Adroddiad ar berfformiad 2022-23

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad blynyddol a'n cyfrifon 2022/23

Ar y tudalennau canlynol, mae Clare Pillman, ein Prif Weithredwr, yn cynnig ei safbwynt ar ein perfformiad eleni ac rydym yn amlinellu diben ein sefydliad, ein gweledigaeth newydd, ein cenhadaeth, ein gwerthoedd a’r risgiau a'r problemau allweddol rydym yn eu hwynebu, yn ogystal ag esbonio sut rydym wedi rheoli’r gwaith o gyflawni ein hamcanion eleni.

Mae'n bwysig cydnabod mai hwn yw'r adroddiad olaf y byddwn yn ei lunio sy’n cyd-fynd â'n hen gynllun corfforaethol “Rheoli adnoddau naturiol heddiw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol”. Yn ystod 2022/23 mae’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol wedi arwain y gwaith o lunio ein cynllun corfforaethol newydd, “Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’i Gilydd”, gan adnewyddu ein gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion llesiant. Cafodd y cynllun hwn ei lansio ddiwedd mis Mawrth 2023.

Datganiad y Prif Weithredwr

Mae hon wedi bod yn flwyddyn o drawsnewid wrth i ni ganolbwyntio ar y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni ein huchelgais o ysgogi camau gweithredu i fynd i’r afael ag achosion ac effaith yr argyfwng natur a hinsawdd. Fe wnaethom osod nodau heriol wrth i ni ddatblygu ein cynllun corfforaethol newydd hyd at 2030, gan herio ein hunain, a phartneriaid allweddol, i fynegi’n glir ddyheadau a disgwyliadau CNC – fel y gallwn, gyda’n gilydd, gynyddu ein heffaith wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd fel rhan o’n huchelgais i weld Cymru yn wlad lle mae byd natur a phobl yn wirioneddol ffynnu gyda’i gilydd.

Rydym wedi gweithio'n ddiwyd i ddeall ein gallu a'n galluoedd ein hunain yn well. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gwneud llawer iawn o waith gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i adolygu gweithgareddau sylfaenol CNC, gan feithrin cyd-ddealltwriaeth gref o'r adnoddau sydd ar gael i ni i gyflawni ein cylch gwaith.

Gan weithio’n agos gyda swyddogion polisi a chyllid Llywodraeth Cymru rydym wedi datblygu a chytuno ar gytundebau lefel gwasanaeth mewn 10 maes blaenoriaeth, sef rheoli perygl llifogydd, ystâd CNC, rheoli digwyddiadau llygredd, gorfodi, ansawdd dŵr, galluogi plannu coed, monitro dŵr croyw, monitro morol, monitro daearol a'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru). Mae pob cytundeb lefel gwasanaeth yn manylu ar yr adnoddau sydd eu hangen i'n galluogi i ddarparu lefel o wasanaeth sy'n bodloni ein cyfrifoldebau statudol a'r amcanion a nodir gan Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod nad yw’r rhain yn cwmpasu pob maes o’n busnes a byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth pellach drwy 2023/24.

Yn dilyn y trafodaethau drwy gydol yr adolygiad sylfaenol, rydym wedi dadlau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r lefel o uchelgais a ddisgwylir gan CNC yn uwch na’r hyn y mae setliadau cyllideb blaenorol wedi’i ganiatáu. Gan roi ystyriaeth lawn i’r hinsawdd economaidd bresennol a’r pwysau ar gyllidebau ar draws pob maes gwariant cyhoeddus, rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog Newid Hinsawdd am yr ymrwymiad a wnaed i fynd i’r afael â’r mater hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a’r blynyddoedd i ddod.

Gwyddom fod llawer o’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid hefyd yn wynebu heriau sy’n deillio o’r argyfwng costau byw, ac felly bu’n rhaid ymdrin yn sensitif â’n hymgynghoriad cyhoeddus ar adolygu ein taliadau ar gyfer rhai o’n trwyddedau. Arweiniodd yr ymatebion at gytuno ar nifer o ddiwygiadau i'n cynlluniau codi tâl arfaethedig. Er ein bod yn deall y gallai hyn fod yn anodd mewn rhai achosion, dyma'r tro cyntaf i ni gynyddu ein taliadau i adennill ein costau ers ein sefydlu 10 mlynedd yn ôl. O 1 Ebrill 2023 ymlaen, cynyddodd taliadau parhau blynyddol CNC 6% mewn wyth maes o’n gwaith. Bydd y taliadau ar gyfer gwneud cais am drwyddedau yn parhau ar yr un cyfraddau â 2022/23 tra byddwn yn aros am gytundeb gan y Gweinidog ar gyflwyno cynllun codi tâl newydd.

Mae ein cyfraniad at liniaru’r newid yn yr hinsawdd wedi canolbwyntio ar adfer mawndiroedd, sef yr arwr di-glod ym maes dal carbon, i raddau helaeth. Gwnaethom alw am wahardd y defnydd o gynhyrchion mawn yma yng Nghymru pan wnaethom groesawu 12fed cynhadledd Rhaglen Mawndiroedd y DU IUCN (yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur) a gynhaliwyd yn ystod yn yr hydref ac a gafodd dderbyniad da. Rydym yn croesawu cytundeb y Gweinidog i wahardd gwerthu mawn a byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos i fynd ymhellach o lawer yng Nghymru fel y gallwn ddiogelu’r cynefin gwerthfawr hwn.

Fel rhan o’n hymrwymiadau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gwnaethom gwblhau gwaith mawr er mwyn sicrhau bod Llyn Tegid yn y Bala, llyn naturiol mwyaf Cymru, yn parhau'n ddiogel dros yr hirdymor. Er bod Llyn Tegid yn llyn naturiol, mae angen ei reoli dan ddeddfwriaeth cronfeydd dŵr gan fod ei argloddiau yn amddiffyn tref y Bala rhag llifogydd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys cryfhau argloddiau ac ailosod y cyfan o amddiffynfeydd creigiau glan y llyn. Mae hyn yn rhan o’n gwaith i reoleiddio Llyn Tegid o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, ac mae’n rhan o raglen ehangach barhaus o waith diogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.

Mae gennym hefyd brosiectau ledled y wlad i gryfhau cydnerthedd safleoedd tirol a morol gwarchodedig Cymru, a ariennir drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atal a gwrthdroi colledion a dirywiad cynefinoedd a rhywogaethau a rhoi Cymru ar sylfaen gadarn ar y llwybr i adfer byd natur. Mae prosiectau wedi cael eu cynnal ar dros 200 o SoDdGAau (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) ac maent yn amrywio o raddfa fach i raddfa tirwedd gyfan; o'r mynyddoedd i'r môr ac o ymchwil a chasglu tystiolaeth i weithredu ymarferol. Yn ogystal â’n gwaith ein hunain, rydym wedi gweithio gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau i sefydliadau ledled Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau bioamrywiaeth eu hunain. Ym mis Ionawr eleni, dyfarnwyd grantiau gwerth £3.78 miliwn i 17 o brosiectau i wella cyflwr a chydnerthedd y rhwydwaith o safleoedd tirol a morol gwarchodedig yng Nghymru. Roedd y prosiectau hyn hefyd yn rhoi cymorth i gymunedau o amgylch y safleoedd gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth natur.

Rydym yn gweithio’n galed i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o greu 43,000 hectar o goetiroedd newydd yng Nghymru erbyn 2030. Ar ôl prynu parseli o dir ledled Cymru i’w plannu, rydym yn chwilio am gyfleoedd i greu amrywiaeth o fathau o goetir a fydd yn darparu ystod o fanteision i’r amgylchedd, i fywyd gwyllt, ac i gymunedau lleol. Yn Nhynymynydd ar Ynys Môn ac yng Nghoed Abermorlais yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r gymuned ffermio i helpu i hybu adferiad byd natur.

Eleni rydym wedi llwyddo i orfodi sawl erlyniad, a gosodwyd nifer o ddirwyon sylweddol. Roedd y rhain yn cynnwys erlyn Persimmon Homes a gafodd ddirwy o dros £433,000 ar ôl methu â rhoi mesurau priodol ar waith i atal sawl digwyddiad llygredd a effeithiodd ar Afon Gafeni yn Sir Fynwy yn 2019, ac atafaelu bron i £62,000 oddi wrth arweinydd ymgyrch anghyfreithlon hirsefydlog i botsio brithyll ac eog ar afon Teifi. Hefyd, cafwyd perchennog tir o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr ger Abertawe yn euog o gwympo dros wyth hectar o goetir yn anghyfreithlon.

Ond bu siomedigaethau hefyd. Yn dilyn yr ymchwiliad helaeth a thrwyadl i’r hyn a achosodd i drên ddod oddi ar y cledrau yn Llangennech, bu’n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i beidio ag erlyn gan nad oeddem yn gallu penderfynu heb amheuaeth resymol pwy oedd yn gyfrifol am achosi i'r wagen drên ddod oddi ar y cledrau. Er bod tystiolaeth yn nodi’r achos tebygol, roedd arbenigwyr cyfreithiol o’r farn ei bod yn annigonol i roi gobaith realistig o sicrhau euogfarn yn erbyn unigolyn neu gwmni penodol. Rhaid i ni wneud penderfyniadau ar sail gwerth cyhoeddus ac, yn anffodus, byddai mynd ar drywydd achos llys gan wybod nad oedd gobaith realistig o sicrhau erlyniad llwyddiannus yn ddefnydd amhriodol o arian cyhoeddus.

Mae ein Rhaglen Adfywio yn parhau i lywio ein ffyrdd o weithio ar ôl y pandemig er mwyn sicrhau ein bod yn sefydliad ystwyth, cydnerth a mwy effeithlon. Gan ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio, hyrwyddo llesiant staff ac arbedion ariannol, mae’r gwaith hwn wedi ystyried y ffordd orau i ni gefnogi cydweithwyr i weithio’n fwy hyblyg – megis sicrhau bod ein polisïau pobl yn adlewyrchu ac yn hwyluso ffyrdd newydd o weithio drwy ddull hybrid, ac yn harneisio datblygiadau technolegol fel bod staff yn gallu cael mynediad at wasanaethau'n ddiogel ar draws llawer o ddyfeisiau, gan gynnwys rhai personol. Rydym yn cwblhau strategaeth adeiladau, sy’n cwmpasu ein holl gyfleusterau, i addasu ein hadeiladau er mwyn diwallu ein hanghenion busnes yn y dyfodol, a bydd cyflawni'r strategaeth yn cynnwys cyfuno gofod swyddfa a chyfleusterau er mwyn adlewyrchu gofynion amgylchedd gwaith hybrid, tra’n cefnogi ein nodau datgarboneiddio. Rydym hefyd yn gwneud gostyngiadau mewn carbon ar draws ein fflyd, gan ddisodli diesel coch gydag olew llysiau wedi'i drin â dŵr (HVO) yn ein cerbydau gweithredol a gweithredu polisïau teithio newydd er mwyn teithio llai o filltiroedd mewn modd mwy gwyrdd.

Ein pobl yw ein hased pwysicaf. Fodd bynnag, mae recriwtio yn parhau i fod yn her sylweddol i ni ar draws meysydd proffesiynol allweddol, yn enwedig ym meysydd rheoli perygl llifogydd a pheirianneg. Nodwyd recriwtio fel un o’n risgiau strategol ac rydym wedi comisiynu cymorth allanol gan arbenigwyr i’n helpu i wella sut rydym yn recriwtio, ac rydym yn buddsoddi mewn atebion technolegol ac yn darparu cymorth arbenigol ar gyfer rheolwyr sy'n recriwtio. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein systemau a’n prosesau yn addas i’r diben, a bod ein cydweithwyr yn cael eu cefnogi, eu grymuso ac yn datblygu’r sgiliau ar gyfer y dasg sydd o’n blaenau.

Dim ond drwy angerdd, arbenigedd a chreadigrwydd ein pobl, a thrwy ysbrydoli ein partneriaid a’n rhanddeiliaid i ymuno â ni ar y daith, y caiff y weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion llesiant a nodir yn ein cynllun corfforaethol eu gwireddu. Rhaid inni harneisio’r newid mawr mewn agweddau a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd a llunwyr polisi, a’r consensws cryf ar yr angen brys i weithredu mewn ffordd unedig er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd.

Mae cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fel gwlad lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd erbyn 2030 yn ddirfodol heriol. Ond i’n cydweithwyr yn CNC sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd Cymru, nid yw’n anodd dychmygu gweledigaeth lle mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Rydym yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud a sut i’w wneud.

Nawr yw’r amser i weithredu ac i wneud hwn yn ddegawd tyngedfennol i gyflawni ar gyfer pobl a byd natur yng Nghymru, a ledled y byd.

 

- Clare Pillman, Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu - 18 Hydref 2023

Cyflwyno CNC

Rydym yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio dros bobl Cymru, a'n dyletswydd yw ymgyrraedd at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r egwyddorion arweiniol hyn yn sail i bopeth a wnawn, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio ein cysylltiadau ac yn dod â phobl ynghyd i greu a chyflawni canlyniadau a rennir ar gyfer natur.

Maent yn llywio sut mae ein cydweithwyr yn addasu ac yn ymateb i anghenion amrywiol ein cymunedau a’r amgylchedd, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar leoedd yn ein gwaith, cymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy a chyfrannu at y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae cariad ac angerdd dros natur, gwybodaeth fanwl ac arbenigedd, yn ogystal â balchder mewn cefnogi cymunedau ledled Cymru i weithredu, yn agweddau yr ydym yn eu rhannu â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill.

Mae ein cynllun corfforaethol newydd wedi’i saernïo gyda’n cydweithwyr mewn golwg, gan adeiladu ar ein profiad a’n dysgu dros y degawd diwethaf, ac mae'n nodi ein blaenoriaethau hyd at 2030.

Rydym wedi canolbwyntio ar y meysydd y gallwn ni wneud gwahaniaeth ynddynt a lle'r ydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny, gan ddefnyddio'n offerynnau, ein pwerau a’n hadnoddau i ysgogi camau gweithredu i gyrraedd targedau 2030, wrth weithio gydag eraill ar yr un pryd i ddefnyddio eu grym hwy i wneud gwahaniaeth.

Y tu hwnt i 2030, bydd cymdeithas yn wynebu dewisiadau anos ynglŷn â sut y bydd Cymru yn gallu cyrraedd ymrwymiadau 2050 ar gyfer yr hinsawdd a natur. Rydym yn dechrau ar y gwaith hwnnw nawr – yn nodi, profi a gwneud yr achos dros newid i'n gosod ar y llwybr cywir ar y cyd.

Mae ein hamcanion llesiant newydd yn mynd â ni at 2030 ac yn cwmpasu’r hyn y byddwn yn gallu ei gyflawni ein hunain, ond hefyd sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targedau rhyngwladol mwy uniongyrchol hyn.

Ein gweledigaeth newydd

Byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd.

Ein cenhadaeth newydd

Gweithredu ar y cyd, ac yn angerddol, er mwyn:

  • adfer byd natur
  • gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • atal llygredd hyd yr eithaf

a hynny drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ein gwerthoedd newydd

Mae’n fraint inni wasanaethu pobl Cymru drwy fyw ein gwerthoedd:

  • Perthyn: rydym ni'n gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â'n cynefin, a thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru, ac rydym ni'n creu partneriaethau ystyrlon
  • Beiddgar: rydym ni'n hyderus o ran defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain drwy osod esiampl
  • Ystyriol: rydym ni'n gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a'r cynefinoedd sy'n ein cynnal
  • Dyfeisgar: rydym ni'n archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol.

Mae'r gwerthoedd newydd hyn yn adlewyrchu, yn rhannol, y sefyllfa bresennol yn ogystal â'n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Maent yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth newydd yn llwyddiannus. Bydd y gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd; byddant wedi'u hymwreiddio yn ein brand, yn y ffordd yr ydym yn adrodd ein storïau, yn ein dysgu a'n datblygu, ac yn y ffordd rydym yn arwain ac yn rheoli. Bydd ein holl sgyrsiau ac ymddygiadau wedi'u hymwreiddio yn y gwerthoedd hyn.

Ein hamcanion llesiant hyd at 2023

Ein hamcanion llesiant, fel y’u nodir yn “Rheoli adnoddau naturiol heddiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”, oedd:

  • Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy
  • Sicrhau bod tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy mewn modd integredig
  • Gwella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau  
  • Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd  
  • Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon  
  • Hybu busnesau llwyddiannus a chyfrifol, sy’n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi 
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf 

Ar gyfer 2022/23, roedd ein blaenoriaethau strategol (isod) yn adlewyrchu tystiolaeth a ddaeth i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys adroddiadau gan yr IPCC (y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd), COP 26 a'r cyfnod yn arwain at COP 15. Cafodd y blaenoriaethau strategol ar gyfer yr argyfwng hinsawdd a natur eu hadlewyrchu gyda'i gilydd ar gyfer 2022/23: 

  • Ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur, a chanolbwyntio ar atebion sy’n seiliedig ar natur a datgarboneiddio 
  • Defnyddio ein harbenigedd, ochr yn ochr ag arbenigedd pobl eraill, gyda thystiolaeth o SoNaRR 2020, i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau arloesol ac integredig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur 
  • Gwella ansawdd dŵr drwy godi ymwybyddiaeth, defnyddio ein pwerau rheoleiddio a gorfodi yn effeithiol a gweithio ar y cyd ag eraill i leihau’r effeithiau ar fioamrywiaeth ac iechyd dynol, gan gynnwys arferion amaethyddol a rheoli tir 
  • Ysgogi adferiad cyfiawn a gwyrdd yn dilyn y pandemig gan gynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid yn ein gwaith 
  • Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol, gyda gweithlu sy’n llywio diwylliant perfformiad cryf ac sy’n darparu gwerth am arian a gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol i bobl Cymru 

I gael gwybodaeth am sut mae ein sefydliad wedi'i strwythuro i gyflawni, gweler ein Hadroddiad atebolrwydd (‘Ein Tîm Gweithredol’ yn yr adroddiad hwn neu ar ein gwefan yma, am ragor o fanylion). 

CNC mewn ffigurau

Dyma ffigurau sy’n ymwneud â'n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys rhywfaint o waith gydag eraill: 

Hyrwyddo amgylchedd Cymru a'r gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy 

  • 1,168 o safleoedd yng Nghymru wedi'u dynodi'n SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), GNG (Gwarchodfa Natur Genedlaethol) a/neu Barc Cenedlaethol 
  • Rydym yn aelod o bob un o'r 13 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru 

Sicrhau bod tir a dŵr yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac mewn ffordd integredig  

  • Rydym yn cynnal tua 3,800 o asedau rheoli perygl llifogydd 
  • Gwnaethom brosesu 2,737 o geisiadau am drwyddedau (drwy ein Gwasanaeth Trwyddedu)

Gwella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau 

  • Rydym yn rheoli 56 Gwarchodfa Natur Cenedlaethol (rhai ohonynt mewn partneriaeth ag eraill) 
  • Mae ein cyfrifoldebau yn ymestyn 12 milltir forol o'r arfordir 
  • Gwnaethom gyhoeddi 1,258 o drwyddedau rhywogaethau 

Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd 

  • Rydym yn cynnal dros 400 cilometr o amddiffynfeydd rhag perygl llifogydd 
  • Gwnaeth 170 o ddigwyddiadau amgylcheddol achosi effaith difrifol (mawr neu arwyddocaol) 
  • Mae 141,000 o adeiladau wedi’u cofrestru i dderbyn ein rhybuddion llifogydd 

Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon 

Hybu busnesau llwyddiannus a chyfrifol, sy’n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi 

  • Gwnaethom ymateb i 8,193 o ymgyngoriadau cynllunio 
  • Gwnaethom sicrhau 66 o erlyniadau am droseddau amgylcheddol yn 2022 
  • Gwnaethom gynhyrchu £34 miliwn mewn incwm o bren 

Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf 

Crynodeb o risgiau allweddol

 Fel sefydliad sydd â rolau a chyfrifoldebau amrywiol, rydym yn ymwybodol bod risg yn agwedd gynhenid ar ein holl weithgareddau ac yn rhan o bopeth a wnawn. Mae gennym nifer o risgiau allweddol ac mae rheoli'r rhain yn effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn lliniaru'r effaith y gallent eu cael ar gyflawni ein hamcanion. Fel y nodwyd yn ein Hadroddiad atebolrwydd, mae ein risgiau wedi'u nodi, eu hasesu, eu rheoli, eu hadolygu a'u cofnodi drwy gofrestrau risg ar lefelau amrywiol ledled y busnes.  

Ein risgiau strategol yw'r rhai a allai gael yr effaith fwyaf a mwyaf dwys ar gyflawni ein hamcanion. Yn gyffredinol, mae llawer o'r risgiau strategol hyn yn ymwneud ag effaith cyllid annigonol a nifer annigonol o adnoddau a phobl. Mae risgiau ychwanegol sy'n fwy penodol i'r sefydliad. Fel y disgwylir, felly, mae cynnwys y risgiau strategol a'u sgôr wedi aros yn weddol sefydlog dros y 12 mis diwethaf. Er bod yr holl risgiau ar ein cofrestr risg strategol yn allweddol i’r sefydliad, ceir crynodeb o’r rhai lle gwelwyd y newid mwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf fel a ganlyn: 

Cyllid

Cawn ein hariannu gan grant Llywodraeth Cymru ac yn ogystal â hyn, rydym yn cynhyrchu incwm o’n gweithgarwch masnachol ein hunain yn ogystal ag incwm o daliadau rheoleiddio. Mae effaith allanol chwyddiant cynyddol a chostau cynyddol y gadwyn gyflenwi ynghyd â phrinder cyflenwad wedi bod yn heriol ac mae angen mwy o ffocws er mwyn pennu ein prif flaenoriaethau. Gweler ein ‘Crynodeb ariannol’ am fwy o wybodaeth ynghylch hyn.

Cydymffurfedd

Mae’r risg yn canolbwyntio ar achosion o beidio â chydymffurfio â pholisïau sydd gennym ar waith i wneud ein gwaith yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn unol â gofynion y sector cyhoeddus. Rydym yn parhau i fonitro'r risg hon, sy'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan berchennog y risg yn ogystal â chael ei harchwilio gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae’r risg wedi cael ei hailddatblygu fel ei bod yn fwy eglur o ran y mesurau lliniaru allweddol arfaethedig a fydd yn ein helpu i gyflawni ein sgôr darged, sy’n cynnwys sicrhau bod ein polisïau’n glir, yn gryno ac yn hygyrch; darparu strwythur llywodraethu clir ar gyfer cyflawni; a datblygu ein swyddogaeth ail linell sy’n cynnwys monitro a dadansoddi ac, yn ein tro, darparu trosolwg a sicrwydd bod y risg yn cael ei rheoli'n effeithiol. Yn ogystal, rydym wedi darparu cyd-destun o ran y sgôr darged y gellir ei chyflawni yn y tymor byr, canolig a hir. Gweler ein ‘Effeithiolrwydd Rheolaethau Mewnol: Cydymffurfedd’ am fwy o wybodaeth ynghylch hyn.

Ymateb i ddigwyddiadau

Er mwyn cyflawni ein dyletswydd statudol fel ymatebwr Categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, rydym yn dibynnu ar ein staff medrus, systemau a gweithdrefnau i reoli ein digwyddiadau. Mae newidiadau i nifer o gontractau staff wedi ychwanegu mwy o adnoddau at y system rota, a thrwy hynny wedi cynyddu ein gallu i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau. Mae’r prosiect Ymateb Cydnerth i Ddigwyddiad wedi cae ei sefydlu a bydd yn weithredol tan 2025. Nod y prosiect yw canfod dull cynaliadwy o sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti a galluogrwydd i gyflawni ein dyletswyddau rheoli digwyddiadau. Mae hyfforddiant rota wedi bod yn mynd rhagddo ar gyfer digwyddiadau blaenoriaeth 1 a bwriedir ei gwblhau erbyn diwedd 2023. Gweler ein ‘Effeithiolrwydd Rheolaethau Mewnol: Rheoli Digwyddiadau’ am fwy o wybodaeth ynghylch hyn.

Crynodeb ariannol

Cyllid a sut y gwnaethom wario ein harian. 

Cyfanswm ein hincwm ar gyfer y flwyddyn oedd £116 miliwn ac mae hyn yn cynnwys £22 miliwn o grantiau gan Lywodraeth Cymru tuag at ystod o ganlyniadau. Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru £118 miliwn o gymorth grant, ac o’r swm hwnnw dyrannwyd £41 miliwn i weithgareddau rheoli llifogydd a risgiau arfordirol. Yn y datganiadau ariannol, caiff cymorth grant ei ystyried yn gyfraniad gan awdurdod â rheolaeth ac nid yn ffynhonnell incwm. 

Yn 2022/23, cynyddodd ein gwariant o £255 miliwn i £272 miliwn. Mae'r newid mewn gwariant o ganlyniad i sawl rheswm gan gynnwys cynnydd mewn costau staff yn bennaf oherwydd ein dyfarniad cyflog, cyflawni ein rhaglenni cyfalaf a chostau cynyddol gwasanaethau a brynir i mewn. Dyma ddosbarthiad cyfanswm ein cyllid a gwariant:

  • Cyllid fesul math: Cymorth grant Llywodraeth Cymru (50% / £118 miliwn), Taliadau (17% / £40 miliwn), Incwm Masnachol ac incwm arall (21% / £49 miliwn), Grantiau eraill Llywodraeth Cymru (9% / £22 miliwn), Cyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall (2% / £5 miliwn) 
  • Gwariant fesul math: Costau staff (46% / £125 miliwn), Gwaith cyfalaf a wariwyd yn ystod y flwyddyn (12% / £33 miliwn), Gwariant arall (42% / £114 miliwn) 

Rheoli ein harian 

Yn 2022/23, arhosodd ein cyllid ‘craidd’ gan Lywodraeth Cymru ar yr un lefel o ran arian parod â'r flwyddyn flaenorol. Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid arall yn ystod y flwyddyn ariannol oherwydd diffyg yn ein cyllideb. Hefyd, parhaodd Llywodraeth Cymru i roi cyllid grant penodol i ni ar gyfer rhaglenni sydd wedi’u targedu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Dyblodd nifer ein rhaglenni a ariennir yn allanol – gan fuddsoddi mwy na £7 miliwn mewn rhaglenni a ariannwyd gan Ewrop a’r Loteri Dreftadaeth. Gwelwyd gostyngiad bach yn ein hincwm o bren wrth i’r sefyllfa economaidd effeithio ar y galw am bren ond gwrthbwyswyd hyn gan gynnydd mewn incwm o ynni adnewyddadwy. Mae lefelau incwm o daliadau wedi cynyddu ond yn llai na’r gyfradd chwyddiant. Craffwyd ar y gyllideb gan y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd a'i chymeradwyo ganddynt.   

Edrych i'r dyfodol  

Rydym newydd gyhoeddi ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n Cynllun Busnes ar gyfer 2023/24 sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn / blynyddoedd ariannol sydd i ddod. Rydym wedi gosod ein cynlluniau ar sail adnoddau disgwyliedig, gan gynnwys cymorth grant, taliadau, a dyraniadau ac amcangyfrifon incwm masnachol. Rydym newydd gael cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau i’n ffioedd trwyddedu a'n ffioedd ar gyfer gwneud cais a fydd yn dod i rym o 2023/24 ymlaen. Rydym hefyd wedi cynyddu ein taliadau parhau mewn rhai cyfundrefnau, lle bo angen, oherwydd effaith lefelau chwyddiant. Gall ein hincwm masnachol fod yn llai rhagweladwy gan ei fod yn sensitif iawn i newidiadau yn y gyfradd gyfnewid sy'n effeithio ar brisiau pren. Mae gennym ddyraniadau cymorth grant dangosol hyd at 2024/25 a fydd yn ein helpu gyda'n cynllunio. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd y diffyg yn ein dyraniadau cymorth grant yn cael ei ddatrys yn ystod y flwyddyn ariannol hon a bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i ni barhau â’r lefelau gwasanaeth presennol a chynyddu’r lefelau gwasanaeth hynny mewn rhai lleoedd.  

Asedau anghyfredol 

Roedd ein hasedau anghyfredol yn werth £2,769 miliwn ar 31 Mawrth 2023, sef 9% (£234 miliwn) yn fwy o'u cymharu â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Y gydran fwyaf arwyddocaol yw gwerth yr ystad goedwig ac asedau biolegol, sy'n gyfrifol am £2,235 miliwn o'r cyfanswm, a phrisiad cryf y cnydau ar yr ystad oedd y prif reswm dros y cynnydd mawr. 

Taliadau masnachol a thaliadau eraill  

Rydym wedi ymrwymo i dalu 95% o gyflenwyr o fewn 30 diwrnod, ac rydym yn ceisio mynd y tu hwnt i'r targed hwn pan fo'n bosibl. Roedd perfformiad ar gyfer y flwyddyn gyfan ychydig yn is na'r targed hwnnw (94%). Roedd perfformiad dros y chwe mis diwethaf yn 96% ar gyfartaledd, a chyflawnwyd 99% ym mis Mawrth 2023.   

Perfformiad dyledwyr 

Yn ein gwaith parhaus yn rheoli dyled fasnachol bu cynnydd bach mewn dyled fasnachol, ac mae nifer cyfartalog y diwrnodau y mae'n cymryd i gwsmeriaid dalu wedi aros yn un diwrnod o gymharu â 2021/22. Mae hyn yn parhau i fod o fewn ein targed o ddau ddiwrnod. 

Yn ein rheolaeth o ddyled reoleiddiol bu gostyngiad yn lefel y ddyled o 2.9% yn 2021/22 i 6.5% ar ddiwedd 2022/23, a oedd yn dal yn is na’n targed o 7%. Byddwn yn gosod targed sy'n gwella ar 6.5% ar gyfer 2023/24.    

Ar 31 Mawrth 2023, colled credyd ddisgwyliedig CNC oedd £0.2 miliwn. 

Busnes gweithredol 

Mae'r datganiad o'r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2023 yn dangos ecwiti trethdalwyr cadarnhaol o £2,710 miliwn. Bydd ein rhwymedigaethau yn y dyfodol yn cael eu hariannu gan gymorth grant Llywodraeth Cymru a thrwy gymhwyso incwm yn y dyfodol. Mae gennym Gynllun Corfforaethol a Chynllun Busnes cymeradwy ar gyfer 2023/24. Felly, mae'n briodol mabwysiadu dull busnes gweithredol wrth baratoi'r datganiadau ariannol.  

Pensiynau 

Datgelir y rhwymedigaeth pensiwn yn y datganiadau ariannol ar sail Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19. Mae'r rhwymedigaeth wedi gostwng ar gyfer Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol o £54.4 miliwn i warged o £65.3 miliwn yn ystod y flwyddyn. 

Mae hyn yn wahanol i'r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau cyllido. Roedd Cronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod ganddi ddigon o asedau i fodloni 142% o'i rhwymedigaethau disgwyliedig yn y dyfodol ar 31 Mawrth 2023. 

Archwilwyr 

Caiff ein cyfrifon eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Y ffi archwilio ar gyfer 2022/23 oedd £199,000. 

Adroddiadau eraill 

Fel sefydliad, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau am ein perfformiad yn rheolaidd, gan gynnwys:

  • adroddiad blynyddol a'r cyfrifon
  • adroddiad blynyddol cydraddoldeb,
  • amrywiaeth a chynhwysiant;
  • adroddiad amgylcheddol.

Rydym wedi cyhoeddi strategaethau a chynlluniau ar gyfer Cymru gan gynnwys ein:

Mae nifer o adroddiadau tystiolaeth ac ymchwil a gyhoeddwyd ar gael gan gynnwys Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (SoNaRR) ar gyfer Cymru).

Crynodeb o berfformiad

 Mae’r holl fesurau yn ein fframwaith perfformiad yn ymwneud â’n hamcanion llesiant a nodir yn ein cynllun corfforaethol ‘Rheoli adnoddau naturiol heddiw ar gyfer cenedlaethau yfory’) hyd at fis Mawrth 2023. Gwneir gwaith adrodd a chraffu ar adroddiadau pwnc ac adroddiadau mesurau yn nangosfwrdd ein Cynllun Busnes yn ystod sesiwn gyhoeddus agored yn ystod cyfarfodydd Bwrdd CNC bedair gwaith y flwyddyn, a gwneir rhagor o waith craffu ar y gwaith adrodd hwn drwy Lywodraeth Cymru.  

