Gwahodd y cyhoedd i rannu syniadau am drafnidiaeth a mynediad yn Niwbwrch
Mae Arweinydd Tîm Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, John Taylor, yn esbonio’r broses o osod llwybr mynediad hygyrch newydd i’r traeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn.
Y Benbleth
Mae gan Niwbwrch arwyddocâd rhyngwladol o ran bioamrywiaeth ac mae’n gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru.
Un o’i nodweddion cadwraeth pwysicaf yw’r systemau twyni symudol sy’n hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion a phryfed prinnaf Cymru, megis y petalys, sy’n fath o lysiau’r afu, a gwenynen durio’r gwanwyn.
Niwbwrch hefyd yw safle mwyaf poblogaidd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n denu tua 500,000 o ymweliadau bob blwyddyn, yn cynnwys pobl leol a thwristiaid sy’n dod i fwynhau harddwch naturiol enwog y safle.
Fel rhan o’n gwaith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn ymdrechu i alluogi’r ‘mynediad lleiaf rhwystrol trwy bob dull rhesymol’ gan sicrhau ar yr un pryd nad oes nodweddion cadwraeth pwysig, gan gynnwys y systemau twyni deinamig, yn cael eu heffeithio na’u cyfyngu.
Mae dod o hyd i ateb addas sy’n bodloni’r ddau ofyniad statudol hyn wedi bod yn her sylweddol i’r timau sy’n gweithio yn Niwbwrch.
Ymdrechion Blaenorol
Yn 2013, adeiladwyd llwybr pren yn arwain o’r maes parcio a thros system y twyni arfordirol i lwyfan â golygfa o’r traeth. Darparwyd ysgolion traeth i alluogi mynediad i lawr i’r môr fel rhan o brosiect mwy a ariannwyd gan yr UE a wnaeth welliannau i’r maes parcio a chyfleusterau eraill.
Er i hyn amddiffyn system y twyni rhag erydiad annaturiol yn sgil yr ymwelwyr, ni allai wrthsefyll prosesau erydiad arfordirol a achosodd ddifrod sylweddol iddo.
Ers 2013 mae’r blaendwyni wedi parhau i erydu ac mae’r llwybr pren wedi’i gwtogi. Am fod y llwybr pren sy’n weddill bellach yn is na lefel y twyni o boptu iddo, mae’n gweithio fel “chwythbant” o waith dyn, sy’n golygu bod tywod yn cronni arno.
Ffordd Addasol Ymlaen
Yn dilyn ymchwil helaeth a monitro amodau ar y safle, daeth yn amlwg nad oedd adeiladu strwythurau sefydlog ar y system o dwyni deinamig yn ateb ymarferol. Roedd hefyd yn amlwg nad oedd lleoliad y llwybr pren yn addas gan ei fod wedi’i leoli islaw lefel y twyn nesaf ato ac felly bydd tywod yn parhau i gronni arno.
Roedd angen i unrhyw lwybr mynediad addas newydd gael ei leoli lle mae strwythur presennol y twyni tywod yn rhoi mynediad gweddol wastad i’r traeth, heb fod yn sylweddol is na’r twyni naill ochr, ond gan ddal i fod â system o flaendwyni i atal chwythbant rhag ffurfio. Roedd angen gosod y llwybr ar ongl 90 gradd i’r prifwyntoedd hefyd am yr un rheswm.
Roedd angen i’r strwythur ei hun amddiffyn y llwybr mynediad rhag erydiad annaturiol gan ymwelwyr, yn ogystal â gallu cael ei ail-leoli, pe byddai angen, yn sgil prosesau naturiol y twyni.
Trwy hap a damwain, fe gynigiodd symudiadau diweddar yn y twyni tywod ddatrysiad, gan fod tywod wedi cronni ar lwybr gwasanaeth a oedd yn bodoli eisoes yn arwain o’r traeth i’r ffordd i drigolion a ffurfiwyd gan gontractwyr pan adeiladwyd y maes parcio.
Dewiswyd Mobi-Mat wedi’i wneud o blastig wedi’i ailgylchu, sy’n gadael i dywod basio trwyddo, ar gyfer y llwybr mynediad newydd i’r traeth.
Mae’r Mobi-Mat, a gafodd ei dreialu yn gyntaf ar y safle ym mis Gorffennaf 2023 cyn cael ei symud ym mis Ionawr eleni, yn helpu i atal erydiad annaturiol lle mae ymwelwyr yn cerdded, a gellir ei ail-leoli os bydd unrhyw newidiadau naturiol yn system y twyni.
Os bydd tywod yn cronni ar y mat gellir ei ysgwyd trwyddo yn hytrach na gorfod ei sgubo oddi arno. Mae strwythur y blaendwyni yn cael ei warchod rhag erydiad trwy ddefnyddio ysgol dywod y gellir ei hail-leoli hefyd.
Gall cadeiriau olwyn ddefnyddio’r Mobi-Mat ac rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gynnig cadeiriau olwyn sy’n addas ar gyfer y traeth a fydd yn rhoi mynediad hyd at y môr. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r gadair olwyn ymlaen llaw drwy ffonio 07816 110188.
Trwy weithio gyda’n holl dimau yn Niwbwrch rydym wedi sicrhau bod yr holl ofynion cydymffurfio a statudol wedi’u hystyried.
Mae’r llwybr pren presennol bellach wedi’i gau i ymwelwyr ac mae’r prif fynediad at y Mobi-Mat o’r traeth tua 300 metr oddi wrtho.
Ydy hwn yn Ateb Parhaol?
Yn bendant ddim. Rydym yn sicr o’r farn y bydd y system dwyni a’r arfordir yn newid i’r graddau na fydd yr ateb hwn yn un parhaol.
Fodd bynnag, am fod modd ailddefnyddio’r Mobi-Mat, rydym yn teimlo bod hwn yn ateb sy’n werth rhoi cynnig arno. Yn y tymor hirach, bydd mynediad i’r traeth yn rhan o’n Cynllun Pobl ehangach, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac a fydd yn ystyried llawer o agweddau eraill ar brofiad ymwelwyr yn Niwbwrch.