Dathlu llwyddiannau rhaglen Lefelau Byw
Mae rhaglen Lefelau Byw, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn brosiect partneriaeth a oedd ar waith rhwng 2018 – Mawrth 2022 gyda'r nod o ailgysylltu pobl a chymunedau â Gwastadeddau Gwent.
Dan arweiniad RSPB Cymru, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel un o'r partneriaid, llwyddodd y prosiect i sicrhau canlyniadau anhygoel dros y tair blynedd diwethaf.
O warchod a rheoli cynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys y gardwenynen feinlais ac adfer perllannau a ffosydd mewn caeau; i wella profiad ymwelwyr drwy greu llwybrau cerdded a beicio newydd; i ddarparu mwy na 100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi arwain at adfywiad mewn diddordeb ar draws y Gwastadeddau ac wedi ailgysylltu pobl â'u hamgylchedd, hanes, a chymunedau.
Yn ein blog diweddaraf, mae Catrin Grimstead a Kate Rodgers o dimau’r amgylchedd yn Ne-ddwyrain Cymru, a Pamela Jordan o Taclo Tipio Cymru, yn edrych yn ôl ar rai o brif gyflawniadau prosiect Lefelau Byw.
Helpu adferiad cymunedau o anifeiliaid a phlanhigion dyfrol
Un o'r prosiectau yn rhaglen Lefelau Byw oedd y prosiect adfer treftadaeth naturiol, a’i nod oedd adfer ffosydd coll mewn caeau a rheoli llystyfiant ar y glannau er mwyn helpu i leihau nifer llethol y ffosydd a chanddynt wrychoedd ar y naill ochr a’r llall.
Fe wnaeth Kate Rodgers, arweinydd un o Dimau’r Amgylchedd yn CNC, ymuno â’r RSPB i helpu i oruchwylio’r gwaith hwn, gan ddod a phrofiad o reoli SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) Gwastadeddau Gwent i'r prosiect, yn ogystal â gwella gwybodaeth a chysylltiadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Mae gwaith rheoli gofalus gan staff a chontractwyr wedi helpu i wella llif ac ansawdd y dŵr ar y Gwastadeddau ac wedi sicrhau bod y ffosydd yn cael mwy o olau'r haul. Mae hyn wedi helpu i gynyddu bioamrywiaeth ac wedi rhoi hwb i adferiad planhigion dyfrol sy'n byw ar y Gwastadeddau, fel rhywogaethau Potomegeton (dyfrllys meinddail) a Ceratophyllum dermersum (cyrnddail caled), sy'n cael eu hystyried yn brin yng Ngwastadeddau Gwent.
Mae rheoli'r ffosydd hyn hefyd yn bwysig o ran helpu i gefnogi nodweddion SoDdGA Gwastadeddau Gwent. Rheolir ffosydd y caeau gan dirfeddianwyr preifat mewn cylch rheoli hir o 10 i 30 mlynedd. Mae'r cylch hwn yn creu mosaig o gynefinoedd, yn amrywio o ddŵr agored i gynefinoedd mwy aeddfed ar gyfer cymunedau o blanhigion a phryfed sy’n byw yn y dŵr neu’r gwlyptir.
Ar Wastadeddau Gwent, gellir addasu'r cylch yma i siwtio'r ardal leol ac efallai fod cylch 7-10 mlynedd yn fwy buddiol bellach. Mae diffyg rheolaeth wedi cyfrannu at lai o amrywiaeth a thoreithrwydd ymysg rhywogaethau. Lle mae gwaith rheoli wedi digwydd, mae'n amlwg y gall gael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth.
Ymchwilio i dros 30 o achosion o dipio anghyfreithlon ac erlyn 10 ohonynt
Yn gynnar yn y rhaglen wrth ymgysylltu â thrigolion lleol, gwelwyd mai un o'r pryderon mwyaf difrifol, a phroblem a oedd yn effeithio ar yr amgylchedd a phrofiad ymwelwyr yng Ngwastadeddau Gwent oedd tipio anghyfreithlon.
I fynd i'r afael â hyn, cytunwyd y dylai un o'r 24 prosiect sy'n rhan o raglen Lefelau Byw fod yn brosiect tipio anghyfreithlon, dan arweiniad tîm Taclo Tipio Cymru CNC, a arweiniodd at greu prosiect Troi Llanast yn Llwyni.
Dros y tair blynedd diwethaf mae elfen orfodi'r prosiect, dan arweiniad Pamela Jordan, wedi gweld nifer o ganlyniadau arbennig - 10 erlyniad llwyddiannus a 7 hysbysiad cosb benodedig wedi’u talu gan arwain at ddirwyon gwerth cyfanswm o £13,770.
Roedd hanner yr erlyniadau hyn yn bosib oherwydd y camerâu cudd a osodwyd mewn mannau strategol ar hyd y Gwastadeddau, gan ganiatáu i'r tîm fynd ati i gasglu tystiolaeth. Hyd yma, mae tri unigolyn wedi eu herlyn am dipio anghyfreithlon ac mae dau unigolyn wedi talu £400 mewn Hysbysiadau Cosb Benodedig diolch i’r delweddau a recordiwyd gan y camerâu.
Er bod y mwyafrif o euogfarnau ar gyfer tipio anghyfreithlon, rydym hefyd wedi cael unigolion yn euog am dwyll a mynd yn groes i’r ddyletswydd gofal, ac mae trwyddedau dau gludwr gwastraff wedi cael eu diddymu.
Beth sydd nesaf?
Yn 2021, comisiynodd y rhaglen gynllun etifeddiaeth i archwilio dyfodol hirdymor a chynaliadwy ar gyfer y prosiect wedi i gyllid cychwynnol y Loteri ddod i ben ym mis Mawrth 2022. Ei nod oedd dod o hyd i fecanwaith a fyddai'n adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ac yn sicrhau manteision hirdymor ar gyfer tirwedd, treftadaeth, a chymunedau Gwent.
Dangoswyd cefnogaeth ar gyfer prosiect etifeddiaeth gan RSPB, CNC, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy, a chyfrannodd pob un ohonynt arian i alluogi cyfnod pontio o 18 mis. Cafwyd cefnogaeth hefyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a estynnodd y dyddiad cau ar gyfer y prosiect er mwyn galluogi mynediad at y cyllid na chafodd ei wario.
Mae'r prosiect wedi cael cefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru ac wedi cael sylw yn ddiweddar gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James, fel enghraifft o sut y gall gweithio mewn partneriaeth ar raddfa tirwedd helpu i Reoli ein Hadnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Yn ddiweddar, cafodd Gweithgor Gwastadeddau Gwent ei ffurfio o bartneriaid a rhanddeiliaid ac ar gais y Gweinidogion mae'n fwriad defnyddio Gwastadeddau Gwent i ddatblygu a threialu canllawiau cynllunio gofodol newydd.
Trwy gydol 2022 a 2023, bydd tîm Lefelau Byw, ochr yn ochr â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill, yn datblygu cynllun i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i Lefelau Byw a thirwedd ryfeddol Gwastadeddau Gwent.
Gallwch weld y diweddaraf am brosiect Lefelau Byw ar y cyfryngau cymdeithasol: @ourlivinglevels