Cynorthwyydd Recriwtio ac Adnoddau

Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: £28,932 - £30,955 | Lleoliad: Hyblyg

 

 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Recriwtio / Cyfarwyddiaeth Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).   

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 12/05/2025

Rhifau y swyddi: 203814, 203722, 203723

Y rôl

Cefnogi’r gwaith o gyflawni gwasanaeth recriwtio effeithlon sy’n allweddol er mwyn caniatáu cynnal busnes dydd i ddydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Joe Smith ar joseph.smith@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd ac adnoddau naturiol. Ein pwrpas yw mynd ar drywydd rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol ym mhopeth a wnawn, gan gefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn gweithio i warchod yr amgylchedd, cynnal treftadaeth naturiol ac adnoddau Cymru, a chefnogi cymunedau a busnesau i wneud dewisiadau deallus a chyfrifol. Mae ein gwerthoedd - angerdd, uniondeb, ymddiriedaeth ac arloesedd - yn arwain y ffordd yr ydym yn gweithio bob dydd.

Mae ymuno â CNC yn golygu dod yn rhan o sefydliad cefnogol a blaengar, lle mae eich cyfraniad yn bwysig. Mae’r tîm Recriwtio ac Adnoddau yn ganolog i’n llwyddiant, gan helpu i ddenu, cadw a datblygu’r unigolion dawnus sy’n gyrru ein cenhadaeth yn ei blaen.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Fel Aelod o Dîm Gwasanaethau Pobl AD, bydd deiliad y swydd yn cyflawni ystod o ddyletswyddau technegol a gweinyddol penodol a allai gynnwys: 
    - Gweithdrefnau recriwtio ac ymdrin ag ymholiadau recriwtio cyffredinol.
    - Drafftio newid i delerau ac amodau.
  • Datblygu a darparu gwybodaeth reoli a dadansoddi.
  • Cynnal dogfennaeth recriwtio'r tîm, gan sicrhau bod data'n cael ei fewnbynnu'n gywir ac yn amserol.
  • Cynorthwyo’r Goruchwyliwr Recriwtio gyda’r broses o gynefino ymgeiswyr llwyddiannus, gan gynnwys paratoi, dilysu a storio dogfennau yn unol â GDPR a phroses fetio CNC.
  • Darparu profiad a gwasanaeth cwsmer rhagorol i'r tîm recriwtio ac ymgeiswyr.  
  • Sicrhau bod pob hysbyseb swydd yn cydymffurfio â Pholisi Iaith Gymraeg CNC.  
  • Sicrhau bod y tîm recriwtio yn cydymffurfio â pholisi a gweithdrefn recriwtio CNC.  
  • Cadw cofnodion cywir a talu sylw manwl i fanylion ar Excel a SharePoint, gan sicrhau bod modd olrhain ac archwilio prosesau recriwtio.
  • Cefnogi’r Cynghorydd Recriwtio i baratoi ymgyrchoedd recriwtio mewnol ac allanol, gan gynnwys cysylltu â’r tîm cyfieithu ac uwch lwytho cynnwys i’w gymeradwyo ar draws mewnrwyd a gwefan CNC. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

Profiad o weithio mewn amgylchedd canolfan gwasanaeth a rennir gan gynnwys:

  1. Dealltwriaeth dda o ddefnyddio system AD a meddalwedd/rhaglenni eraill i fodloni gofynion eich maes cyfrifoldeb.
  2. Sgiliau trefnu da.
  3. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  4. Sgiliau rhyngbersonol da gyda'r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i gwrdd â therfynau amser caeth.
  5. Sgiliau TG cryf a mewnbynnu data cywir.
  6. Byddai profiad o weithredu newid neu wella prosesau hefyd yn fanteisiol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (Bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol.)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf