Adroddiad blynyddol a chyfrifion 2020-21

Syr David HenshawRhagair y Cadeirydd

Croeso i adroddiad blynyddol a chyfrifon CNC ar gyfer 2020/21.

Newidiodd y flwyddyn ddiwethaf y byd a'r ffordd yr ydym yn byw yn sylweddol, ac mae'r flwyddyn ddiwethaf ar gyfer pob un ohonom wedi bod yn hollol wahanol i unrhyw amser arall o fewn cof. Yma yn CNC, er y bu’n hynod heriol, mae ymateb i’r argyfwng Covid-19 yn sicr wedi'n tynnu'n agosach at ein gilydd – er bod hynny yn rhithwir. Mae hefyd wedi datblygu ein hyder cyfunol yn ein galluoedd o dan bwysau, ac wedi dangos cydnerthedd anhygoel y bobl sy'n gweithio yn ein sefydliad.

Rydym yn parhau i reoli rhai o'r problemau hanesyddol ynghylch pren, a bu ffocws cryf ar fynd i'r afael â chydymffurfiaeth yn fwy cyffredinol yn sgil y materion a godwyd gan y tîm Archwilio Mewnol. Rydym yn cydnabod ein bod ar daith i gyflawni disgwyliadau o hyd – disgwyliadau ein rhanddeiliaid allweddol ac ein hunain, ac rydym yn ymrwymedig i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen.

Ein prif bryder drwy gydol y flwyddyn hon oedd sicrhau llesiant ein staff, a’u bod wedi'u cefnogi i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae'n rhaid cydnabod ymdrech ryfeddol y sefydliad cyfan, gan gynnwys yn enwedig ein tîm TGCh, i gyflawni'r trawsnewid i weithio gartref, a gweithredu platfformau meddalwedd newydd mewn amgylchiadau mor anodd, fel y dylid cydnabod agwedd gadarnhaol ein staff wrth groesawu'r ffyrdd newydd o weithio mor gyflym.

Mae gwarchod a sicrhau mynediad at ein hamgylchedd naturiol ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau mor hanfodol ag erioed erbyn hyn, ac er bod y gwerthfawrogiad cynyddol o'n hamgylchedd naturiol yn cael croeso cynnes, mae cymaint i'w wneud o hyd i warchod y tir a bywyd gwyllt sydd mor bwysig i ni. Mae angen i ni bellach fanteisio ar yr ailgysylltiad hwn â'n hamgylchedd a'r awch mwy gan y cyhoedd i chwarae'u rhan wrth gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Yn bwysig, fel hyrwyddwr o'r amgylchedd yng Nghymru, mae gan CNC gyfleoedd sylweddol i arwain y sgwrs ynglŷn â’r hyn y mae hinsawdd sy'n newid yn ei olygu i bob un ohonom. Darn allweddol o waith ar ein cyfer eleni oedd cyhoeddi adolygiad o lifogydd mis Chwefror 2020, ac mae effaith ddinistriol y llifogydd hyn yn rhybudd o’r hyn y gallwn ei wynebu'n fwy rheolaidd yn y dyfodol wrth i’r newid yn yr hinsawdd gyflymu. Cododd yr adolygiadau rai pwyntiau trafod hanfodol: mae'n rhaid i Gymru weithredu yn awr i addasu i effeithiau'r argyfwng hinsawdd gan ei bod yn annhebygol y byddwn byth yn gallu rheoli holl ddigwyddiadau o'r fath, na lliniaru yn eu herbyn, yn llawn.

Bydd rhaid i Gymru wneud dewisiadau anodd ynglŷn â lefel y gwasanaeth sy'n ymarferol, realistig a dichonadwy hefyd, a'r oblygiad cysylltiedig ar gyfer y buddsoddiad sydd ei angen i wneud Cymru yn fwy gwydn yn y dyfodol. Er y gallwn leihau tebygolrwydd digwyddiadau llifogydd i ryw raddau, a’u heffeithiau, ni allwn reoli'r tywydd ac atal pob effaith. Mae'r tebygolrwydd cynyddol o lifogydd yn golygu bod angen i ni feddwl yn galed ynglŷn â sut rydym yn rheoli meintiau mor fawr o ddŵr, ac yn ystyried cymryd dull integredig ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Y gwir yw na allwn adeiladu'n ffordd allan o hyn yn unig. Mae angen cymysgedd o amddiffynfeydd peirianyddol caled, prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol, ac ymwybyddiaeth gymunedol well i ddatblygu'r gwydnwch angenrheidiol.

Yn yr Adroddiad Blynyddol hwn, gallwch ddarllen am rai o'n prosiectau allweddol o ran diogelu cymunedau a chadwraeth natur. Ymysg nifer o gyflawniadau, rwy'n cymeradwyo lansio’r ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (2020) fel carreg filltir allweddol ar gyfer CNC. Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar sylfaen dystiolaeth yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf, gan ddangos rhai o'r heriau, blaenoriaethau a chyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Wrth ei wraidd y mae'r uchelgais i bontio'r bwlch rhwng lle rydym ar hyn o bryd a lle mae angen inni fod - gan amlinellu ystod o gyfleoedd i weithredu i symud tuag at ddyfodol cynaliadwy, a’r hyn rydym yn gobeithio fydd yn gatalydd ar gyfer gweithredu cadarnhaol ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd y dystiolaeth hon yn ganolog i sut rydym yn llywio ein hymateb economaidd i'r pandemig. Roeddwn yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i mi arwain tasglu i helpu i lunio cynllun adferiad gwyrdd. Mae'r grŵp wedi canolbwyntio ei ymdrechion ar weithio gyda chymunedau i yrru cynigion integredig a thymor hir ar gyfer gweithredu ymarferol. Wrth ddefnyddio'r arbenigedd a gwybodaeth sydd gennym ledled ein sector amgylcheddol, sector preifat a thrydydd sector, gallwn sicrhau bod yr argyfyngau hinsawdd a natur, sy'n dwysáu ac yn ein hwynebu o hyd, yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau i ymateb i’r pandemig Covid-19. Rydym wedi cael cyfle unigryw i ailosod ymddygiadau ar adeg hanfodol. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y foment hon i ymgorffori'r addasiad i'n hymddygiadau, a chydweithio i wneud pethau yn wahanol fel y gallwn gael effaith ystyrlon a pharhaus.

A minnau erbyn hyn yn fy nhrydedd flwyddyn fel cadeirydd, hoffwn ddiolch i aelodau ein Bwrdd am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn a chydnabod gwaith Chris Blake yn benodol, a roddodd y gorau i’w rôl ym mis Chwefror, dim ond ychydig fisoedd cyn cwblhau ei ail dymor. Mae wedi gwneud cyfraniad anhygoel ar draws amryw o rolau ar y Bwrdd yn ystod ei amser gyda ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei help a'i gymorth dros y blynyddoedd. 

- Syr David Henshaw

Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am gynnal gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac am ei chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn, ac yn unol â hynny nid yw archwilwyr yn derbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan i gychwyn.

Adroddiad ar berfformiad

Adroddiad ar berfformiad 2020/21

Adroddiad atebolrwydd

Adroddiad atebolrwydd 2020/21

Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon

Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon ar gyfer 2020/21 (PDF)

Dadlwythwch gopi o'n Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 (PDF)

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf