Uwch Gyfreithiwr Arbenigol x 2

Dyddiad cau: 9 Chwefror 2025 |Cyflog: Hyd at £57,726 y flwyddyn | Lleoliad: Caerdydd, fodd bynnag gellir ystyried lleoliadau eraill hefyd.

Tîm/Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol/Cyfarwyddiaeth Strategaeth, Datblygiad a Chorfforaethol

Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser)

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: 201700 Llawn amser, 37 awr yr wythnos / 201695 Rhan amser, 30 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 17 Chwefror 2025 (I'w gadarnhau)

Rhifau y swyddi: 201700 / 201695

Y rôl

Rydym yn chwilio am Uwch Gyfreithiwr Arbenigol, i roi cyngor ac arweiniad cyfreithiol proffesiynol ac amserol o ansawdd uchel i amrywiaeth o gleientiaid mewnol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Lywodraeth Cymru, sefydliadau trydydd sector a sefydliadau masnachol.

Bydd deiliad y swydd yn cydgysylltu â chleientiaid mewnol ar draws y sefydliad ar faterion sy’n ymwneud yn bennaf â rheoleiddio dŵr, gan gynnwys rhoi cyngor mewn perthynas â gorlifoedd storm, trwyddedau tynnu dŵr a gweithredu’r strategaeth ddŵr i Gymru.

Mae’r amrywiaeth eang o waith ac ansawdd y gwaith sydd ar gael, ynghyd â’r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd, yn golygu bod CNC yn lle cyffrous i weithio. 

Y lleoliad a ffefrir yw Caerdydd, ond gellir hefyd ystyried lleoliadau eraill lle mae gan CNC swyddfa. Fel sefydliad rydym yn cefnogi gweithio hyblyg a chytunir ar batrwm addas ar gyfer gweithio hybrid ar ôl penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Rydym yn chwilio am gyfreithwyr neu fargyfreithwyr cymwysedig sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol effeithiol yn y sectorau cyhoeddus neu breifat.

Byddai'r rôl llawn amser yn elwa o rywun sydd â phrofiad o gyfundrefn gynllunio Cymru tra bydd y rôl ran-amser yn canolbwyntio ar waith gorfodi rheoleiddiol CNC a byddai gwybodaeth neu brofiad o waith erlyn troseddol yn fanteisiol.

Nid yw profiad blaenorol o gyfraith amgylcheddol yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Asbrey ar Sarah.Asbrey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli llawer iawn o dir ac asedau eraill, gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.  Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Lywodraeth Cymru, sefydliadau trydydd sector a sefydliadau masnachol.

Bydd y rôl hon yn ymuno â thîm cyfreithiol sefydledig ac amrywiol sy'n cynnwys 17 o gyfreithiwr (sy'n cynnwys 2 reolwr a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol), 1 bargyfreithiwr, 1 Gweithredwr Cyfreithiol a 2 swyddog paragyfreithiol.  Mae'r tîm cyfreithiol yn eistedd o fewn Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Strategaeth CNC ac yn adrodd i Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth honno.  Mae’r tîm yn cynghori CNC ar bob mater cyfreithiol (ac eithrio cyfraith cyflogaeth) ac felly mae cwmpas y gwaith yn eang.

