Cyfarfod y Bwrdd 27 Ionawr 2023
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 9.00-11.30
| 
 Amser  | 
 Eitem  | 
| 
 9.00 (5 munud)  | 
 1. Agor y Cyfarfod 
 Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant.  | 
| 
 9.05 (5 munud)  | 
 2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 16 Tachwedd 2B. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 17 Tachwedd 2C. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod gweithredu.  | 
| 
 9.10 (5 munud)  | 
 3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd.  | 
| 
 9.15 (10 munud) 
  | 
 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’r sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol. Cyfeirnod y papur: 23-01-B07  | 
| 
 9.25 (15 munud)  | 
 5. Adroddiadau Diweddaru’r Pwyllgorau a'r Fforymau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 15 Rhagfyr ac 13 Ionawr Cyfeirnod y papur: 23-01-B08 Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – dim cyfarfod Y Pwyllgor Cyllid – 10 Ionawr Cyfeirnod y papur: 23-01-B09 Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 24 Ionawr Pwyllgor Stad Tir CNC – 19 Ionawr Y Pwyllgor Pobl a Chyflogau – 13 Ionawr Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – dim cyfarfod Diweddariadau Fforymau Fforwm Rheoli Tir Cymru Cyfeirnod y papur: 23-01-B10 Fforwm Pysgodfeydd Cymru Cyfeirnod y papur: 23-01-B11 Fforwm Rheoli Dŵr Cymru Cyfeirnod y papur: 23-01-B12 Fforwm Mynediad Cenedlaethol i Gymru Cyfeirnod y papur: 23-01-B13 Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, y tu mewn a’r tu allan i unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd.  | 
| 
 9.40 (15 munud)  | 
 6. Adroddiad Perfformiad Ariannol Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: NODI'R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y papur: 23-01-B14  | 
| 
 9.55 (10 munud)  | 
 7. Cyllideb Ardaloedd Draenio Mewnol Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: CYMERADWYO Cyllideb Ardaloedd Draenio Mewnol Cyfeirnod y papur: 23-01-B15  | 
| 
 10.05 (20 munud)  | 
 Egwyl  | 
| 
 10.25 (15 munud)  | 
 8. Natur a Ni Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Russell De'Ath, Uwch-gynghorydd Arbenigol, Vision 2050 Crynodeb: TRAFOD y diweddariad ar Natur a Ni Cyfeirnod y papur: 23-01-B16  | 
| 
 10.40 (10 munud)  | 
 9. Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Thryloywder mewn Cyfarfodydd Bwrdd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO'R cynigion ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd a thryloywder yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cyflwyniad  | 
| 
 10.50 (5 munud)  | 
 10. Newidiadau Arfaethedig i'r Cynllun Statudol a Chyfreithiol (SaLS) Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO newidiadau i'r SaLS ar gyfer y Byrddau Busnes Cyfeirnod y papur: 23-01-B19  | 
| 
 10.55 (5 munud)  | 
 11. Rhagolwg y Bwrdd Noddwr: Syr David Henshaw Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd 
 Cyfeirnod y papur: 23-01-B20  | 
| 
 11.00 (5 munud)  | 
 12. Unrhyw fater arall a) Cadeirydd y Pwyllgor Pobl, Cwsmeriaid a Rhanddeiliaid (PCSC) Noddwr: Syr David Henshaw Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO penodiad Mark McKenna yn Gadeirydd y Pwyllgor Pobl, Cwsmeriaid a Rhanddeiliaid (PCSC) Cymeradwyaeth drwy ohebiaeth b) Aelodaeth dros dro o Bwyllgor Ystad Tir CNC  | 
| 
 
  | 
 Diwedd cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd  | 
| 
 11.05 (25 munud)  | 
 Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus  | 
| 
 11.30  | 
 Diwedd y cyfarfod  |