Ar ddiwedd blwyddyn 2022/23 roedd dangosfwrdd ein Cynllun Busnes yn cynnwys 31 o fesurau, ar draws 15 o bynciau. Ar ddiwedd y flwyddyn, o'r mesurau hynny roedd: 

  • 19 yn Wyrdd (h.y. wedi cyrraedd y targed neu'r garreg filltir) 
  • 12 yn Oren (h.y. yn agos at gyrraedd y targed neu’r garreg filltir) 
  • dim un yn Goch (h.y. wedi methu'r targed neu'r garreg filltir) 

O gymharu’r perfformiad â’r flwyddyn flaenorol (2021/22), ar ddiwedd 2022/23 cawsom dri mesur gwyrdd yn llai, gyda phedwar mesur oren neu goch yn fwy (ac adlewyrchodd dangosfwrdd 2022/23 un mesur yn fwy yn gyffredinol).  

Gweler Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer blynyddoedd blaenorol 

Dadansoddi Perfformiad

Nod y rhan hon o'r adroddiad perfformiad yw adlewyrchu rhywfaint o'r hyn a gyflawnwyd eleni, gan gynnwys enghreifftiau sy'n adlewyrchu uchafbwyntiau penodol a meysydd a oedd yn destun her sylweddol. 

Rydym yn amlinellu'r canlynol fesul Amcan Llesiant: 

  • y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn6 ar gyfer pob un o’r mesurau yn nangosfwrdd ein Cynllun Busnes; 
  • rhywfaint o'n gweithgarwch â blaenoriaeth arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod; 
  • nifer o enghreifftiau cyflawni cysylltiedig (y mae rhai ohonynt yn ymwneud â nifer o’n hamcanion llesiant)  

Os oes cydberthynas rhwng y gwaith cyflawni â Nodau Llesiant Cymru mae'r rhain yn cael eu nodi (gweler y dull gweithredu ar gyfer hyn isod). 

Nodau Llesiant Cymru: Yn y rhan ganlynol o’r adroddiad blynyddol a chyfrifon hwn rydym hefyd wedi nodi cydberthnasau rhwng rhai eitemau â Nodau Llesiant Cymru. Rhestrir Nodau cysylltiedig dethol.

Hyrwyddo amgylchedd Cymru a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy

Ein nod yw hyrwyddo’r amgylchedd naturiol ym mhopeth yr ydym yn ei wneud – yn yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu, o ran cynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ac wrth roi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar waith ar draws ein holl waith – er mwyn helpu pobl i wneud y mwyaf o’r manteision y mae’n eu cynnig yn ogystal â’i werthfawrogi er ei fwyn ei hun – nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Bwrw ymlaen â Natur a Ni, er mwyn paratoi gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol hyd at 2050, gyda newid cytunedig yn yr amserlen. Statws y mesur: Oren 
  • Pennu cyfeiriad strategol ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau a chyfleoedd y Datganiad Ardal a'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Gwaith datblygu polisïau a deddfwriaeth rheoli tir Llywodraeth Cymru ar sail gwybodaeth. Statws y mesur: Gwyrdd 

Gan edrych i'r dyfodol mae ein Cynllun Busnes newydd yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod er mwyn cyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd.  

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Gweledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050 

Fe wnaeth Natur a Ni gynnwys pobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru yn 2050. Drwy greu’r weledigaeth ar gyfer Cymru gyda phobl Cymru, gall pawb symud ymlaen â’r weledigaeth sy’n dod i’r amlwg er mwyn creu dyfodol gwell ar gyfer byd natur ac ar ein cyfer ni.  

Gwnaeth y rhaglen Natur a Ni gynnwys pobl, cymunedau a sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 a’r newidiadau y mae angen i bob un ohonom eu gwneud cyn 2030 a 2050. 

Cafwyd dros 3,000 o ymatebion unigol yn dilyn ymgyrch ar-lein yn ystod gwanwyn 2022, a oedd yn nodi’r hyn y mae pobl ei eisiau, a’r hyn sy’n peri pryder iddynt, ar gyfer dyfodol ein hamgylchedd. Dros yr haf, fe wnaethom gynnal grwpiau ffocws gyda chymunedau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol fel rhan o'r ymarfer ennyn cyfranogiad cychwynnol. Helpodd hyn ni i archwilio'r cymhellion a'r rhwystrau a oedd y tu ôl i weledigaethau a phryderon pobl ar gyfer y dyfodol. I weld y canfyddiadau, ewch i: www.naturani.cymru 

Yn gynnar yn 2023 cynhaliwyd cynulliad dinasyddion i lunio'r weledigaeth. Roedd aelodau’r cynulliad yn cynrychioli amrywiaeth cymdeithas Cymru a chafodd y sesiynau eu cydlunio â sefydliadau o bob rhan o’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau ystod gytbwys o dystiolaeth. Mae’r weledigaeth a ddeilliodd o hyn yn disgrifio dyfodol lle mae byd natur a chymdeithas yn ffynnu gyda’i gilydd, gan gynnwys pa fuddion y mae hyn yn eu darparu, ac yn nodi meysydd allweddol ar gyfer newid er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.   

Roedd yr amcanion llesiant yn ein cynllun corfforaethol newydd yn adeiladu ar ganfyddiadau Natur a Ni. 

Bydd y weledigaeth yn cael ei chyhoeddi yn ystod haf 2023 a bydd gwaith gyda sefydliadau partner yn parhau, i ganfod ymatebion i’r weledigaeth a’r camau i’w cymryd. Bydd CNC yn ymateb yn ffurfiol i’r weledigaeth, gan nodi ein rôl yn y gwaith o'i chyflawni. 

Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi’u gwreiddio’n gadarn yn ein cynllun, a bydd y weledigaeth yn helpu i ddarparu ffocws hirdymor i bob corff cyhoeddus. Bydd gwerthusiad yn casglu’r gwersi allweddol a ddysgwyd ar gyfer pob corff cyhoeddus. Bydd gwerthusiad yn casglu’r gwersi allweddol a ddysgwyd ar gyfer CNC ynghylch arferion ymgysylltu, cyfranogi a chyfathrebu. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Trwydded forol wedi'i rhoi ar gyfer y fferm wynt arnofiol ar y môr gyntaf yng Nghymru

Ym mis Chwefror 2023 rhoesom drwydded forol ar gyfer y fferm wynt arnofiol ar y môr gyntaf yng Nghymru. Mae ein gwasanaeth trwyddedu yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth i sicrhau bod gwaith rheoli cynaliadwy yn allweddol i’r gwaith o benderfynu ar geisiadau am drwyddedau. 

Mae Prosiect Erebus yn fferm ynni gwynt adnewyddadwy arnofiol ar y môr 100MW yn y Môr Celtaidd sy’n cynnwys hyd at uchafswm o saith tyrbin wedi’u lleoli ychydig dros y terfyn 12 milltir forol yn rhanbarth Alltraeth Cymru gyda llwybr ceblau allforio sy’n dod i’r lan ym Mae Gorllewin Angle, Sir Benfro. Roedd angen trwydded forol ‘Band 3 EIA’ ar Brosiect Erebus, y gwnaeth Gwasanaeth Trwyddedu CNC benderfynu arni, ynghyd â chydsyniad adran 36 gan Weinidogion Cymru yn dilyn argymhelliad gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Wrth ddod i'w penderfyniad, ildiodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i benderfyniad Tîm Trwyddedu Morol ynghylch cydsyniad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Rhoddwyd y drwydded forol ym mis Chwefror 2023 ac mae'r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio ar gyfer 2025. 

Wrth benderfynu ar geisiadau am drwyddedau morol, mae angen i CNC roi sylw dyledus i ddeddfwriaeth sydd wedi’i gynllunio i ddiogelu’r amgylchedd, diogelu iechyd pobl, atal ymyrraeth â defnydd cyfreithlon o’r môr ac unrhyw faterion eraill yr ystyrir eu bod yn berthnasol.  

Gwnaethom ystyried Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (2011) (fel y’u diwygiwyd), Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 wrth benderfynu ar Brosiect Erebus, sef y fferm wynt arnofiol ar y môr gyntaf yng Nghymru.   

Rydym yn cydnabod bod egwyddorion rheoli cynaliadwy yn cynnwys ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas ag ansicrwydd, ac ystyried canlyniadau camau gweithredu dros y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Rydym yn cydnabod ymhellach mai un o amcanion rheoli gynaliadwy yw cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r buddion y maent yn eu darparu ac, wrth wneud hynny, ddiwallu anghenion y cenedlaethau presennol o bobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwy. Wrth benderfynu ar y drwydded forol ar gyfer Prosiect Erebus, sicrhaodd ein Tîm Trwyddedu Morol fod y datblygiad cywir yn cael ei ganiatáu yn y lle iawn. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang  

Sicrhau bod tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy mewn modd integredig

Gall dull gweithredu sy’n gwbl integredig ar gyfer rheoli tir a dŵr yn gynaliadwy yng Nghymru ddwyn llawer o fuddion ar draws yr holl sectorau – ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd trefol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd eto. Ein nod yw rhoi’r dull hwn ar waith ar y tir a’r dŵr yr ydym yn eu rheoli ein hunain ac annog yr holl reolwyr tir a dŵr i fabwysiadu dull o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Cyflwyno rhaglen i adolygu gofynion ansawdd dŵr statudol, a chwblhau Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy a Chynllun Rheoli Basn Afon Hafren. Statws y mesur: Oren
  • Cefnogi argymhellion archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru, ac mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd gan CNC ar gyfer y flwyddyn wedi'u cwblhau ar y cyfan. Statws y mesur: Oren 
  • Creu coetir newydd ar ystad CNC, gyda 164 hectar o goetir wedi’i sefydlu eleni, a chwe safle wedi’u sicrhau (207 hectar) ar gyfer creu coetir yn y dyfodol. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Cadw'r ardystiad mewn perthynas â Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig, heb unrhyw geisiadau am gamau unioni mawr. Statws y mesur: Oren 
  • Rhoi mewnbwn i raglenni cynllunio cwmnïau dŵr, ac ymateb i gynlluniau cysylltiedig. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Aildrefnu’r gwaith o ailgynllunio ein rhwydwaith ansawdd dŵr croyw. Disgwylir ei gwblhau nawr erbyn diwedd Mehefin 2024. Statws y mesur: Oren 
  • Gweithio i leihau effaith maethynnau yn afonydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig; Cyhoeddi cyngor, diweddaru ein canllawiau a chefnogi'r gwaith o lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Statws y mesur: Oren  
  • Gweithredu i adfer mawndiroedd Cymru, gan gyflawni gweithgareddau adfer mawndir ar draws 629 hectar (gan gynnwys 85 hectar ar ystad CNC). Statws y mesur: Gwyrdd

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Awdurdodiadau newydd – Wedi'u llofnodi, eu selio a'u cyflawni

Rydym wedi dod â thynwyr dŵr a oedd wedi’u heithrio yn flaenorol i mewn i’r gyfundrefn drwyddedu er mwyn sicrhau bod dŵr yng Nghymru yn cael ei reoli’n gynaliadwy a bod gan CNC reolaeth reoleiddiol i sicrhau cydymffurfedd gweithgareddau’n sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd Cymru. 

Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cychwyn ar her sylweddol wrth gyflawni gofynion Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017. Ar 1 Ionawr 2018 gwnaeth newidiadau deddfwriaethol, a osodwyd yn Neddf Dŵr 2003, hi’n ofynnol i waith tynnu dŵr a oedd wedi’i eithrio’n flaenorol gael ei reoleiddio o dan drwydded newydd o’r enw ‘awdurdodiad newydd’.   

Cyn i’r newidiadau gael eu cyflwyno gwnaethom ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, drwy gyhoeddi a dosbarthu taflenni gwybodaeth a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thrwy ddefnyddio gwybodaeth leol am weithgareddau tynnu dŵr a oedd wedi’u heithrio’n flaenorol.  

Yn y cefndir, roedd Tîm Trwyddedu Adnoddau Dŵr ein Gwasanaeth Trwyddedu a'r Timau Polisi Dŵr hefyd yn brysur yn creu'r hyn yr oedd cwsmeriaid mewnol ac allanol ei angen. Cafodd polisïau, canllawiau, hyfforddiant ac offerynnau newydd eu cyflwyno er mwyn cefnogi'r broses ymgeisio newydd. 

Dilyswyd cyfanswm o 117 o geisiadau, ac yn 2020 aethom ati i wneud penderfyniad ar bob cais. Roedd penderfynu ar y trwyddedau hyn yn hynod heriol oherwydd bod y gweithgareddau o dan sylw yn ymwneud â gwaith tynnu dŵr a oedd eisoes yn digwydd. Cafodd mewnbwn technegol sylweddol o sawl maes o'r busnes ei ddarparu i gefnogi'r gwaith hwn. Oherwydd ymroddiad y staff ar draws ein sefydliad roeddem wedi gallu dod i benderfyniad ar bob cais erbyn 31 Rhagfyr 2022 sef yr amserlen ddeddfwriaethol. 

Nawr bod trwydded gan y tynwyr dŵr hyn a oedd wedi'u heithrio yn flaenorol, gallwn ddechrau eu rheoleiddio, gan sicrhau y gellir cyflawni cydymffurfiedd a gwelliant. Gallwn nawr gofnodi, mewn ffordd fwy manwl gywir, y swm o ddŵr sy’n cael ei dynnu yng Nghymru gan ei gwneud yn bosibl inni wella’r gwaith o gynllunio adnoddau dŵr yn ein dalgylchoedd. Hyn i gyd er mwyn cynnal a gwella amgylchedd Cymru.

Coetir newydd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Yn 2022/23 fe wnaethom sefydlu 95 hectar o orchudd canopi newydd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru – gan wneud iawn am goetir a gollir ohono, a sicrhau ein bod yn cynnal adnoddau pren yn y dyfodol a'r ystod lawn o fuddion a ddarperir gan goetiroedd cyhoeddus.  

Mae ein rhaglen creu coetir yn gwneud iawn am goetir a gollwyd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygiadau ynni adnewyddadwy – gan gaffael tir a sefydlu coetir newydd a fydd yn cael ei reoli fel rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru am byth. Ar ddechrau 2022/23, roedd coetir Cymru yn gorchuddio 310 mil hectar (ffigur heb ei newid ers 2019), gyda 115 mil hectar o hwn yn cael ei reoli gan CNC fel rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. 

Yn 2022/23 fe wnaethom sefydlu pedwar safle, arwynebedd gros o 164ha gan arwain at 95ha o orchudd canopi newydd. Gwnaethom waith ar dri safle (84ha) a grëwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau eu bod yn parhau i sefydlu'n llwyddiannus. Gwnaethom hefyd gaffael 207ha arall i'w plannu yn y tymor plannu i ddod. 

Wrth nodi a chynllunio safleoedd newydd rydym yn ystyried yn ofalus amodau safleoedd, cynefinoedd presennol, tirwedd leol a chymunedau. Arweinir ein cynlluniau gan Safon Coedwigaeth y DU ac egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae'r holl goetiroedd sy'n rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru wedi'u hardystio mewn perthynas â Safon Sicrwydd Coetir y DU (safon ardystio annibynnol ar gyfer gwirio rheolaeth coetir cynaliadwy).  

Fel rhan o’n gwaith creu coetir yn 2022/23 fe wnaethom gynnal nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus ar ein cynlluniau; gan sicrhau bod anghenion cymdogion a chymunedau lleol yn cael eu hystyried, a bod rhanddeiliaid yn gallu cyfrannu at ein cynlluniau. O ganlyniad, rydym wedi cynnwys rhai agweddau arloesol yn y cynlluniau coetir a blannwyd gennym y llynedd, gan gynnwys perllannau cymunedol, safle arddangos tir pori coed a dechrau partneriaeth gymunedol newydd.  

Egwyddor allweddol arall o’n gwaith i greu coetir yw sicrhau cydnerthedd. Plannwyd amrywiaeth eang o rywogaethau gennym, a gobeithiwn y byddant yn gallu gwrthsefyll amodau hinsoddol y safleoedd yn y dyfodol a chyfrannu at gydnerthedd cyffredinol Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.  

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cymunedau cydlynus 

Gwella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau

Nododd ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol na fydd llawer o ecosystemau yn ddigon hyblyg i ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill yn y dyfodol ac felly efallai na fyddant yn gallu darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom – fel aer a dŵr glân. Rydym yn dynodi safleoedd arbennig yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, er enghraifft – ond mae ein gwaith yn llawer ehangach na hyn. Ein nod yw cymryd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau i ystyriaeth yn ein holl swyddogaethau, gweithgareddau a phenderfyniadau a helpu cyrff cyhoeddus eraill i wneud yr un fath. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Rheoli rhaglenni i fynd i'r afael â chynefinoedd ledled Cymru a'u hadfer. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Gweithredu dros rywogaethau sy'n dirywio neu'r rhai sydd ar fin diflannu, gan gynnwys gwneud cais am gyllid yn y dyfodol. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Cyflawni camau gweithredu mewn perthynas â rheoli rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Cwblhau camau â blaenoriaeth ar draws Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng ngofal uniongyrchol CNC, gan gwblhau 68% o’r rhain. Statws y mesur: Oren 
  • Cwblhau  camau gweithredu â blaenoriaeth ar safleoedd gwarchodedig er mwyn gwella cyflwr nodweddion. Statws y mesur: Gwyrdd  

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Datganiadau Ardal – Lleihau llygredd gwasgaredig a gwella ansawdd dŵr

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru rydym wedi llwyddo i gyflawni cyfres o brosiectau yn 2022/23 sy’n mynd i’r afael â llygredd gwasgaredig a gwella ansawdd dŵr yn nalgylch Clwyd. Dim ond un enghraifft yw hon o’n gwaith ar hyn, mewn un rhan o Ogledd-ddwyrain Cymru. 

Mae'r Datganiadau Ardal rydym yn cyhoeddi'n adlewyrchu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd ar gyfer ardaloedd o Gymru. Rydym wedi cyhoeddi saith Datganiad Ardal, gan gynnwys Datganiad Ardal morol. Mae Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru yn adlewyrchu nad oedd 68% o'i holl gyrff dŵr croyw (fel y'u diffinnir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cyflawni statws cyffredinol da neu well. Yn nalgylch Clwyd, mae nifer o brosiectau wedi’u cyflawni yn 2022/23 a oedd yn cynnwys mynd i’r afael â materion cysylltiedig mewn pedwar lleoliad gwahanol yn y Chwiler isaf, Hesbin, a Dŵr Iâl. 

Targedwyd ymyriadau i wella ansawdd dŵr, ochr yn ochr â buddion amgylcheddol, bioamrywiaeth, iechyd a llesiant eraill yn unol â blaenoriaethau'r Datganiad Ardal. Datblygwyd yr ymyriadau yn rhaglen waith ar gyfer pob lleoliad. Roedd ymyriadau yn cynnwys y canlynol:  

  • Tynnu ffosffadau o gyrsiau dŵr, trwy ddileu mynediad stoc  
  • Lleihau llwyth gwaddod o erydu glannau 
  • Gwella statws cyflwr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer pob corff dŵr  

Llwyddodd pob prosiect i gyflawni’r ymyriadau a nodwyd, a disgwylir iddynt helpu i wella ansawdd dŵr ym mhob corff dŵr a dalgylch ehangach Clwyd. Chwaraeodd y prosiectau ran bellach wrth gyfrannu at ddull dalgylch llawer mwy, gan ymestyn y ffensio ar gyfer coridorau glannau afon a gwblhawyd eisoes mewn mannau eraill gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd a ninnau.  

Mae'r berthynas â phartneriaid hefyd wedi gwella o ganlyniad i'r prosiectau hyn, gan alluogi arferion mwy cydweithredol ac arloesol i gael eu hystyried yn y dyfodol i helpu i reoli tir yn gynaliadwy a gwella ansawdd dŵr. 

Ledled Cymru, roedd gan 40% o 933 o gyrff dŵr wyneb a dŵr daear statws da yn 2021 – gwelliant o 3 phwynt canran o’r hyn a adroddwyd yn 2015 a gwelliant o 8 pwynt canran ers 2009. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Mynd i'r afael â gwaith heb ei ganiatáu ar afonydd a nentydd

Mae ein ffocws ar atal a rheoleiddio niwed corfforol (niwed hydromorffolegol) i afonydd yn darparu gwell amddiffyniad i gynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw rhag gwaith niweidiol anawdurdodedig.  

Mae gan waith heb ei ganiatáu ar afonydd a nentydd yng Nghymru y potensial i achosi niwed hirdymor i gynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw, yn ogystal ag achosi problemau ychwanegol megis mwy o berygl llifogydd ac erydu. Mae'r gweithgareddau heb eu caniatáu a welwn wedi cynnwys treillio, gwaredu heigiau, adlinio cwrs dŵr, amddiffyn glannau'n amhriodol, sianelu a chwilio am aur. 

Gan gydnabod y difrod posibl y gall y gweithgareddau hyn ei achosi, rhoddwyd proses newydd ar waith ar gyfer ymateb i’r digwyddiadau hyn fel rhan o’n Rhaglen Adfer Afonydd uchelgeisiol. Rydym yn ymateb i’r digwyddiadau hyn gyda blaenoriaeth uchel i atal gwaith ac atal niwed pellach, ac mae gennym amrywiaeth o opsiynau gorfodi, gan gynnwys defnyddio hysbysiadau rheoleiddio. Gellir defnyddio'r hysbysiadau hyn i atal y gwaith ac i sicrhau bod unrhyw ddifrod a achosir yn cael ei unioni. Rydym wedi cyflwyno tua 40 o hysbysiadau o’r fath ers mis Mehefin 2021. Mae gennym hefyd yr opsiwn i fynd ar drywydd erlyniad os bydd digwyddiad arbennig o ddifrifol. 

Rydym yn parhau i roi cyngor ar waith arfaethedig sy’n effeithio ar gyrsiau dŵr, i sicrhau bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o’r holl ganiatadau angenrheidiol a’r mesurau gofynnol i osgoi effeithiau ar fioamrywiaeth, ansawdd dŵr a pherygl llifogydd. Yn ystod 2022/23, fe wnaethom hefyd gyflwyno hyfforddiant a chanllawiau ychwanegol i’n staff ar gyfer delio â’r digwyddiadau hyn, a chynnal gwaith cyfathrebu rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith tirfeddianwyr o’r angen am ganiatâd ar gyfer gwaith penodol. 

Gwnaethom gyflwyno ein proses newydd ar gyfer delio â niwed hydromorffolegol mewn seminarau Adfer Afonydd Cymru a chynhadledd DU gyfan yn 2022, ac yn sgil hyn mae awdurdodau rheoleiddio o Loegr, yr Alban a Norwy wedi cysylltu â ni am ragor o wybodaeth a chyngor. 

Byddwn yn parhau i atal gwaith heb ei ganiatáu rhag digwydd, ac yn annog y rhai sy’n dymuno gwneud gwaith i gysylltu â ni am gyngor yn y lle cyntaf – diogelu ein hafonydd a’n nentydd ar gyfer y dyfodol. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Cydnerth
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang 

Datganiadau Ardal – Gweithio mewn partneriaeth drwy Grid Gwyrdd Gwent

Mae Grid Gwyrdd Gwent yn bartneriaeth gydweithredol ranbarthol sydd wedi parhau i weithredu yn 2022/23 i wella cydnerthedd ac ansawdd ein hecosystemau mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig, gan gysylltu pobl â natur ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn lleol ac ar raddfa tirwedd-i-ranbarthol. 

Mae'r Datganiadau Ardal rydym yn cyhoeddi'n adlewyrchu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd ar gyfer ardaloedd o Gymru. Rydym wedi cyhoeddi saith Datganiad Ardal, gan gynnwys Datganiad Ardal morol. Mae Datganiad Ardal De-ddwyrain Cymru yn adlewyrchu sut y defnyddiwyd dull panel tirwedd mewn perthynas â'r thema 'Cysylltu ein Tirweddau' a dynnodd ar arbenigedd partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, ynghyd â phartneriaethau eraill, wrth ei datblygu.  Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol rhwng pob un o’r pum awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, Forest Research, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy a ninnau sy’n gweithio gyda’n gilydd gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni canlyniadau seilwaith gwyrdd ar raddfa lleol i dirwedd er llesiant Gwent. 

Mae’r partneriaid wedi gweithio ar y cyd ar draws ein hamgylchedd adeiledig a naturiol i gyflawni rheolaeth well ar laswelltir a choetir sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau, gan gynnwys mentrau a arweinir gan y gymuned i ddiogelu a gwella cysylltedd a mynediad at natur. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu ffyrdd o weithio a datblygu ac integreiddio gwasanaethau a rennir ac arferion rheoli gorau (er enghraifft ‘torri a chasglu’) i sicrhau manteision lluosog gan gynnwys canlyniadau ystyriol o bryfed peillio “Nid yw Natur yn Daclus”.  

Mae’r ffyrdd cydweithredol ac integredig o weithio a’r gyfres o strategaethau a phrosiectau yn galluogi’r bartneriaeth i gyfrannu at gydnerthedd ein hadnoddau naturiol, gan ddarparu buddion iechyd a llesiant hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ar draws y rhanbarth – gan alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd a’u cyflawni'n lleol ac ar y raddfa tirwedd i ranbarthol. 

Gan edrych i'r dyfodol, bydd y bartneriaeth yn parhau i gydweithio i ddarparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel ar raddfa leol i dirwedd er budd natur a phobl. Mae hyn yn cynnwys darparu rhwydweithiau ecolegol cydnerth ar draws y rhanbarth i addasu i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Gan gydweithio, bydd partneriaid yn meithrin cydnerthedd o fewn a rhwng ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, yn cynyddu mannau gwyrdd hygyrch, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a llesiant, yn ogystal â gwella cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau sgiliau gwyrdd. Mae’r bartneriaeth yn cynnig ymateb ar y cyd i’r argyfyngau natur a hinsawdd, gan gefnogi Gwent fwy cynhwysol, gwyrddach a chydnerth. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymunedau cydlynus 

Lleihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol fel llifogydd a llygredd

Rydym yn cynghori ar y tebygolrwydd o lifogydd, yn ei ragweld ac yn ei fonitro ac, yn ogystal â datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd, rydym yn cefnogi cymunedau lleol i leihau eu risgiau. Yn yr un modd, rydym yn cynghori ac yn rheoleiddio diwydiant a safleoedd gwastraff i leihau'r tebygolrwydd y bydd llygredd yn mynd i mewn i'r amgylchedd naturiol ehangach. Rydym hefyd yn darparu ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol sy'n digwydd er gwaethaf ymdrechion gorau. Gan anelu at fod yn gadarn ond yn deg, rydym yn cynnal ymchwiliadau i ddigwyddiadau ac yn defnyddio'n hystod lawn o bwerau i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol pan fo angen. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Ymateb i ddigwyddiadau gan ragori ar ein targed o 95% ar gyfer ymateb o fewn pedair awr i ddigwyddiadau a ddosbarthwyd i ddechrau yn ddigwyddiadau categori 'uchel. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Gweithredu i leihau llygredd o fwyngloddiau metel gan asesu safleoedd risg uchel a'u hadfer. Statws y mesur: Oren 
  • Cynnal asedau perygl llifogydd, gan gynnal y cyflwr targed ar gyfer 98.3% o'r asedau mewn systemau risg uchel. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Lleihau'r perygl o lifogydd (neu wedi sicrhau amddiffyniad parhaus) ar gyfer 1,647 eiddo drwy gynlluniau cyfalaf. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Gweithredu camau adolygu llifogydd, gyda 59 wedi'u cwblhau, ac adroddiad wedi'i gynllunio i ymdrin â'r camau gweithredu tymor hwy a'r gwaith sy'n weddill sydd angen ei gwblhau. Statws y mesur: Oren 
  • Ymgynghori ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd, a disgwylir cyhoeddi cynlluniau erbyn mis Medi 2023. Statws y mesur: Oren  

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Cynhyrchu ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Bydd ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru wedi’i ddiweddaru yn nodi’r hyn sydd mewn perygl o lifogydd ac yn nodi amcanion, blaenoriaethau a mesurau i reoli’r perygl o lifogydd dros y chwe blynedd nesaf. 

Yn 2022/23 fe wnaethom ddatblygu ac ymgynghori ar gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd nesaf i Gymru. Mae'r cynllun hwn yn un o ofynion Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 ac mae'n cynrychioli ein cydymffurfedd ag ail gylch y camau gweithredu gofynnol o dan y rheoliadau hyn. 

Mae’r cynllun drafft yn cynnwys ein hamcan ar gyfer rheoli perygl llifogydd dros gyfnod y cynllun nesaf hwn, gan gynnwys 14 blaenoriaeth o ran sut y byddwn yn mynd ati i wneud ein gwaith, 58 o fesurau neu gamau gweithredu cenedlaethol i’w cymryd ar lefel strategol a 264 o fesurau seiliedig ar leoedd lleol o gamau gweithredu arfaethedig mewn dros 150 o gymunedau gwahanol ledled Cymru. 

Mae'r cynllun drafft yn cynnwys yr asesiad diweddaraf (Yn seiliedig ar ffigurau Rhagfyr 2021) o berygl llifogydd ledled Cymru, sy’n dangos cyfanswm o 72,170 eiddo mewn perygl o lifogydd o’r môr a 91,877 eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd. 

Fe wnaethom ymgysylltu ac ymgynghori ar draws ein sefydliad wrth ddatblygu’r cynllun a rhannwyd y cynllun gyda’n partneriaid a’r cyhoedd drwy ymgynghoriad 13 wythnos ffurfiol ym mis Mawrth 2023. 

Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ym mis Mai byddwn yn ystyried y sylwadau a’r adborth a gyflwynwyd drwy’r ymgynghoriad i gwblhau ein cynllun y disgwyliwn ei gyhoeddi erbyn mis Medi 2023. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Yr unig reoleiddiwr ar gyfer Kronospan

Ym mis Hydref 2022, gwnaethom fodloni gofynion Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a chyfuno dwy drwydded reoleiddio yn un, gan ddod yr unig reoleiddiwr ar gyfer ffatri byrddau gronynnau Kronospan yn y Waun, Gogledd Cymru.  

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau gronynnau ac MDF yn y Waun, Gogledd Cymru, ers blynyddoedd lawer. Rheoleiddir gweithgareddau ar y safle gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 er mwyn rheoli lefelau llygryddion a allai fod yn niweidiol a sicrhau bod technegau gweithredu yn unol â datblygiadau technegol a safonau diwydiant, sef y technegau gorau sydd ar gael. 

Mae’r gweithgareddau ar y safle wedi bod yn destun cyfarwyddiadau amrywiol gan Lywodraeth Cymru. Rhannodd y cyfarwyddyd cyntaf yn 2003 y gwaith rheoleiddio rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (sydd bellach wedi'i gynnwys o fewn CNC). Roedd y cyfarwyddyd diweddaraf yn 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno’r ddwy drwydded reoleiddio ar gyfer y safle yn un, ac yna cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded honno. 

Yn 2022 fe wnaethom gwblhau asesiad manwl pedair blynedd o'r gweithgareddau presennol a'r rhai newydd ar safle Kronospan, gan ymgynghori â rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Mae ein hasesiad trylwyr o allyriadau llygryddion ac effeithiau posibl gweithgareddau o fewn safle Kronospan, yn sefydlu llinell sylfaen ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol wrth i safonau a therfynau allyriadau gael eu tynhau. Dyroddwyd y drwydded gyfunol i'r gweithredwr ym mis Hydref 2022 ac mae'n cynnwys nifer o amodau gwella i'r gweithredwr eu rhoi ar waith o fewn 18 mis i ddyroddi’r drwydded.  

Mae hyn yn golygu mai CNC bellach yw'r unig reoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer y safle a bydd yn cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded yn y dyfodol.  

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Trên yn dod oddi ar y cledrau yn Llangennech

Ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau ym mis Awst buom yn gweithredu gyda phartneriaid i amddiffyn pobl a chymunedau.   

Daeth yr ymchwiliad cysylltiedig i ben ym mis Chwefror 2023. Ar Awst 26, 2020, daeth trên cludo nwyddau 2,500 tunnell oddi ar y cledrau ar draethlin aber Afon Llwchwr ger Llangennech, Sir Gaerfyrddin, gan ollwng o 330,000 litr o ddiesel a chynnau thân a oedd yn bygwth amgylchedd aberol a phrif bysgodfa gocos Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) arbennig Cilfach Tywyn sy'n hynod sensitif a phwysig yn rhyngwladol. 

Cafodd y digwyddiad effaith andwyol ar yr amgylchedd ac effeithiodd ar fusnesau lleol a thwristiaeth. Cafodd pysgodfeydd cregyn eu cau am saith wythnos fel rhagofal yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bu'r rhan o'r rheilffordd ar gau am saith mis. 

Cafodd trychineb amgylcheddol ei osgoi diolch i waith helaeth a wnaed fel rhan o waith adfer gan gontractwyr Adler and Allan Ltd ar ran DB Cargo a’u hyswirwyr, gyda chefnogaeth Jacobs ar ran Network Rail, gyda chymorth technegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, yr Awdurdod Glo, yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Yn dilyn y digwyddiad bu dau Adolygiad Digwyddiad Mawr ar wahân a amlygodd bwyntiau dysgu pwysig a’r cydweithio a chyfathrebu rhagorol rhwng y prif bartneriaid proffesiynol, gan gynnwys CNC a Network Rail. Ym mis Chwefror 2023 daeth ein hymchwiliad i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i ddyfarnu euogfarn lwyddiannus ac y byddai erlyn yn ddefnydd diofal o arian cyhoeddus. Bydd y bysgodfa’n parhau i gael ei monitro’n fisol tan fis Ebrill 2023 i sicrhau bod lefelau hydrocarbon yn parhau ar lefelau cefndirol diogel. Mae’r gwaith i ddiogelu’r bysgodfa yn cyd-daro ag adolygiad o’r ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cocos yng Nghymru. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Lleihau perygl llifogydd a chynnal amddiffyniad rhag llifogydd trwy ein gwaith cyfalaf

Cyfrannu at y gwaith o leihau perygl llifogydd i gymunedau ledled Cymru drwy gynnal ein rhwydwaith o dros 400km o amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru ac adeiladu rhai newydd. 

Yn ystod 2022/23 fe wnaethom fuddsoddi dros £20miliwn trwy ein rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd, gan gyflawni gwelliannau sylweddol i’n rhwydwaith amddiffyn rhag llifogydd a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfres o brosiectau a fydd yn cael eu cyflenwi yn y dyfodol. Mae dros 26,000 o eiddo yng Nghymru wedi’u hasesu’n flaenorol fel rhai sydd mewn perygl mawr o lifogydd o afonydd a thros 48,000 o eiddo mewn perygl mawr o’r môr. 

Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni roedd cwblhau gwaith diogelwch cronfeydd dŵr yn y Bala, Y Bont-faen a Chyffordd Llandudno, sydd wedi sicrhau gwarchodaeth barhaus i dros 1,100 o eiddo a sicrhau bod ein strwythurau yn parhau i gydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr (1975). Rydym hefyd wedi cynnal prosiectau atgyweirio ac adnewyddu llai ledled Cymru sydd wedi bod o fudd i 500 o eiddo arall. 

Rydym wedi cwblhau gwaith gwella yn Llanfair Talhaearn i leihau'r perygl o lifogydd i'r gymuned. Mae'r pentref wedi dioddef digwyddiadau llifogydd niferus yn y degawdau diwethaf a bydd y gwelliannau i strwythurau yn y pentref ac i fyny'r afon yn lleihau'r risg i 33 eiddo. 

Mae gwaith datblygu prosiect a ddatblygwyd o fewn rhaglen 2022/23 yn debygol o arwain at leihad mewn perygl llifogydd i dros 3,400 eiddo yn y tymor canolig, h.y. yn y 5-10 mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adeiladu mawr fel Stryd Stephenson (Casnewydd) a Rhydaman (Sir Gaerfyrddin) a fydd yn lleihau perygl llifogydd i dros 1,000 o adeiladau yn y 2-3 blynedd nesaf. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y ddau gynllun yn 2022/23 a bydd yn parhau tan 2024. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymunedau cydlynus 

Helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon

Yn ogystal â darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer hamdden ar y tir yr ydym yn ei reoli ein hunain, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i annog pawb i fynd allan i'r awyr agored ledled Cymru a gwella eu hiechyd a'u llesiant. Rydym yn cefnogi prosiectau cymunedol ac yn helpu pobl i ddysgu am werth yr amgylchedd naturiol, ei bwysigrwydd mewn bywyd o ddydd i ddydd, a'i ran yn niwylliant a threftadaeth Cymru. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Gweithio i ddatblygu a gweithredu rhaglen i archwilio Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig (yng Ngogledd Ddwyrain Cymru). Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Cyflwyno rhaglen lawn o brosiectau hyfforddi, adnoddau a chyfathrebu y mae dros 1,000 o unigolion wedi cael mynediad iddynt. Statws y mesur: Gwyrdd 

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes newydd yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Datganiadau Ardal – Cefnogi llesiant trwy lythrennedd morol

Er mwyn i ddinasyddion Cymru fyw bywydau iachach a mwy bodlon, mae angen inni sicrhau ein bod yn byw’n gynaliadwy ac yn cefnogi bioamrywiaeth a chydnerthedd yn ein holl adnoddau naturiol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i feithrin llythrennedd morol i gefnogi blaenoriaethau Datganiad Ardal Morol.  

Mae'r Datganiadau Ardal rydym yn eu cyhoeddi'n adlewyrchu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd ar gyfer ardaloedd o Gymru. Rydym wedi cyhoeddi saith Datganiad Ardal, gan gynnwys Datganiad Ardal morol. Nododd y Datganiad Ardal morol “Ailgysylltu pobl ag arfordiroedd a moroedd Cymru”  fel blaenoriaeth allweddol a thros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn cefnogi dull cydweithredol a chydgynhyrchiol o feithrin llythrennedd morol drwy Bartneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru – partneriaeth strategol sy’n dod â llu o bartneriaid a rhanddeiliaid sy’n gweithio o amgylch arfordiroedd a moroedd Cymru at ei gilydd.  

Yn ei hanfod, llythrennedd morol yw “deall eich dylanwad unigol a chyfunol ar y môr, a’i ddylanwad arnoch chi”. Amlygodd cyfranwyr gweithdy cychwynnol ym mis Mehefin 2022 yr angen am weledigaeth ar gyfer llythrennedd morol yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr llythrennedd morol, sy’n ymwneud â gwaith llythrennedd morol cenedlaethol a rhyngwladol, sydd wedi parhau i gyfarfod trwy weithdai, cyfarfodydd ar-lein, sesiynau wyneb yn wyneb a hybrid i ddechrau llunio strategaeth llythrennedd morol a chynllun gweithredu ar gyfer Cymru. 

Gweledigaeth ddrafft ar gyfer y strategaeth yw bod “pobl Cymru yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn cael mynediad at fanteision amgylchedd morol ac arfordirol Cymru, gan wneud penderfyniadau yn eu bywyd o ddydd i ddydd sy’n cefnogi ei dyfodol cynaliadwy”. Mae amcanion allweddol y cynllun gweithredu sy'n cael ei ddatblygu yn cynnwys hyrwyddo mynediad diogel a theg i'n harfordiroedd a'n moroedd; galluogi pobl i werthfawrogi'r ystod eang o fuddion o amgylcheddau morol ac arfordirol; a hyrwyddo newidiadau yn ymddygiad unigolion ac mewn datblygu polisïau lleol a strategol sy'n cefnogi’r gwaith o reoli a defnyddio’n moroedd mewn ffordd gynaliadwy.   

Mae’r grŵp yn gweithio tuag at rannu gweledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu drafft erbyn diwedd 2023. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy Cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau Cydlynus  

Pobl yn mwynhau eu hamgylchedd lleol 

Rydym yn parhau i annog a chefnogi pobl i fynd allan i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys drwy wneud gwelliannau pellach ledled Cymru ar gyfer safleoedd rydym yn eu rheoli. Rydym wedi gwneud y canlynol: 

  • Cyflwyno mwy o safleoedd Ystad Coetir Llywodraeth Cymru i’r cynllun Coedwigoedd Cenedlaethol fesul cam 
  • Gwella profiad ymwelwyr mewn coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, drw wella arwyddion, arwyddbyst a byrddau dehongli wrth ymyl y llwybr ar gyfer 266 o lwybrau ag arwyddbyst ar yr ystad rydym yn ei rheoli 
  • Arddangos dehongliad treftadaeth newydd yn ein canolfannau ymwelwyr, gan esbonio arwyddocâd diwylliannol nodweddion y safleoedd hyn 
  • Cynnal 47 o lwybrau beicio mynydd 
  • Gweithio gyda grwpiau lleol i reoli llwybrau beicio mynydd gwyllt 
  • Gosod cyfres o 25 o gownteri ymwelwyr yn ein safleoedd prysuraf 
  • Darpu gwybodaeth newydd ar-lein ynghylch hygyrchedd safleoedd a llwybrau i ymwelwyr – gan alluogi pobl i benderfynu pa rai fyddai orau iddynt ymweld â nhw 
  • Creu a hyrwyddo dwy ffilm am ymweld â'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd 
  • Cynhyrchu taflen newydd yn hyrwyddo ymweliadau â'n coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru 
  • Gwella'r ystod o ddelweddau sydd gennym – sy’n dangos bod mwy o bobl yn ymweld â mwy o safleoedd  
  • Darparu gwybodaeth ar-lein i ymwelwyr drwy'r tudalennau Ar Grwydr ein gwefan, gan gynnwys lleoedd i ymweld â nhw, pethau i'w gwneud a diweddariadau statws mewn perthynas â safleoedd (e.e. cau safleoedd dros dro) 

Gwnaethom barhau i groesawu ceisiadau caniatâd ar gyfer digwyddiadau hamdden, gan gynnwys beicio, rhedeg, marchogaeth a thriathlonau – gan annog a chefnogi ymarfer corff yn yr awyr agored ar draws y safleoedd rydym yn eu rheoli. Buom yn gweithio ar ffurflen gais well newydd a gwasanaeth gwirio ar-lein, i helpu cwsmeriaid sy'n gwneud cais am ganiatâd i wneud gweithgaredd. Gwnaethom hefyd ddechrau datblygu strategaeth hamdden i’w chyhoeddi ym mis Mehefin 2024. 

Rydym wedi bod yn cynllunio gwelliannau pellach i'r gefnogaeth a roddir gennym i grwpiau coetir cymunedol, gyda Llais y Goedwig yn cefnogi prosiectau newydd a chyfredol gan gynnwys y canlynol: Coed y Bont, Coetir Ysbryd Llynfi, Llyn Parc Mawr a Golygfa Gwydyr. Mae grwpiau coetir cymunedol o'r fath yn cynnig llawer o fanteision, e.e. meithrin tîm, ymarfer 'campfa werdd', cyfle i gwrdd â phobl eraill yn eich cymuned, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o rywbeth cadarnhaol – oll yn cyfrannu at well iechyd meddwl a chorfforol. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Hybu busnesau llwyddiannus a chyfrifol, sy’n defnyddio adnoddau naturiol heb eu difrodi

Rydym am i Gymru gael ei chydnabod fel lle gwych i wneud busnes, sy’n ymgorffori twf gwyrdd, sectorau newydd, ymchwil ac arloesedd. Yn ogystal â datblygu ein gweithgareddau masnachol ein hunain, rydym am annog busnesau i ddefnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon a gweithio tuag at economi gylchol. Rydym yn defnyddio ein pwerau rheoleiddiol – trwyddedu a monitro i wirio cydymffurfedd a gorfodi – i amddiffyn yr amgylchedd naturiol ac i sicrhau nad yw busnesau cyfreithiol yn cael eu tanseilio. 

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus 

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol: 

  • Dyroddi trwyddedau, gydag 86% o drwyddedau wedi'u dyroddi o fewn yr amserlenni statudol. Statws y mesur: Oren 
  • Cynnig 719,700 m3 o bren i'r farchnad. Statws y mesur: Gwyrdd 
  • Cynnal asesiadau pellach lle bu achosion o dorri gofynion cydymffurfedd, gan fynd ar drywydd achosion o dorri amodau categori 1 a 2 o fewn chwe mis. Statws y mesur: Gwyrdd 
  •  Penderfynu ar ymatebion gorfodi priodol mewn perthynas â throseddau amgylcheddol o fewn tri mis. Statws y mesur: Gwyrdd  

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Adolygiad o drwyddedau llosgi gwastraff wedi'i gwblhau

Rydym wedi adolygu trwyddedau ar gyfer gweithfeydd llosgi gwastraff mawr yng Nghymru yn ystod 2022 er mwyn sicrhau bod y safleoedd yn perfformio i'r safonau amgylcheddol uchaf. 

Gwnaethom adolygu trwyddedau yn erbyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant sy'n sicrhau bod y diwydiant llosgi gwastraff yn parhau i ddefnyddio'r technegau gorau sydd ar gael i atal neu leihau llygredd ac effeithiau ar yr amgylchedd. Gallai'r technegau hyn gynnwys y dechnoleg a ddefnyddir a'r ffordd y caiff gosodiad ei gynnal, ei weithredu a'i ddatgomisiynu. 

Mae pum safle llosgi gwastraff yng Nghymru, gan gynnwys dau losgydd gwastraff dinesig, dau losgydd biomas ac un llosgydd gwastraff clinigol. Bydd yn rhaid i bob un ohonynt fodloni cyfyngiadau llymach ar y llygryddion y caniateir iddynt eu rhyddhau yn ogystal â gwneud gwaith monitro ychwanegol. 

Ar draws yr holl safleoedd mae'r cyfyngiad ar allyriadau ar gyfer deunydd gronynnol wedi'i ostwng 50%. Ar safleoedd y ddau losgydd gwastraff dinesig mae'r cyfyngiad newydd ar allyriadau mercwri yn golygu gostyngiad o 60%, ac ar un o’r safleoedd mae'r cyfyngiad ar ocsidau nitrogen wedi'i dynhau gan 55%. 

Drwy ychwanegu amod gwella at bob trwydded, mae'n ofynnol bellach i weithredwyr ymchwilio i leihau ocsidau nitrogen y tu hwnt i'r safonau presennol, ac mae'n ofynnol i bob safle roi cynlluniau rheoli newydd ar waith mewn perthynas â gweithrediadau annormal, gweithrediadau cychwyn a gweithrediadau cau. 

Ar y cyfan, mae amodau newydd y trwyddedau yn sicrhau ein bod yn parhau i gael offeryn rheoleiddio effeithlon, sy'n ysgogi gwelliannau parhaus yn y dyfodol.

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus

Cefnogi seilwaith coedwigoedd Cymru

Mae ein Fframwaith Adeiladu Ffyrdd Coedwig yn fframwaith gwerth £36m a lansiwyd gennym yn 2022 ar gyfer creu llwybrau coedwig, ffyrdd, pontydd a seilwaith coedwigaeth cysylltiedig arall ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru; er mwyn gwneud cynaeafau pren yn bosibl yn y dyfodol a rheoli'r ystad.  

Mae cynaeafu pren yng Nghymru yn creu manteision lluosog i economi Cymru; yn cefnogi diwydiant lleol ac yn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru, gan gynnwys yn ein cymunedau gwledig. Mae’r sector coedwigaeth yng Nghymru yn ei gyfanrwydd werth dros £450 miliwn i'r economi.10 

O dan y fframwaith, er mwyn sicrhau bod cyflenwyr yn gwbl ymrwymedig i leihau allyriadau carbon, roedd yn ofynnol i gynigwyr ddangos mentrau cysylltiedig yr oeddent yn ymgymeryd â nhw. Roedd hyn yn cynnwys safonau allyriadau eu fflyd a'u cynlluniau i wella'r fflyd ac ymrwymiad i ddarparu data tanwydd rheolaidd i ni, fel y gellir mesur gwelliannau.

Yn ogystal â seilwaith coedwigaeth sy’n darparu ar gyfer cynaeafu pren, pan nad yw’n cael ei ddefnyddio’n weithredol ar gyfer hynny, mae llawer ohono’n cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden, gan ddarparu mannau i’r cyhoedd gadw’n heini a cherdded neu feicio; gan greu cyfleoedd twristiaeth cysylltiedig mewn ardaloedd coedwigaeth a gefnogir gan ein canolfannau ymwelwyr.

Mae contractau, yn cynnwys y rheini ar gyfer ailstocio coedwigoedd, paratoi tir ar gyfer plannu, a chyflenwi gwasanaethau plannu coed, hefyd yn rhan o’n dull o gynnal y cylch coedwigaeth. Mae'r contractau hyn yn cefnogi lefelau cynaeafu pren cynaliadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru fel y nodwyd gennym mewn cynllun gwerthu a marchnata pren, sy’n cyd-fynd â gofynion safonau perthnasol, gan gynnwys Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Datblygu CNC yn sefydliad rhagorol sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf

Rydym am fod y sefydliad gorau y gallwn fod ar gyfer ein staff, ein cwsmeriaid a'r amgylchedd naturiol. Mae hyn yn golygu ein bod wedi mynd drwy newidiadau sylweddol fel sefydliad. Gwnaeth cwblhau ein strwythur staffio ein galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu'n sefydliad i gefnogi staff a chwsmeriaid i fodloni amcanion personol a busnes.

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus

Gan fyfyrio ar y cynnydd ar ddangosfwrdd ein Cynllun Busnes ar gyfer 2022/23, gwnaethom y canlynol:

  • Gweithredu i ddatblygu fflyd ac ystad adeiladau allyriadau isel, sydd wedi'u haddasu i'r hinsawdd. Statws y mesur: Oren
  • Darparu cyflwyniadau a thystiolaeth mewn perthynas â llywodraethiant amgylcheddol. Statws y mesur: Gwyrdd
  • Cyflawni'r gwaith ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gychwyn pob un o’r camau gweithredu ar gyfer blwyddyn un o'n strategaeth ‘Gyda'n Gilydd’. Statws y mesur: Gwyrdd 

Gan edrych i'r dyfodol, mae ein Cynllun Busnes yn cynnwys ein hymrwymiadau â blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol newydd. 

Rydym wedi cynnwys mwy o fanylion am sefyllfa nifer o'r mesurau terfynol uchod fel rhan o'r enghreifftiau cyflawni o 2022/23 a ganlyn.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym am fod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan – sy'n cael ei gydnabod fel bod yn agored i syniadau, safbwyntiau ac arloesedd newydd – sy'n gynhwysol a chynrychioliadol o Gymru 

Roedd ein strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant yn nodi ein hymagwedd ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud y canlynol:  

  • gweithio ar y cyd â Sefydliadau Anllywodraethol Amgylcheddol ym mis Mawrth 2022 i ddeall yn well y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda grwpiau lleiafrifoedd ethnig i wella eu cysylltiad â byd natur ac arallgyfeirio sector yr amgylchedd yng Nghymru.  
  • hwyluso gweithdy gydag uwch-arweinwyr o Sefydliadau Anllywodraethol Amgylcheddol ym mis Tachwedd 2022, a oedd yn archwilio ffyrdd o weithio ac yn datblygu camau gweithredu hirdymor i ymgysylltu â grwpiau ethnig wedi'u hymyleiddio. Bydd y gwaith hwn yn ategu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru drwy gydweithio ar gamau y gallwn eu cymryd nawr ac yn y dyfodol. 
  • gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth o ddata a “phrofiadau byw” pobl o leiafrifoedd ethnig o bob rhan o Gymru, gan gynnwys ar y newid yn yr hinsawdd, materion gwledig, a’r amgylchedd. 
  • cynnwys ein Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sydd â chynrychiolaeth o bob rhan o'n sefydliad ac sydd wedi darparu mewnwelediad gwerthfawr. 

Rydym hefyd wedi gwneud defnydd o'n rhwydweithiau staff, sy'n chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein polisïau a’n gweithdrefnau gan helpu i wneud y sefydliad yn fwy cynhwysol – drwy rannu profiadau a gwybodaeth. Un enghraifft o hyn oedd lansio ein 'Pasbort Gwaith a Llesiant’. Defnyddir y pasbort gan staff sy’n ceisio esbonio sut mae gwaith yn effeithio ar eu hamgylchiadau personol, i gydbwyso eu gwaith a’u bywyd personol mewn ffordd well, hwyluso sgwrs gyfrinachol gyda rheolwr am hyn – gan helpu i ddeall amgylchiadau, trafod, a chytuno ar addasiadau – gan gyfrannu at iechyd corfforol, meddyliol a llesiant staff.  Dechreuwyd defnyddio’r pasbort yn wreiddiol gan ein Rhwydwaith Gofalwyr, yn dilyn arferion da a rannwyd gan Employers for Carers UK, a oedd yn cydnabod y gallai fod o fudd i grŵp ehangach o staff.

I gael gwybod mwy am unrhyw un o'r uchod, gweler ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Nodau Cymru cysylltiedig:

  • Mwy cyfartal
  • Iachach
  • Cydnerth
  • Llewyrchus
  • Cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymunedau cydlynus

- Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 18 Hydref 2023

 

Yn ôl at yr Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23

Diweddarwyd ddiwethaf