Mae'r Tîm Cyfreithiol ar hyn o bryd yn gweithio mewn ffordd hybrid gyda pheth amser yn cael ei dreulio yn gweithio yn y swyddfa a pheth amser yn gweithio o gartref.  Mae opsiwn i weithio'n llawn amser o un o swyddfeydd CNC.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithredu er budd pennaf Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wneir a'r cymorth a roddir yn gywir yn gyfreithiol, a bod yr holl risgiau'n cael eu rheoli.
  • Darparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar risg a datrysiadau fel bod y Bwrdd, y Prif Weithredwr, cyfarwyddwyr, rheolwyr a'r holl swyddogion yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, dyletswyddau statudol a swyddogaethau yn unol â'r gyfraith.
  • Defnyddio barn broffesiynol a dadansoddiadau risg i wneud y defnydd gorau o ddarparwyr cyfreithiol allanol; comisiynu, defnyddio a rheoli'r darparwyr hynny, gan gynnwys cyfreithwyr, bargyfreithwyr ac asiantaethau seneddol, er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol a bod y gwasanaeth yn cyflawni gwerth am arian.
  • Cychwyn a chynnal achosion troseddol gan ddarparu argymhellion ar gyfer penderfyniadau i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ar Erlyniadau, Rhybuddion ffurfiol a sancsiynau sifil gan gynnwys asesu tystiolaeth a chymhwyso prawf budd y cyhoedd yn unol â’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron.
  • Ymgymryd ag achosion ymgyfreitha sifil yn llawn gan gynnwys achosion arbenigol (e.e. adolygiad barnwrol) gan ddatblygu a gweithredu strategaethau ymgyfreitha wedi'u teilwra, bod yn gyfrifol am asesu tystiolaeth, tebygolrwydd o lwyddiant, paratoi ar gyfer llysoedd, tribiwnlysoedd ac ymchwiliadau ac eirioli yn y fforymau hynny.
  • Ystyried perthnasedd gorchmynion deddfwriaethol, a lle bo angen, eu datblygu a’u drafftio (e.e. Gorchmynion, is-ddeddfau ac is-ddeddfwriaeth arall) i gyflawni amcanion CNC.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da gyda chleientiaid mewnol a rhanddeiliaid allanol trwy gyfathrebu, dylanwadu, trafod ac ymgysylltu'n effeithiol â nhw, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau San Steffan, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, aelodau’r Cynulliad, aelodau seneddol, sectorau diwydiannol a masnachol amrywiol a reoleiddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y gymuned gyfreithiol, a’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd.
  • Dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu, gweithredu a dehongli deddfwriaeth Cymru, yr UE a'r DU trwy ryngweithio â'r cyrff deddfwriaethol perthnasol a'u cynghorwyr polisi mewn ffordd sy'n hyrwyddo buddion Cymru ac yn sicrhau bod effeithiau sy’n benodol i Gymru yn cael eu deall.
  • Cyfrannu at a rhoi cyngor ar y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau a pholisïau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan nodi’r holl risgiau a'u lliniaru, a, thrwy wneud hynny, sicrhau bod y broses o wneud polisïau a strategaethau'n gyfreithiol ac yn gadarn ac y gellir ei chefnogi trwy herio.
  • Annog arferion gorau, arloesedd a gwelliant parhaus ar draws y tîm cyfreithiol a Cyfoeth Naturiol Cymru drwy nodi a gweithredu cyfleoedd dysgu o waith achos, rhannu arbenigedd a gwybodaeth trwy fentora a hyfforddi (gan wella felly gwydnwch o fewn timau ac ar eu traws), a darparu hyfforddiant mewnol a/neu i gyrff allanol er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cyfreithiwr cymwysedig gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, neu fargyfreithiwr gyda thystysgrif ymarfer gyfredol gan Fwrdd Safonau'r Bar, a phrofiad ymarferol ym maes cyfraith gyhoeddus a chyfraith reoleiddiol.
  2. Yn ddelfrydol, profiad ôl-gymhwyso ar fynediad, ynghyd â chraffter busnes, sgiliau rheoli risg a barn gadarn yn seiliedig ar brofiad.
  3. Mae'n ofynnol i gael tystiolaeth o gydymffurfio â fframweithiau cymhwysedd a rhwymedigaethau datblygiad proffesiynol parhaus.
  4. Profiad o gaffael/comisiynu cyngor cyfreithiol allanol a gwasanaethau cysylltiedig a dehongli cyngor o'r fath i gynorthwyo penderfyniadau mewnol.
  5. Dealltwriaeth ymarferol o'r setliad datganoli yng Nghymru, yn ogystal â'r amgylchedd cyfreithiol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu o'i fewn, gan gynnwys ei gydberthynas ag adrannau San Steffan ar gyfer materion heb eu datganoli.
  6. Y gallu i weithredu gyda hyder a hygrededd ar lefelau uchaf sefydliad.
  7. Yn bragmatig ac yn meddwl yn flaengar, gyda'r gallu i arloesi er mwyn datblygu datrysiadau i faterion cyfreithiol cymhleth neu faterion cymhleth sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau.
  8. Ymwybyddiaeth wleidyddol a phrofiad o weithredu mewn amgylcheddau sy'n sensitif yn wleidyddol.
  9. Gallu arfer barn gadarn ac yn barod i fod yn atebol am benderfyniadau, gweithrediadau a dewisiadau a wnaed yn bersonol, a thrwy hynny, meithrin hyder ac ennill parch ar bob lefel.
  10. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar a sgiliau cyflwyno rhagorol.
  11. Gallu bod yn fodel rôl ar gyfer gwerthoedd y sefydliad, gan ddangos patrwm enghreifftiol o ymddygiad o ran gonestrwydd, cywirdeb a moeseg.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel 1 – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol

 Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf