Cyfleoedd cyffrous i roi help llaw i fyd natur
Cyfleoedd cyffrous i roi help llaw i natur
gan John Clark
Mae partneriaeth ‘Natur am Byth!’ yn gynllun cyffrous newydd ar gyfer yr Adferiad Gwyrdd, a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’n uno naw elusen amgylcheddol â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddarparu rhaglen gadwraethol a chymunedol fwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â natur.
Fan hyn, mae John Clark, Rheolwr y Cynllun, yn dweud mwy wrthym am y fenter newydd a’r cyfleoedd cyffrous am swyddi ...
Mae yna ymrwymiad yng Nghymru, o'r lefel uchaf, i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus mewn bioamrywiaeth.
Yn wir, mae cyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) i ddatblygu - dros y 18 mis nesaf – rhaglen eang i warchod rhywogaethau prinaf Cymru yn gwbl amserol. Mae ei hangen yn fwy nag erioed.
Mae Natur am Byth, fel y gelwir y rhaglen, yn cael ei chynllunio i chwarae rhan bwysig ac ysbrydoledig wrth fynd i’r afael ag Argyfwng Natur Cymru.
Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae’r bartneriaeth yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau gwirfoddol i weithio ochr yn ochr â CNC ar brosiectau uchelgeisiol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Y 10 partner craidd yn Natur am Byth yw Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; Buglife; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn; Cadwraeth Glöynnod Byw; Plantlife Cymru; Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; RSPB Cymru; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, a CNC.
Mae Llywodraeth Cymru a CNC hefyd yn darparu cyllid cyfatebol sylweddol i gefnogi'r rhaglen. Mae Natur am Byth yn rhannu'r un partneriaid â'n prosiectau adfer rhywogaethau yn Lloegr a'r Alban – Back from the Brink a Species on the Edge. Mae dysgu oddi wrthyn nhw, ynghyd â gwerthusiad NLHF o’u gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni lunio datblygiad Natur am Byth.
Llwyddiant cyllido
Dyfarnwyd swm o £ 932,700 i'r bartneriaeth gan NLHF y mis diwethaf i gefnogi'r cam datblygu 18 mis, ac ar ôl hynny bydd cais cam dau yn cael ei gyflwyno, gan ddod â chyfanswm y cais i NLHF i £ 5 miliwn ar gyfer rhaglen bedair blynedd o weithgareddau rhwng 2023 a 2027.
Dyna pryd y bydd y gwaith cadwraeth ymarferol, cymunedol ac ymgysylltu cyhoeddus cyffrous yn digwydd - os ydym yn llwyddiannus gyda'n cais cam dau!
Adeiladu ein tîm ar draws y bartneriaeth
Rydyn ni newydd lansio'r broses o recriwtio tîm o ansawdd uchel i arwain y gwaith cynllunio sy'n ofynnol i'w gyflwyno i'r NLHF yn ein cais cam dau.
Mae arnom angen swyddogion prosiect angerddol, ecolegwyr a gweithwyr sy’n arbenig mewn ymgysylltu. Os mai dyna ydych chi, edrychwch ar dudalen swyddi CNC a dilynwch #naturambyth ar draws cyfryngau cymdeithasol yr holl bartneriaid am swyddi gwag.
Bydd recriwtio ar gyfer y swyddi canlynol yn digwydd rhwng rwan a’r hydref i adlewyrchu’r gwahanol ddyddiadau cychwyn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd ar draws y bartneriaeth.
Teitl swydd | Lleoliad | Cyfogwr | Llawn Amser neu Ran Amser | Hyd Cytundeb; Dyddiad Cychwyn | Cyflog |
---|---|---|---|---|---|
Swyddog Datblygu’r Cynllun – Natur am Byth! (Bae Abertawe) |
De Orllewin neu Ganolbarth De Cymru |
Buglife |
Rhan AMser - 0.6 FTE |
16mis o Hyd/Tach 2021 |
£29,281 (pro rata) |
Uwch Ymgynghorydd – Ymgysylltu â Phobl - Natur am Byth |
Hyblyg |
CNC |
Llawn Amser |
16mis o Tach 2021 |
£35,288 |
Swyddog Datblygu Cynllun - Natur am Byth! |
Gogledd Orllewin Cymru |
RSPB |
Llawn Amser |
14mis o Tach 2021 |
£26,867 |
Swyddog Datblygu Cynllun – Natur am Byth! (Y Fritheg Frown) |
De Cymru |
Butterfly Conservation |
Rhan Amser- 0.6 FTE |
15mis o Rhagfyr 2021 |
£28,000 (pro rata) |
Swyddog Datblygu Natur am Byth! (Shrill carder bee) |
De Cymru |
Bumblebee Conservation Trust |
Rhan Amser - 0.4 FTE |
15mis o Rhagfyr 2021 |
£23,000 pro rata |
Rhaglen Planhigion Integredig – Swyddog Planhigion Fasgwlaidd - Datblygu |
Hyblyg ond Gogledd Cymru yn ddelfrydol |
Plantlife |
Llawn Amser |
15mis o Rhagfyr 2021 |
£28,500 |
Natur am Byth – Rhaglen Planhigion Integredig – Swddog Cen a Bryoffytau |
Hyblyg |
Plantlife |
Llawn Amser |
15mis o Rhagfyr 2021 |
£28,500 |
Swyddog Cynllun - Natur am Byth |
Hyblyg |
CNC |
Rhan Amser- 0.5 FTE |
10mis o Ebrill 2022 |
£30,873 (pro rata) |
Bydd y tîm newydd a’n contractwyr yn cynnal arolygon rhywogaethau a chynllunio cadwraeth ar draws llawer o’r tirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru. Byddant hefyd yn gweithio'n agos gydag ystod amrywiol o gymunedau i ysbrydoli sgyrsiau ar yr hyn sy'n bwysig iddynt, a sut y gall cysylltu â natur gefnogi llesiant ac adferiad yn dilyn Covid.
Mae'n hanfodol bod ein cynlluniau ar gyfer y cyfnod cyflawni pedair blynedd yn adlewyrchu anghenion pobl yn ogystal ag anghenion y rhywogaethau sydd dan fygythiad.
Sut wnaethon ni ddod o hyd i'n ffocws?
Mae partneriaid Natur am Byth wedi nodi rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf o ddifodiant ac sydd o bwysigrwydd arbennig, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr treftadaeth naturiol ledled y DU.
Mapiodd y bartneriaeth 62 o rywogaethau yn erbyn themâu a nodi'r tirweddau a'r ardaloedd arfordirol i dargedu rhaglen gadwraeth ac ymgysylltu.
Mae Natur am Byth yn unigryw yn y ffordd rydyn ni'n integreiddio materion rheoli ar dir ac yn y môr, gan gefnogi rhywogaethau morol bregus yn ogystal â'r rhai ar dir ac mewn dŵr croyw.
Ein meysydd ffocws yw Pen Llŷn ac Ynys Môn; Sir Benfro; Bro Gŵyr ac Abertawe; Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; Gwastadeddau Gwent Caerdydd a Chasnewydd; Eryri; Powys; Wrecsam.
Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn bydd y prosiect yn defnyddio dull integredig ar draws cynefinoedd i sicrhau buddion lluosog i rywogaethau prin. Ond mae rhai lleoliadau hefyd yn cynrychioli poblogaethau ynysig o rywogaethau sydd ar fin diflannu ac angen gofal dwys.
Sut i ddarganfod mwy
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cam datblygu dilynwch hashnod #naturambyth ar draws cyfryngau cymdeithasol y partneriaid neu cysylltwch â John Clark i gael mwy o fanylion.
@BuglifeCymru
@RSPBCymru
@Arc_Bytes
@savebutterflies
@BumblebeeTrust
@PlantlifeCymru
@MCSUK
@vincentwildlife
@_BCT_
@NatResWales