Pam y thema hon?


Ers 2010, mae cyfartaledd oes bywyd yng Nghymru wedi dechrau gostwng am y tro cyntaf mewn degawdau. A dweud y gwir yn blaen, os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn y wlad, mae ystadegau’n dangos eich bod yn debygol o fyw wyth mlynedd yn hirach nag unigolyn o un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth amlwg – nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang – bod lle rydych yn byw a gweithio yn effeithio ar eich iechyd a llesiant cyffredinol. Mae'r cysylltiad rhwng tlodi, anghydraddoldeb a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl hefyd yn bresennol, fel y cydnabyddir gan arbenigwyr a chyrff enwog megis Sefydliad Iechyd y Byd.

Golygfa o Treherbert gyda cherddwr

Yma yng nghanol de Cymru, credwn nad yw cymdeithas iach yn un sy'n aros i weld pobl yn dioddef o salwch. Rydym oll yn rhannu cyfrifoldeb cyffredin i ystyried sut mae ein hiechyd yn cael ei effeithio gan ystod eang o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol, ac i weithredu'n unol â hynny er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae'n werth nodi bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n sylweddol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae ei chynllun iechyd a gwasanaethau cyhoeddus hirdymor, Taith tuag at Gymru Iachach, (a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru) yn nodi gweledigaeth ‘dull system gyfan o ran iechyd a gofal cymdeithasol’, gyda phwyslais ar fynd i'r afael ag afiechyd corfforol a meddyliol.

Mae angen defnyddio'r dull ‘system gyfan’ cydgysylltiedig hwn yn gyffredinol, yn enwedig yn wyneb galw cynyddol a heriau megis poblogaeth sy’n heneiddio, newidiadau i'n ffordd o fyw a disgwyliadau uwch gan y cyhoedd. Mae angen i ni fod yn llai anhyblyg ac yn fwy hyblyg o ran y ffordd rydym i gyd yn gweithio. Mae angen i ni rannu ein syniadau, ein dulliau, ein data, mewn gwirionedd bron popeth a allai ein harwain ar hyd y ffordd tuag at gymdeithas iachach.

Mae'r amgylchedd ffisegol sy'n ein hamgylchynu yn cael effaith ar ein hiechyd: yr aer rydym yn ei anadlu; ein mynediad at ddŵr glân; ein dewisiadau o ran yr hyn rydym yn ei fwyta ac yfed; faint o weithgarwch corfforol rydym yn ei wneud, a ble rydym yn dewis ei wneud. Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, wedi dweud bod:

“creu lleoedd yn llwyddiannus yn allweddol i greu mannau cynaliadwy lle gall pobl fyw bywydau egnïol ac iach, a bod yn falch o ddweud o ble y maent yn dod.”

Mae creu mannau cynaliadwy yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae’r broses gynllunio yn rhoi cyfle i ni gyd ddilyn ffordd o fyw iachach. Fodd bynnag, er mwyn manteisio ar y cyfle hwnnw a gwireddu'r buddion posibl, mae'n rhaid i'n hiechyd ddod yn rhan ganolog o greu lleoedd.

Yn wyneb y gofynion cynyddol hyn a heriau newydd i'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'n system gofal cymdeithasol, mae angen newid y ‘model’. Mae angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng mecanweithiau mwy anhyblyg rydym wedi eu defnyddio yn y gorffennol, sy'n seiliedig ar gynllunio rhesymol a rhesymegol, a llwybr yn y dyfodol sy'n gwerthfawrogi ac yn cydnabod bod angen rhannu a mabwysiadu syniadau newydd, data, a chyd-greu dulliau newydd sy'n diwallu anghenion iechyd cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen i ni ‘ymrwymo i'r achos’ a chreu cydberthnasau a rhwydweithiau cryf sydd wedi'u hadeiladu ar angerdd a balchder.

Mae Polisi Adnoddau Naturiol 2017 Llywodraeth Cymru yn nodi bod cynnal cymunedau iach, egnïol a chysylltiedig yn un o'r prif gyfleoedd sy'n gysylltiedig â'n hamgylchedd naturiol. Gall adnoddau naturiol chwarae rhan hanfodol yn ein llesiant corfforol a meddyliol. Maent yn gallu ein helpu i fynd i'r afael â materion iechyd cyhoeddus megis llygredd aer a sŵn. Maent yn gallu ein helpu i oresgyn cyflyrau sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch corfforol megis diabetes a gordewdra. Maent yn hybu economi Cymru drwy roi cyfleoedd i ni ddenu twristiaid. Fodd bynnag, er mwyn gwireddu'r buddion hynny, mae angen bod ein hadnoddau naturiol gael eu cynllunio a'u rheoli'n dda.

Gall mannau gwyrdd fod yn fannau canolog ar gyfer gweithgarwch a gwirfoddoli cymunedol, gan helpu i wella cydlyniad cymunedol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn anffodus, nid oes gan ardaloedd incwm isel yn aml fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd da, tra bod y gwrthwyneb yn dueddol o fod yn wir am ardaloedd incwm uwch lle mae anghydraddoldebau iechyd yn sylweddol llai. Credwn ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom i geisio unioni'r anghydbwysedd hwn, er budd cymdeithas yn gyffredinol.

Mae hefyd yn werth nodi bod ein safonau amgylcheddol o ran iechyd anifeiliaid, llesiant a diogelu iechyd dynol yn tanategu enw da Cymru o ran cynnyrch o ansawdd, rhywbeth sy'n ein cadw'n gystadleuol ar draws  marchnadoedd cartref a rhyngwladol. Yng Nghymru, mae 80% o'r tir yn amaethyddol. Gyda hynny mewn golwg, mae'r broses Datganiadau Ardal yn cynnig cyfle i ni archwilio'r berthynas rhwng ein systemau bwyd a'n hamcanion iechyd.

Mae nifer fawr o'r heriau a chyfleoedd cenedlaethol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol yn cael effaith ar iechyd a llesiant pobl. Drwy gael dealltwriaeth well o'r buddion a gwasanaethau y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu, rydym yn gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r heriau a'r cyfleoedd hynny, gan gynnwys:

  • Cefnogi dulliau ataliol mewn perthynas â chanlyniadau iechyd, gyda ffocws penodol ar y problemau allweddol sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd sef llygredd aer a sŵn a achosir gan drafnidiaeth, mynd i'r afael ag anweithgarwch corfforol a gwella iechyd meddwl

  • Cefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Wrth geisio creu dyfodol iachach yng Nghymru, mae angen i bartneriaid iechyd cyhoeddus weithio mewn cytgord ag eraill er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer llesiant y boblogaeth. Mae un rhanddeiliad allweddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi nodi hwn yn barod fel blaenoriaeth strategol o fewn cyd-destun iechyd cyhoeddus amgylcheddol, asesu effaith iechyd a datblygu polisïau.  Mae camau wedi'u cymryd i adeiladu cydberthnasau o fewn a rhwng cyrff cyhoeddus er mwyn llenwi'r bylchau a chreu cyfleoedd sy'n rhoi iechyd y cyhoedd wrth wraidd polisïau cynllunio ac ymarfer.

Ar lefel strategol, byddai llwyddiant yng nghanol de Cymru yn golygu bod gwasanaethau ecosystemau yn cyflenwi buddion iechyd, ac ar yr un pryd, yn gwella gwydnwch ecosystemau drwy gyflawni'r Polisi Adnoddau Naturiol. Mae ecosystemau sydd wedi'u lleoli o fewn ac o amgylch ein hardaloedd trefol yn darparu'r cyfleoedd gorau a dylid eu rheoli mewn modd sy'n cynyddu’r buddion y gallant eu darparu. Gallai'r rhain gynnwys hamdden, aer glanach, gwella diogelwch rhag peryglon megis llifogydd a thanau gwyllt, a gwella llesiant meddyliol a chorfforol. Mae datrysiadau sy'n seiliedig ar natur a nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol a fyddai'n galluogi hyn yn cynnwys:

  • Cynyddu’r seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac o'u hamgylch

  • Cynyddu gorchudd canopi a choetir sydd wedi'i leoli'n dda i wella gwerth gwasanaeth ecosystemau

Ein nod yn y pen draw yw gweithio gyda phartneriaid i nodi a chyflenwi datrysiadau cost-effeithiol a hirdymor sy'n seiliedig ar natur sydd o fudd i iechyd drwy'r mecanweithiau a nodir yn ein hail thema Cysylltu pobl â natur.

Plant ym mharc coediog Barry Sidings

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Cafodd y thema ei nodi ar ôl dadansoddi cynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Polisi Adnoddau Naturiol. Gwnaeth goruchafiaeth yr ecosystem drefol yng nghanol de Cymru amlygu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhanddeiliaid pwysig. Yn hyn o beth, mae'r thema’n cyfeirio’n sylweddol at ddadansoddi adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru Taith tuag at Gymru Iachach a chanfyddiadau’r adroddiad hwnnw. Yn hytrach na dyblygu'r ymdrech ac adnoddau, byddwn yn ceisio gweithio'n agos gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru o ran sut all Cyfoeth Naturiol Cymru cyfrannu at ganfyddiadau'r adroddiad, yn ogystal â'r rhan y gall y Datganiad Ardal ei chwarae o ran canlyniadau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd.

Beth yw'r camau nesaf?


Bydd cyrff cyhoeddus yn ystyried y rôl fuddiol sydd gan yr amgylchedd naturiol i’w chwarae wrth integreiddio iechyd a llesiant i mewn i bolisïau

Er mwyn i'r thema hon lwyddo, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei integreiddio mewn fframweithiau gwneud penderfyniadau a chynlluniau o ran iechyd. Gall y datganiad ardal ychwanegu gwerth yn nhermau mentrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft y strategaeth ‘Pwysau Iach, Cymru Iach’ i fynd i'r afael â gordewdra. Er nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn meddu ar ddylanwad sylweddol o safbwynt deddfwriaethol a gwneud penderfyniadau, gallwn chwarae rôl bwysig drwy sicrhau bod yr amgylchedd naturiol wrth wraidd y broses gynllunio. Byddwn yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill gyda’r gwaith o ddatblygu offerynnau megis Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru, gan werthuso ein hiechyd a’n llesiant wrth rannu gwybodaeth gyda sefydliadau, a cheisio gorgyffyrddiadau a chyfleoedd i weithio gyda’n gilydd. Yn ogystal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynhyrchu’r canllaw Creu Lleoedd a Mannau Iachach ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chynllunwyr iechyd cyhoeddus. Mae’n esbonio sut gall mannau gwyrdd, awyr glân, mynediad at fwyd iach, adeiladau sydd wedi’u cynllunio’n dda, cyfleusterau lleol cefnogol a chyfleoedd i fod yn egnïol helpu pobl a chymunedau i ffynnu yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mae CNC wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a luniodd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus: ‘Dod â bywyd gwyllt yn ôl’. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rôl a phwysigrwydd natur i’n hiechyd a’r angen i adfer ac ailgysylltu â byd natur.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gynrychioli’r amgylchedd naturiol mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cefnogi mentrau sy’n ceisio buddion iechyd, gyda’n Datganiad Ardal yn dylanwadu ar y rownd nesaf o asesiadau llesiant

Bydd y Datganiad Ardal yn sicrhau bod asesiadau llesiant yn nodi sut mae’r amgylchedd naturiol yn cael ei werthfawrogi gan ein cymunedau, a bod y cymunedau hynny yn cael eu hadlewyrchu wedi hynny mewn penderfyniadau a wneir gan aelodau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae bwyd yn ffactor pwysig hefyd, gan fod cynhyrchu bwyd yn cysylltu rheoli tir â buddion iechyd.

Byddwn yn ceisio cefnogi strategaethau iechyd megis ‘Pwysau Iach Cymru Iach’, yn ogystal â mentrau lleol sy’n darparu mynediad at fwyd iach, cynaliadwy

Rydym am i bobl ymgysylltu â bwyd, y ffyrdd o’i gynhyrchu, a’r dirwedd sy’n ei gynhyrchu, a hynny drwy fentrau fel Food Vale, sef partneriaeth o unigolion ymroddedig, grwpiau cymunedol, sefydliadau sector cyhoeddus a busnesau. Nod Food Vale yw system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy ym Mro Morgannwg. Gan gydweithio, y blaenoriaethau allweddol yw: 1) Pryd da o fwyd i bawb, bob dydd, 2) Busnesau bwyd lleol sy'n ffynnu ac sy’n cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi, 3) Meddwl yn fyd-eang, bwyta'n lleol.

Cerddwr yng nghaeau Pentyrch

Sut mae'r hyn rydym wedi'i gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Wrth ddefnyddio ac ychwanegu gwerth i gynlluniau sy'n hyrwyddo gweithio gyda'n gilydd i wella iechyd a llesiant ledled Cymru, y nod yw sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn dod yn rhan allweddol o'r broses o wneud penderfyniadau. Rydym am weld datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, megis seilwaith gwyrdd, wrth wraidd y newidiadau sy'n mynd y tu hwnt i ofynion statudol. Wrth gysylltu y Datganiad Ardal i agenda iechyd cyhoeddus, defnyddir yr offer a’r dylanwad hwn i sicrhau bod a) rôl flaenllaw i’r amgylchedd naturiol mewn trafodaethau, a b) bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn creu partneriaethau teg sy'n sicrhau bod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn cynnwys yr amgylchedd naturiol.

Mainc gerfiedig yn Llanwonnow yn darllen 'What a view'

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng nghanol de Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. Gyda hynny mewn golwg, rydym am annog pobl i gysylltu â natur. Mae proses y Datganiad Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu’r camau nesaf. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ebostio ni ar southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf