl eu casglu, aethpwyd â’r hadau i feithrinfa goed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle buom yn eu tynnu o’r aeron ac yn eu paratoi i’w plannu.

Mae llawer o fanteision i goetiroedd iach – maen nhw’n helpu i adfer cynefinoedd i amrywiaeth eang o rywogaethau, gan gynnwys adar fel mwyalchen y mynydd, y cudyll bach a phibydd y dorlan.
Ac nid dim ond coed a bywyd gwyllt sy’n elwa. Maent hefyd yn darparu coridorau naturiol i rywogaethau symud a ffynnu, yn helpu i reoli dŵr yn y dirwedd, ac yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy storio carbon a lleihau llygredd. Maent hefyd yn cynnal cymunedau amrywiol o ffyngau, mwsoglau, rhedyn, llysiau’r afu a chennau, sy’n dibynnu ar y cynefinoedd hyn i oroesi.
Drwy weithio gyda’n gilydd, mae CNC ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn helpu i greu dyfodol mwy iach a gwydn – un hedyn ar y tro.