Rhyddhau balwnau a'r difrod erchyll y gallant ei achosi i fywyd gwyllt a'u cynefinoedd
Mae rhyddhau balwnau, sy’n cael ei fwriadu’n aml fel gweithred o'r galon i goffáu anwyliaid, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol a difrifol i fywyd gwyllt a'u cynefinoedd.
Unwaith y byddant yn dychwelyd i’r ddaear, mae gweddillion balŵn nid yn unig yn sbwriel yng nghefn gwlad ond hefyd yn fygythiad difrifol i fywyd gwyllt.
Yn aml mae creaduriaid morol yn eu camgymryd am fwyd ac unwaith y cânt eu llyncu gallant greu rhwystr yn y perfedd sy'n arwain at newyn araf a marwolaeth. Amheuir hefyd bod adar yn mynd yn sownd mewn rhuban a llinyn balwnau, sy'n cyfyngu ar eu symudiad a'u gallu i fwydo.
Dychmygwch forlo ifanc ar ein harfordir yn cael ei ganfod yn marw, â'i ffliperi wedi'u clymu at ei gilydd gan linyn plastig balŵn. Meddyliwch am ddarlun trist o foda tinwyn heintiedig yn ein hucheldiroedd wedi mynd yn sownd.
Ai dyma'r golygfeydd torcalonnus ydym ni eisiau eu hachosi a’u cysylltu â chofio am ein hanwyliaid?
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi derbyn sawl adroddiad o ryddhau balwnau ar rai o Safleoedd Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol Cymru neu gerllaw iddynt. Mae'r rhain yn ardaloedd sy'n gynefinoedd i rai o'n bywyd gwyllt prinnaf sydd dan fwyaf o fygythiad.
Mae ein safleoedd gwarchodedig fel SoDdGA Rhiwabon, Mynydd Llantysilio a Mwynglawdd ger Llangollen yn gartref i nifer o rywogaethau bregus sy’n cael eu gwarchod, fel y grugieir du eiconig a'r gylfinir. Gall gweddillion balwnau ar y safleoedd hyn niweidio'r rhywogaethau hyn a'r da byw sy’n cael eu defnyddio i gynnal cynefinoedd y rhostir. Gall peryglu'r rhywogaethau gwarchodedig hyn arwain at erlyniad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981).
Mae'r digwyddiadau a achosir wrth ryddhau balwnau yn ychwanegu unwaith eto at y trafferthion sy'n wynebu natur heddiw. Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, gan effeithio ar rywogaethau sy'n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol a sylfaen ein bodolaeth.
Pan fyddwn yn bygwth bioamrywiaeth, byddwn yn bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a'n hymdeimlad o le.
Y Nadolig hwn, gadewch i ni ddathlu'n gyfrifol, gan fod yn ymwybodol am yr effaith y gall ein gweithredoedd eu cael ar gydbwysedd sensitif natur.