Adfer Afon Tywi

Nod prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gwella adeiladwaith cynefinoedd a swyddogaeth pedair afon sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yn Ne Cymru: afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg.

Ar draws dalgylch afon Tywi, mae swyddogion prosiect wedi cwblhau sawl cynllun fel rhan o ymdrechion i adfer adeiladwaith naturiol yr afon a gwella mynediad i bysgod mudol.

Yn y blog hwn, mae tîm Pedair Afon LIFE yn egluro pwysigrwydd y gwaith a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Afon Tywi

Mae afon Tywi yn un o’r afonydd hiraf sydd gyfan gwbl yng Nghymru, gan lifo 120 cilometr o’i tharddiad, sydd ychydig dros 430 metr ym Mynyddoedd Cambria, i’w haber ym Mae Caerfyrddin.

Mae’r graddiannau serth yn y dalgylch uchaf yn cyfyngu ar lifoedd, gan greu’n aml gynefin ceunentydd serth gyda dilyniannau o byllau a rhaeadrau. Wrth i’r graddiant leddfu, mae’r afon yn llifo allan i’w gorlifdir yn ardal hardd Dyffryn Tywi.

Yma, mae’r afon yn datblygu ffurf droellog, gan ymlwybro yn ôl ac ymlaen ar draws y gorlifdir, gan greu cyfres ddeinamig sy’n esblygu’n gyson o lannau sy’n erydu a barrau graean dyddodiadol.

Gellir gweld hanes afon Tywi ar y dirwedd heddiw, gyda’r gorlifdir yn dwyn creithiau hen sianeli’r afon ac ystumllynnoedd (gweddillion hen ystumiau).

Llun uchod: Hen sianeli afon ar Afon Tywi ger Llangadog o 1761 i 2006.

Bywyd gwyllt arbennig ar hyd afon Tywi

Mae afon Tywi yn cynnal ystod eang o fywyd gwyllt ac mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Ar un adeg, roedd yr afon yn cynnal niferoedd enfawr o eogiaid a brithyllod môr. Ar anterth y bysgodfa yn y 1970au a dechrau’r 1980au, cofnodwyd dalfeydd cyfartalog o dros 2,000 o eogiaid a 10,000 o frithyllod môr y flwyddyn.

Roedd pysgod eraill hefyd yn doreithiog, gyda hanesion anecdotaidd am lyswennod mor niferus fel y gallech chi glywed torf aflonydd y llyswennod bychain a’r llyswennod ifanc yn mudo i fyny’r afon yn y gwanwyn a’r haf.

Mae’r afon hefyd yn cynnal poblogaethau pwysig o lysywod pendoll y môr, llysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y nant. Pysgod di-ên yw llysywod pendoll a wahanodd oddi wrth fertebratau eraill tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl. I roi hyn mewn persbectif, mae hyn cyn i goed fodoli ar y Ddaear. O ran esblygiad, mae bodau dynol yn perthyn yn agosach i eogiaid nag y mae eogiaid i lysywod pendoll!

Llun: uchod o'r chwith i'r dde: Eog yr Iwerydd, Gwangen, Llysywen bendoll y nant, Isod o'r chwith i'r dde: Penlletwad, Llysywen bendoll yr afon a Llysywen bendoll y môr.

Mae pysgod eraill y mae afon Tywi wedi’i dynodi ar eu cyfer yn cynnwys y wangen a’r herlyn (aelodau prin iawn o deulu’r penwaig sy’n mudo i ddŵr croyw), yn ogystal â’r penlletwad, pysgodyn benthig bach sydd angen nentydd glân, ocsigenedig sy’n llifo’n gyflym. 

Ar wahân i bysgod, mae afon Tywi yn un o’r afonydd gorau yng Nghymru i ddyfrgwn. Er ei fod yn greadur cyfrinachol, os edrychwch yn ofalus, mae arwyddion y dyfrgi (e.e. olion traed, llwybrau chwilota am fwyd a baw) ar y rhan fwyaf o nentydd. Mae dyfrgwn yn ddibynnol ar orchudd llystyfiant trwchus ar lannau afonydd ar gyfer nythu a bridio, ac yn dibynnu ar ysglyfaeth bysgod doreithiog.

Mae’r clogwyni sy’n erydu yn y gorlifdir yn darparu cynefin nythu gwerthfawr i wenoliaid y glennydd, y gellir eu gweld yn bwydo ar bryfed sy’n hedfan ar nosweithiau llonydd yn yr haf. Mae bronwen y dŵr yn aderyn afon symbolaidd sy’n cerdded o dan y dŵr yn casglu pryfed oddi ar wely’r nant ac mae’n ddangosydd allweddol o ansawdd cynefin. Ymhlith yr arbenigwyr afon eraill a welir yn rheolaidd ar afon Tywi a’i hisafonydd mae’r glas y dorlan, y crëyr llwyd, y fulfran, yr hwyaden ddanheddog, ac amrywiaeth o adar gwyllt.

Pwysau sy’n wynebu afon Tywi

Yn ystod y degawdau diwethaf, yn debyg iawn i lawer o’n hafonydd eraill yng Nghymru, mae afon Tywi wedi gweld dirywiad eang ac mae’r Ardal Cadwraeth Arbennig mewn ‘cyflwr anffafriol’ ar hyn o bryd.

Mae dalfeydd cyfartalog eogiaid a brithyllod môr wedi gostwng i lai na 10% o’u niferoedd yn y 1970au ac mae’r poblogaethau ‘mewn perygl’.

Nid oes asesiad penodol i’r safle ar gyfer llyswennod ond credir bod eu niferoedd wedi gostwng 90%. Nid oes amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer llysywod pendoll ar gael ond mae pob rhywogaeth wedi’i dosbarthu fel ‘dan fygythiad’ neu ‘dan beth bygythiad’.

Er eu bod yn bresennol mewn niferoedd llawer llai o’i gymharu â’u helaethrwydd hanesyddol, credir bod poblogaethau afon Tywi o herlod/gwangod a phennau lletwad yn hunangynhaliol. Er bod niferoedd dyfrgwn wedi cynyddu’n sylweddol ers gwahardd hela yn y 1970au, bu gostyngiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae nifer o ffactorau’n gyfrifol am y dirywiad yn ecoleg afon Tywi, gan gynnwys arferion amaethyddol a rheoli tir, mewnbynnau carthion, rhwystrau i bysgod sy’n mudo, addasiadau ffisegol, gorbysgota, newid hinsawdd a rhywogaethau goresgynnol.

Nod Pedair Afon LIFE yw mynd i’r afael â llawer o’r pwysau hyn a dychwelyd afon Tywi i gyflwr ffafriol.

Gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ar afon Tywi

Mae’r prosiect LIFE wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yn nalgylch afon Tywi i leihau llygredd amaethyddol a gwella cynefin ar hyd glannau afonydd.

Mae clustogfeydd gyda llystyfiant trwchus yn helpu i amsugno dŵr ffo amaethyddol cyn iddo gyrraedd afonydd, a thrwy hynny leihau mewnbynnau gwaddod mân a maethynnau. Mae’r prosiect wedi cwblhau 14 cilometr o ffensys ar hyd afon Tywi hyd yn hyn. Drwy eithrio pori gan dda byw, bydd y ffensys yn helpu llystyfiant naturiol i ailsefydlu. Mae atal mynediad da byw i afonydd yn lleihau erydiad glannau ac yn gwella ansawdd dŵr. Lle bo angen, mae cafnau yfed wedi’u hychwanegu i sicrhau lles da byw.

Mae coed hefyd wedi cael eu plannu i gefnogi adfywio llystyfiant y glannau, gan gynnwys cymysgedd o dderw, bedw, drain gwynion, helyg a gwern. Bydd y coed hyn yn darparu gorchudd gwerthfawr i rywogaethau fel dyfrgwn, yn helpu i gysgodi nentydd, gan leihau’r tymheredd yn yr haf, ac yn rhwymo glannau’r afonydd at ei gilydd, gan leihau erydiad pridd.

Llun uchod: ffensys a chafn dŵr yn fferm Dyffryn Isaf ger afon Cothi

Gwella cysylltedd ecolegol

Mae rhwystrau i fudo pysgod a chysylltedd ecolegol yn cael eu cydnabod yn eang fel un o brif achosion y dirywiad yn y fioamrywiaeth mewn dŵr croyw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd i’r afael â saith rhwystr i fudo pysgod yn nalgylch afon Tywi, gan agor tua 40 cilometr o afon.

 

Llun uchod: Map o waith cysylltedd Afonydd.

Afon Lwynor

Ym mis Hydref 2025, cwblhaodd y prosiect LIFE waith i gael gwared ar gwlfert ar afon Lwynor, un o is-nentydd afon Brân yn Llanymddyfri (gweler y delweddau cyn ac ar ôl isod). Roedd y bibell gwlfert, a oedd yn ddwy fetr mewn diamedr a 12 metr o hyd, yn cyfyngu ar yr afon ac yn amharu ar symudiad pysgod.

Cafodd y cwlfert ei ddisodli â phont lled cyfan er mwyn adfer mynediad i bob rhywogaeth o bysgod i 4.5 cilometr o gynefin i fyny’r afon ac adfer dynameg naturiol yr afon.

