Pwyllgorau’r Bwrdd
Mae gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru y pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ariannol ac atebolrwydd, rheoli a llywodraethu.
Kath Palmer yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)
Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Mae’r Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid yn un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Mae’n ystyried materion yn ymwneud â chyflog ac amodau gwaith ein haen uchaf o staff ynghyd â strategaeth gyflog gyffredinol yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mark McKenna yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC)
Mae’r Prif Fwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gwrthwynebiadau i hysbysu ac ail-hysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Bydd y Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd llawn drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol; bydd hefyd yn ganolbwynt i drafodaethau’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig yn cynnwys eu swyddogaeth ym maes prif ffrydio dull rheoli ar lefel yr ecosystem.
Rosie Plummer yw Cadeirydd Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PrAC)
Pwyllgor Rheoli Risg Llifogydd (FRMC)
Er nad yw’r Grŵp Cynghori hwn yn un o bwyllgorau sefydlog y prif Fwrdd, mae’n cyflawni nifer o swyddogaethau rheoli perygl llifogydd statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol ag Adran 106 Deddf Adnoddau Dŵr 1991.
Penodir y Cadeirydd yn annibynnol gan Weinidogion Cymru. Penodir aelodau’r Grŵp Cynghori naill ai gan Weinidogion Cymru neu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Peter Fox yw Cadeirydd Dros FRMC
Y Pwyllgor Cyllid (FC)
Pwyllgor sefydlog y Bwrdd yw FC. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chynorthwyo’r Swyddog Cyfrifo wrth adrodd ar reoli arian, cynllunio busnes ac adrodd ar berfformiad, cynllun taliadau a materion masnachol.
Helen Pittaway yw Cadeirydd Dros y Pwyllgor Cyllid (FC)
Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC)
Mae'r Grŵp Cynghori hwn, er nad yw'n un o bwyllgorau sefydlog y prif fwrdd, yn gyfrifol am ddarparu cyngor, sialens ac adolygiad annibynnol ar gyfer gweithgareddau tystiolaeth CNC. Mae'r Pwyllgor yn rhoi cyngor i'r Bwrdd ac i CNC yn ehangach ar gaffael, ansawdd, dehongli a defnyddio tystiolaeth, yn arbennig mewn meysydd dadleuol neu gymhleth.
Steve Ormerod yw Cadeirydd Cynghori ar Dystiolaeth (EAC)
Pwyllgor Ystad Tir (LEC)
Mae'r Pwyllgor Ystad Tir (LEC) yn un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Ei brif rôl yw cynghori'r Bwrdd ar reoli ystad tir CNC yn gynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi yn yr ystad, ei reoli, a chynigion ar gyfer newidiadau i’r defnydd a wneir o’r ystâd.
Calvin Jones yw Cadeirydd Cynghori ar Ystad Tir (LEC)