22 Medi: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC

Sgyrsiau gyda CNC

Fel rhan o'n cyfarfod bwrdd ym mis Medi, rydym yn cynnal ein digwyddiad galw heibio nesaf, a fydd yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau'r Bwrdd a staff am ystod o faterion.

Dyddiad: Medi 22, 2026
Amser: 4.30yp tan 6.30yp.
Lleoliad: Pafiliwn Rhyngwladol (i fyny'r grisiau), Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY.

Mae croeso i bawb fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae parcio ar gael.

Agenda

Amser Eitem

13:35 (5 munud)

Eitem 1. Agor y cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiannau 

13:40 (5 munud)

Eitem 2. Adolygu cofnodion a’r log camau gweithredu a phenderfyniadau

  • 2A. Adolygu cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf
  • 2B. Adolygu’r log camau gweithredu a phenderfyniadau

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a'r log camau gweithredu a phenderfyniadau 

13:45 (5 munud)

Eitem 3. Gair am ddiogelwch

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: I aelod o'r cyfarfod roi gair o gyngor neu atgoffa ynghylch iechyd, diogelwch neu les.

13:50 (10 munud)

Eitem 4. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd 

14:00 (40 munud)

Eitem 5. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi diweddariad i’r Bwrdd ynghylch gweithgareddau allweddol

Cyfeirnod papur: 26-09-B06

14:40 (15 munud)

Eitem 6. Adroddiad diweddaru’r Pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion Pwyllgorau

Pwyllgor neu ffora sydd wedi gyfarfod ers Bwrdd diwethaf:

  • Pwyllgor Cyllid – 9 Medi
  • Nid yw’r Pwyllgor Cyflawni Strategol wedi cyfarfod ers cyfarfod diwethaf ers Bwrdd. Gofynnir i’r Bwrdd GYMERADWYO’R drafft o’r ymateb i lythyr y Canghellor sy’n ceisio sicrwydd ynghylch sut y bydd CNC yn cefnogi cyflawniad Rhaglen Niwclear y DU.

Cyfeirnod papur: 26-09-B10

Crynodeb: I CYMERADWYO ymateb CNC i lythyr y Canghellor.

Pwyllgor neu ffora nad ydynt i gyfarfod tan ar ôl Bwrdd:

  • Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg
  • Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth 
  • Pwyllgor Pobl
  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru 
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru
  • Fforwm Rheoli Tir Cymru

Crynodeb: NODI'R diweddariadau gan Bwyllgorau'r Bwrdd a Fforymau CNC.

14:55 (20 munud)

 

Eitem 7. Adroddiad perfformiad cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Cyflwynwyr: Catherine Allan, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO’R newid yn y rhagolwg diweddaraf o £322.4 miliwn i £322.6 miliwn. CRAFFU ar y perfformiad ariannol hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2026. 

Cyfeirnod papur: 26-09-B08

 

15:15 (60 munud)

Eitem 8. Cyflwyniad Natur Amcan Llesiant 1

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth

Cyflwynwyr: Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol; Huwel Manley, Pennaeth Gweithrediadau, De-orllewin Cymru; Neil Parker, Arweinydd Tim, Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth; Paula Harley, Pennaeth Gofal Tir; Matthew Park, Rheolwr, Gofal Tir

Crynodeb: TRAFOD Amcan Llesiant 1

16:15 (5 munud)

 

Eitem 9. Adborth ar gyfarfod heddiw

Noddwr: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o'r cyfarfod, yr hyn a wnaeth weithio a’r hyn y mae angen inni ei wneud yn wahanol.

16:20 (5 munud)

Eitem 10. Unrhyw fater arall

16:25 Cloi’r Cyfarfod Cyhoeddus
16:30-18:30

 

Sgwrs gyda CNC – Pafiliwn Llywodraeth Cymru (lan llofft)

 

Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Diweddarwyd ddiwethaf