 Pibell gyda thwll yn y dŵr

Gall cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fod yn anghywir.  Pont dros afon

Gall cynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fod yn anghywir.

Llun uchod: O'r chwith i'r dde - Afon Lwynor cyn ac ar ôl y gwaith.

Llwybr pysgod Cynghordy

Roedd llwybr pysgod Larinier a oedd eisoes yn bodoli ym Mhont Wen ger Cynghordy wedi mynd uwchben lefel y dŵr ac roedd angen rhywfaint o waith cynnal a chadw ar y morgloddiau rhagarweiniol presennol. Yn ogystal, nid oedd y llwybr llyswennod presennol yn darparu amodau digonol ar gyfer llyswennod sy’n mudo i fyny’r afon.

Atgyweiriwyd y morglawdd rhagarweiniol yn haf 2025 i ddarparu mwy o ddyfnder dŵr i lawr yr afon a thrwy hynny wella mynediad pysgod i waelod y llwybr Larinier. Estynnwyd y llwybr llyswennod hefyd i ganiatáu gwell mynediad at waelod y ramp ac ychwanegwyd haearn ongl i wella amodau llif.

Llun uchod: Cynghordy ar ôl y gwaith.

Afon Mynys

Roedd ffedog goncrit o dan bont ffordd yr A40 yn afon Mynys yn rhwystr sylweddol i symudiadau pysgod oherwydd llifau bas cyflym dros yr wyneb llyfn. Gosodwyd trawstiau derw a bafflau sieffrwn (gweler y delweddau cyn ac ar ôl isod) i ganolbwyntio llifau tuag at ganol yr adeiledd, gan ddarparu dyfnder a mannau cyflymder isel i bysgod basio i fyny ac i lawr yr afon.

Bydd hyn yn hwyluso taith eogiaid a brithyllod môr mudol, yn ogystal ag amrywiaeth o rywogaethau nofio gwannach.

 

Llun uchod: O'r chwith i'r dde – Mynys cyn ac ar ôl gwaith

Cored pentref Llanwrda

Yn 2023, cwblhawyd llwybr pysgod Larinier ar gored pentref Llanwrda gan brosiect Eogiaid Yfory Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae manteision cyfunol y cynllun hwn a’r ddau arall isod ac uwchben gan y prosiect LIFE yn golygu bod mwy na 12 cilometr o gynefin afon gwerthfawr wedi’i agor ar hyd afon Dulais.

Pont ffordd Llanwrda

Roedd cored a oedd yn cynnal pont ffordd yr A40 yn rhwystr sylweddol i bysgod ar afon Dulais. Roedd uchder y gored a’r llif cyflym trwy’r hollt bresennol yn ei gwneud yn rhwystr sylweddol i eogiaid a brithyllod môr. I raddau helaeth hefyd, nid oedd modd i lyswennod a llysywod pendoll deithio drwyddi o dan y rhan fwyaf o amodau llif, o ystyried, yn wahanol i eogiaid, nad yw’r rhywogaethau hyn yn gallu neidio.

Yn haf 2025, gosodwyd ramp creigiau, gan gynnwys cyfres o bedwar morglawdd rhagarweiniol (adeileddau i godi’r gwely a lefel y dŵr yn raddol) ar hyd darn 50 metr o’r afon yn union i lawr yr afon o’r gored. Ychwanegwyd llenwad creigiau a graean i greu ramp sy’n llethr graddol, gan ddileu’r naid fertigol wrth y gored i bob pwrpas.

Gosodwyd ramp ychwanegol gyda theils â stydiau arnynt ar y gored ar un ochr i ddarparu llwybr amgen i bysgod nofio gwannach fel llyswennod a llysywod pendoll.

Llun uchod: O'r chwith i'r dde – Pont Ffordd Llanwrda cyn ac ar ôl gwaith

Croesfan reilffordd Llanwrda

Ym mis Hydref 2024, cwblhawyd llwybr i hwyluso symudiad pysgod ar adeiledd o dan bont reilffordd ar afon Dulais gan y prosiect LIFE.

Creodd llifau bas dros ffedog 14 metr o hyd y bont, ynghyd â gwahaniaeth uchder fertigol, rwystr sylweddol i bysgod wrth iddynt fudo.

Roedd y llwybr pysgod yn cynnwys morgloddiau rhagarweiniol – argaeau bach wedi’u gwneud o flociau carreg – i godi lefel y dŵr i lawr yr afon, a thrwy hynny leihau’r gwahaniaeth yn uchder y dŵr (gweler y delweddau cyn ac ar ôl isod).

Cafodd ramp â theils gyda stydiau arno ei osod drwy un o’r trawstiau hefyd er mwyn gwella’r llwybr ar gyfer rhywogaethau sy’n nofwyr gwannach fel llyswennod a llysywod pendoll.

Llun uchod: O'r chwith i'r dde – Croesfan reilffordd Llanwrda cyn ac ar ôl gwaith

Cored Jerwsalem ar afon Clydach

Roedd cored 2.5 metr o uchder ar afon Clydach ger Llangadog yn peri rhwystr sylweddol i eogiaid a physgod eraill oedd yn ceisio cyrraedd ymhellach i fyny’r afon i silio. Mae cored Jerwsalem yn cynnal ategweithiau’r bont hanesyddol i fyny’r afon felly nid oedd tynnu’r bont yn opsiwn.

Yn haf 2024, gosodwyd llwybr pysgod Larinier (gweler y lluniau cyn ac ar ôl isod). Mae’r math hwn o lwybr pysgod yn lleihau cyflymder y llif ac, o ganlyniad, yn gwella’r llwybr i eogiaid a brithyllod, yn ogystal ag amrywiaeth o rywogaethau nofio gwannach.

Roedd y dyluniad hefyd yn cynnwys slot ochr wedi’i ffitio â blew i helpu llyswennod i symud i fyny’r afon.

Llun uchod: O'r chwith i'r dde – cored Jerwsalem cyn ac ar ôl gwaith

Gwaith rhywogaethau goresgynnol

Mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi bod yn gweithio i dynnu a lleihau ymlediad sawl rhywogaeth oresgynnol yn afon Tywi, gan gynnwys jac y neidiwr, clymog Japan, a’r efwr enfawr.

Mae’r efwr enfawr yn rhywogaeth oresgynnol iawn sy’n tyfu’n fwy na phlanhigion brodorol ac yn cynnwys nodd gwenwynig sy’n beryglus i bobl a da byw. Mae pla o’r rhywogaeth hon wedi cael ei drin ger Maenordeilo ers sawl blwyddyn, ac rydym bron â’i dileu o ddalgylch afon Tywi.

Mae jac y neidiwr yn hynod gyffredin yng Nghymru ac mae’n goruchafu ar blanhigion brodorol, gan leihau bioamrywiaeth a gadael glannau afonydd yn agored i erydu pan fydd yn marw yn y gaeaf.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi bod yn canolbwyntio ar is-ddalgylchoedd, sef afon Brân (Llanymddyfri) ac afon Marlais, lle mae’n bosibl symud terfyn y planhigyn ymhellach i lawr yr afon.

Mae cyfuniad o waith gan gontractwyr ac ymdrech gwirfoddolwyr gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru wedi helpu i leihau maint a nifer jac y neidiwr yn y dalgylch.

Mae dull bioreoli newydd hefyd yn cael ei dreialu ac mae ffwng y gawod o fynyddoedd yr Himalaya wedi’i gyflwyno ar rai safleoedd i brofi ei effeithlonrwydd wrth atal y goresgyniad.

Mae clymog Japan yn gyffredin yn nalgylch afon Tywi felly mae’r ymdrech i’w ddileu wedi’i chyfyngu i ardaloedd gwaith gweithredol – er enghraifft, lle rydym wedi bod yn gwneud gwaith ar lwybrau pysgod neu ffensys.

Edrych i’r dyfodol

Yn gynnar yn 2025, rydym yn gobeithio dechrau gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Brosiect Adfer Gorlifdir Afon Dinefwr.

Gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwn yn adfer nodweddion gorlifdir traddodiadol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gorlifdir Afon Dinefwr ac Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Tywi. Mae hyn yn cynnwys adfer a gwella nifer o nodweddion pwysig megis ystumllynnoedd, pyllau, llystyfiant gwlyptir, yr afon a glaswelltir y gorlifdir.  Bydd hyn yn creu cynefin mwy gwydn a bioamrywiol.

Bydd monitro gan y prosiect LIFE hefyd yn parhau. Bydd arolygon electrobysgota yn digwydd ar safleoedd lle rydym wedi cwblhau cynlluniau i fonitro ymateb y gymuned bysgod.

Mae’r canlyniadau cychwynnol hyd yn hyn yn cynnwys cynnydd yn niferoedd silod mân eogiaid ar afon Clydach yn y rhan fwyaf o safleoedd i fyny’r afon o gored Jerwsalem.

Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio ailsefydlu poblogaethau o fisglod perlog ac mae tri safle wedi’u dewis, gydag un o’r rhain yn nalgylch afon Tywi. Ar hyn o bryd, rydym yn monitro ansawdd dŵr a niferoedd pysgod, ac yn anelu at roi prawf ar ryddhau 200 o fisglod ifanc yn haf 2026.

Ariennir prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu danysgrifio i’n cylchlythyr yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru