Prif Gynghorydd Arbenigol, Data Meistr
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gardarnhau
Rhif swydd: 201256
Y rôl
To lead, as NRWs subject matter expert, on data integration, interrogation, visualisation and Arwain, fel arbenigwr pwnc CNC, ar integreiddio data, cwestiynu, delweddu ac adeiladu golygfeydd a dangosfyrddau gweithredol; darparu arweiniad arbenigol ar adrodd ac integreiddio tystiolaeth fel ei fod yn cefnogi SMNR, yn llywio penderfyniadau gweithredol a datblygiad polisi ac yn creu effeithlonrwydd prosesau.
Cyfrannu at ddatblygu Strategaethau Gwybodaeth, Data a TGCh CNC a diffinio'r cynllun gwella a gwasanaeth ar gyfer cyflawni dull corfforaethol CNC o integreiddio data i greu safbwyntiau pwrpasol wedi'u dehongli o'n hasedau data.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mark Diggle ar mark.diggle@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae'r rôl yn rhan o'r Tîm Data Meistr sy'n rhan o'r adran Ddigidol, Data a Thechnoleg newydd o fewn Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol.
Mae hon yn rôl dechnegol sydd â chyfrifoldeb perchennog system am drwyddedu, llywodraethu, cynnal a chadw a datblygiad parhaus seilwaith CNC a chymwysiadau TG a ddefnyddir ar gyfer integreiddio data, trawsnewid data ac adrodd. Mae'r seilwaith craidd hwn yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o'n sylfaen dystiolaeth a'i hailddefnyddio; mae’n cyflawni effeithlonrwydd; yn cefnogi’r holl benderfyniadau a wneir ar draws gweithgareddau CNC ac yn helpu CNC i gyflwyno tystiolaeth integredig i gefnogi SMNR. Rhoi cyfeiriad clir i Arbenigwyr Pwnc, Ceidwaid Data a Pherchnogion Asedau Gwybodaeth ar ddylunio a gweithredu adroddiadau gweithredol a delweddu ar bob lefel, gan gynnwys uwch reolwyr a bwrdd CNC.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn arweinydd technegol ar gyfer dull CNC o greu safbwyntiau, adroddiadau a dangosfyrddau arferol; diffinio a rheoli rhaglen waith fawr a chymhleth sy'n galluogi creu golygfeydd pwrpasol ar gyfer ystod gymhleth ac eang o weithgareddau busnes a defnyddwyr.
- Chi fydd y pwynt uwchgyfeirio technegol a byddwch yn gyfrifol am ymdrin â dulliau cwbl newydd a chymhleth o integreiddio data ac awtomeiddio neu am roi gwybod am broblemau i CNC.
- Darparu cyngor proffesiynol yn eich maes arbenigedd i lywio strategaethau a chynlluniau TGCh, Data a GIS CNC; gweithio'n agos â chydweithwyr TGCh i gyflawni'r rhain (e.e. rheolwyr cymorth rhaglenni a seilwaith, penseiri TGCh, rheolwr digidol).
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o arwain ar adrodd gweithredol, dangosfyrddau, delweddu neu ganfyddiadau busnes ar lefel menter/corfforaethol.
- Lefel uchel o arbenigedd technegol mewn rheoli offer a rhaglenni a ddefnyddir ar gyfer integreiddio a chyflwyno data (e.e. offer trawsnewid allforio fel FME SSAS, SSIS, offer adeiladu ymholiadau ac adroddiadau megis Power BI, SSRS, ArcGIS Online).
- Sgiliau rheoli prosiect a rhaglen ardderchog a phrofiad cydnabyddedig o gyflwyno data neu brosiectau TG o fewn trothwyon cost, amser a chanlyniadau.
- Profiad o reoli neu gyflwyno fframweithiau a phrosesau llywodraethu data neu TG; gan gynnwys cadeirio byrddau llywodraethu neu grwpiau gorchwyl a gorffen.
- Byddai dealltwriaeth o lywodraethu o fewn fframwaith ITIL o fantais.
- Gwybodaeth am y datblygiadau mewn technoleg a pholisi sy'n cyflwyno cyfleoedd neu gyfyngiadau i’n dull o greu safbwyntiau gweithredol o dystiolaeth, delweddu, mewnwelediadau busnes ac adrodd ar ddangosfwrdd.
- Gwybodaeth am safonau cyfreithiol a diwydiant cyfredol a gweithredu a chydymffurfio mewn cyd-destun rheoli data.
- Profiad o redeg prosiectau TG neu newid data a dealltwriaeth o reoli risg.
- Sylfaen dda ym maes data, cyfrifiadureg, gwyddoniaeth naturiol neu amgylcheddol. Byddai cymhwyster proffesiynol o fantais.
- Mae bod yn aelod o broffesiwn amgylcheddol, TG neu reoli data perthnasol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.