Systemau twyni pwysig yn fwrlwm o fywyd gwyllt wrth i'r haf agosáu
Wrth i’r haf agosáu, mae Graham Williams, aelod o Dîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, yn ysgrifennu am fioamrywiaeth a bywyd gwyllt y safle, gan gynnwys gwenynen durio’r gwanwyn.
Mae mynd am dro i un o’n systemau twyni arfordirol ar brynhawn cynnes yn y gwanwyn yn golygu bod yn dyst i drigolion y twyni yn deffro o’u gaeafgwsg hir.
Mae’r blodau cyntaf i ymddangos, fel blodau melyn carn yr ebol, ymhlith y moresg a dant y llew ar y cynfas tonnog gwyrdd o dwyni sefydlog a llaciau, yn arwydd cynnar o’r olyniaeth o rywogaethau amrywiol a fydd yn y pen draw yn garped ar y twyni erbyn canol yr haf.
Yn gofalu am y blodau yma ac yn sicrhau eu bod yn cael eu peillio mae byddin o greaduriaid di-asgwrn-cefn sy'n mynd o gwmpas eu pethau’n anweledig i raddau helaeth, ond hebddynt, byddai bywyd ar y ddaear ei hun mewn perygl. Mae'n wir, pan ddywedir bod y pethau bach yn bwysig.
Mae twyni tywod yn cynnal rhai o'r cynulliadau cyfoethocaf o greaduriaid di-asgwrn-cefn yn y DU ar gynefin hynod arbenigol ac sydd dan fygythiad. Yn ei hanfod, ni all hyn ddigwydd ond mewn ardaloedd cyfyngedig o'n harfordir. Mae llawer o'r creaduriaid di-asgwrn-cefn ar ein twyni felly yn brin ac yn gwbl ddibynnol ar glytwaith cyfoethog o gynefinoedd twyni sefydlog a deinamig.
Mae rhai o'n rhywogaethau allweddol ar ardaloedd twyni sych yn rhywogaethau pigog (aculeata), teulu o bryfed sy'n cynnwys morgrug, gwenyn a gwenyn meirch. Mae'r rhywogaethau hyn yn ffynnu ar yr ardaloedd cynnes o dywod agored neu rannol agored, sy’n aml yn byw bodolaeth unig. Fodd bynnag, nid yw pob un yn unig. Ar ddiwrnodau heulog tawel o ddiwedd mis Mawrth i ddechrau mis Mehefin, efallai y byddwch yn ffodus i weld niferoedd mawr o wenyn turio’r gwanwyn yn hedfan o gwmpas neu'n dod allan o'u twyni tywod cyfunol neu nythod.
Mae gwenynen durio’r gwanwyn i'w chael ledled canolbarth a gogledd Ewrop, yn ymestyn i'r dwyrain i Tsieina a Mongolia. Mae ei hymddangosiad torfol yn cael ei gydamseru ag ymddangosiad gwyddau bach gwrywaidd ar yr helyg, gyda gwenyn gwrywaidd yn dod allan cyn y benywod.
Mae'r gwenyn yn nythu ar lethrau neu dwmpathau tywodlyd cadarn, moel neu brin eu llystyfiant, fel arfer yn wynebu'r de, weithiau mewn casgliadau dwys iawn. Mae gan bob nyth brif dwll perpendicwlar gyda changhennau ochrol byr, bob yn ail a rheiddiol yn rhan ddyfnaf y twll, a phob un yn darfod mewn un gell.
Mae nyth nodweddiadol yn cynnwys pump neu chwe chell, pob un yn cynnwys un wy a màs paill. Mewn tywod caled, mae'r prif dwll yn 12cm o ddyfnder ond mewn tywod rhydd gall ymestyn rhwng 28 ac 80cm. Mae pob cell wedi'i leinio â philen dryloyw tebyg i seloffen sy'n dal dŵr, sy’n gallu gwrthsefyll ymosodiad ffwngaidd ac sy’n cynnal y lleithder cywir yn ystod datblygiad larfau. Ffynhonnell y bilen yw secretiad hylifol o chwarren Dufour yn yr abdomen, sy'n cael ei roi gyda'r tafod.
Tan yn ddiweddar iawn, roedd dosbarthiad gwenyn turio’r gwanwyn yn gyfyngedig iawn yn y DU, gyda phoblogaethau wedi’u cyfyngu i systemau twyni arfordirol yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr. Mae wedi'i chydnabod fel isrywogaeth ar wahân, o boblogaethau cyfandirol ar sail rhai nodweddion morffolegol a biolegol.
Yng Nghymru, fe’i canfuwyd yn hanesyddol ar lawer o’n prif systemau twyni fel Niwbwrch, lle gall nythfa rifo yn y miloedd. Mewn blynyddoedd da, gellir meddiannu bron pob cynefin nythu addas. Er ei fod wedi'i chyfyngu'n bennaf i'r systemau twyni arfordirol mawr, mae bellach wedi ymledu i chwareli tywod gweithredol a segur yn y tir, a systemau twyni llai, fel Morfa Conwy a Chinmel.
Er bod ei lledaeniad diweddar i ardaloedd y tu allan i gadarnleoedd ei chynefin craidd yn stori o lwyddiant, mae colli cynefin twyni yn uniongyrchol trwy newid i ddefnyddiau tir eraill, a’r dirywiad yng nghynefin twyni tywod noeth ac agored, wedi effeithio ar y rhywogaeth dros yr ychydig ddegawdau diwethaf.
Tywod moel yw asgwrn cefn ein systemau twyni, ond mae ein safleoedd mwy bellach yn cynnal cyn lleied â 3 y cant o’r adnodd gwerthfawr yma, gyda safleoedd fel Niwbwrch wedi colli llawer o’i gynefin tywod noeth ers y 1940au.
Mae rheoli ein hardaloedd twyni craidd trwy reoli effeithiau sy’n ysgogi sefydlogrwydd ac adfer cynefin twyni gwerthfawr yn allweddol i sicrhau goroesiad ein creaduriaid di-asgwrn-cefn arbenigol a bioamrywiaeth ehangach y twyni.