Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr - Rheoli tir Coetir Amddiffyn rhag llifogydd

 

Teitl y lleoliad

Rheoli tir Coetir Amddiffyn rhag llifogydd (SWE24-003)

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Swyddfa/Depo

Llanymddyfri

Dyddiad dechrau

Dydd Llun 1 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen

Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024

Oriau’r lleoliad

37.5 awr

Nifer y lleoliadau sydd ar gael

4

Lefel y Lleoliad:

Israddedig

Lefel A/AS neu gyfwerth

TGAU neu gyfwerth

Pawb 15+

 

TGAU/Lefel A

Y Gymraeg

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Aled Davies: Iaith Gymraeg a Saesneg

Alexandra (Alex) Wood: Iaith Saesneg

Gareth Richards: Cymraeg a Saesneg

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cyflwyniad i reoli cyllid a grantiau
  • Ymweliad safle â Llwybr Arfordir Cymru yn Sir Gaerfyrddin
  • Dysgu am rôl Cynghorydd Coetir: Asesu addasrwydd safleoedd ar gyfer plannu coed
  • Ymweliad safle amddiffyn rhag llifogydd ger Llanymddyfri. Edrych ar sut i ddefnyddio peirianneg ac asedau naturiol i atal llifogydd mewn cartrefi a chymunedau.
  • Ymweliad safle a Thaith Gerdded Lles, Coed Talyllychau
  • Sgwrs am sut rydym yn rheoli ein hadnoddau hamdden
  • Mae croeso i chi ofyn cwestiynau trwy gydol yr wythnos, er mwyn i chi gael y gorau o'ch profiad gyda ni, gan ennill sgiliau a gwybodaeth ar hyd y ffordd. Nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion.

 

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

  • Byddwch yn gweithio gyda staff CNC o 3 thîm gwahanol drwy gydol yr wythnos. Mae gan bob un o'r staff hyn gefndiroedd ac arbenigedd gwahanol mewn rheoli tir, creu coetiroedd ac asedau/amddiffyn rhag llifogydd.

 

Ble byddwch chi'n gweithio

  • Byddwch yn cael eich rhannu rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio yn yr awyr agored gan gynnwys teithio i ddaliadau amaethyddol, amgylcheddau coedwigaeth, llwybrau arfordirol ac ardaloedd mwy trefol. Bydd yr ymweliadau safle arfaethedig yn cael eu cynnal yn gymharol agos at y swyddfa, yn siroedd Caerfyrddin a Phowys.

 

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad

  • Byddwch yn gallu cymryd egwyl lluniaeth a thoiled yn rheolaidd trwy gydol y diwrnod gwaith.
  • Mae croeso i chi gysylltu â ni cyn eich lleoliad os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 01/05/2024

I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi’i chwblhau a’ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Am ragor o fanylion: cysylltwch â Rheolwr y Lleoliad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.

Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.

Diweddarwyd ddiwethaf