Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr Sir Benfro

Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.

Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.

 

Teitl y lleoliad

Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr Sir Benfro

Cyfarwyddiaeth

Gweithrediadau Gogledd a De

Tîm

Pobl a Lleoedd y De Orllewin

Nifer o leoliadau

2

Rheolwr y lleoliad

Cara Wilson

Swyddog Pobl a Lleoedd De Orllewin

Cara.l.wilson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

07977188270

Dyddiad dechrau

2 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen

12 Gorffennaf 2024

Patrwm gwaith

Dydd Mawrth i ddydd Gwener, 4 diwrnod yr wythnos am bythefnos.

Ble bydd y myfyriwr/myfyrwyr yn cael ei leoli/eu lleoli

Hwlffordd, Llys Afon

Y Gymraeg

Gellir darparu'r lleoliad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg gan ddibynnu ar ymgeiswyr a'r swyddogion dan sylw

Tasgau allweddol y lleoliad

Cyfle gwych i fynd allan gyda gwahanol dimau yn Sir Benfro i brofi rhywfaint o’r gwaith a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y sector amgylcheddol yng Nghymru

Cefnogi timau Amgylchedd a Rheoli Tir gyda gwaith monitro a chynnal a chadw ar wahanol safleoedd natur


Gwybodaeth ychwanegol

  • Yn addas ar gyfer grwpiau cymysg o fyfyrwyr TGAU i israddedigion - dros 16 mlynedd o leiaf
  • Hapus i fod allan ym mhob tywydd
  • Casglu a monitro data; gwaith cadwraeth ac ymweliadau safle. Timau amrywiol wedi'u lleoli yn Llys Afon, Hawthorn Rise, Hwlffordd
  • Gwahanol safleoedd cynefinoedd o amgylch Sir Benfro, gallai gynnwys coetir, glannau afonydd, tir fferm a’r arfordir. Gall gynnwys tir garw
  • Mae angen dillad ac esgidiau addas ar gyfer pob tywydd, dewch â phecyn bwyd gyda chi

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.

Diweddarwyd ddiwethaf