Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Sgyrsiau gyda CNC
Cynhelir sesiwn gyntaf Sgyrsiau gyda CNC yn Aberystwyth ar 18 Mawrth.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i bobl ledled canolbarth Cymru siarad yn uniongyrchol ag aelodau staff ac aelodau Bwrdd CNC am y materion amgylcheddol pwysicaf.
Cynhelir y digwyddiad arddull marchnad hwn yn y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth SY23 3DE, ar ddydd Mercher, 18 Mawrth, rhwng 2.30pm a 4.30pm.
Bydd y sesiwn, sydd wedi’i chynllunio i wneud sgyrsiau'n haws, yn fwy agored ac yn fwy ystyrlon, yn archwilio'r heriau sy'n wynebu eich amgylchedd lleol, y syniadau, y pryderon a ffyrdd o ddeall y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn well.
Bydd y mynychwyr yn gallu cyfarfod ag aelodau Bwrdd a staff CNC, i drafod blaenoriaethau amgylcheddol a rhannu barn, syniadau a phryderon.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd alw draw ar unrhyw adeg yn ystod y prynhawn, ac mae lleoedd parcio ar gael ar y safle.
Mae sawl ffordd arall o gysylltu â ni ac fe welwch y rhain yn yr adran Cysylltu â Ni ar ein gwefan.