Datganiadau Ardal ac ynni
Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i gael dealltwriaeth well o sut mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol eu hunain.
Bwriad y dudalen hon yw rhoi cyflwyniad i’r broses Datganiadau Ardal, ynghyd â’r heriau, cyfleoedd a ‘themâu’ cysylltiedig sy’n dod i’r amlwg, a sut mae hynny’n ymwneud â’r rheini sy’n gweithio ym meysydd ffermio, coedwigaeth a rheoli tir.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymuno â ni, ac eraill, i fynd i'r afael â heriau rheoli tir yn gynaliadwy, cysylltwch â'ch ardal berthnasol yn:
northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
northeast.as@naturalresourceswales.gov.uk
mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
southeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yng Nghymru, mae mwy na 80% o'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, a defnyddir 15% arall ar gyfer coedwigaeth. Mae'r ddau sector yn cyfrannu'n helaeth at ddarparu gwasanaethau ecosystem lluosog pwysig a buddion llesiant (e.e. cynhyrchu bwyd a ffeibr, rheoleiddio'r hinsawdd, pridd, dŵr ac ansawdd yr aer). Mae gan ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir rôl hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan gyflawni'r weledigaeth a gyflwynwyd gan Ddatganiadau Ardal Cymru a, gyda’i gilydd, sicrhau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ar raddfa leol a chenedlaethol.
Trwy ymgynghori, mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir wedi dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru mai eu blaenoriaeth yw parhau i weithio ar y tir gan ddefnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy i sicrhau incymau hyfyw ar gyfer y dyfodol. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru trwy gynllun Ffermio Cynaliadwy a'n Tir newydd. Mae economi wledig hyfyw a chynaliadwy yn golygu gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â heriau lleol a chenedlaethol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru mewn cyd-destun lleol trwy Ddatganiadau Ardal. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol, ynghyd â Chynllun Cyflawni Carbon Isel a Chynllun Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn cydnabod bod Datganiadau Ardal yn gallu helpu i gyflawni polisi cenedlaethol o fewn cyd-destun lleol gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar natur. Gyda'i gilydd, mae'r heriau a'r cyfleoedd hyn o ran polisi cenedlaethol yn gofyn am weithredu er mwyn cefnogi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
Mae'r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir yn ymgorffori'r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Mae cynhyrchu bwyd yn rhan hanfodol o’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy er mwyn cynhyrchu canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Yn yr un modd, mae coetiroedd yn gallu darparu’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a chyfrannu at amaethyddiaeth gynaliadwy trwy integreiddio priodol, a gallant ddarparu buddion economaidd trwy werthu coed a phren.
Mae'r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy hefyd yn cefnogi'r Polisi Adnoddau Naturiol a'r ddyletswydd bioamrywiaeth o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i helpu i adeiladu ecosystemau yn ogystal â gwydnwch busnes. Efallai y bydd y cynllun arfaethedig yn rhoi cyfle i ddefnyddio'r Datganiadau Ardal pan fo hynny'n briodol, i roi gwybodaeth am flaenoriaethau gofodol posibl ar gyfer cydweithredu, ac i helpu i nodi graddfa'r cyfleoedd a allai godi.
Er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn, mae nifer o'r heriau'n gofyn i ni gydweithio naill ai'n lleol neu ar raddfa fwy gan gwmpasu ardaloedd ehangach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau sy'n cynrychioli ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir trwy Fforwm Rheoli Tir Cymru (WLMF), Grŵp Gorchwyl a Gorffen Creu Coetir Fforwm Rheoli Tir Cymru, ac is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol. Bydd hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau rheoli tir yn gynaliadwy mewn ffyrdd sy'n darparu buddion ar gyfer pobl, busnesau a'r amgylchedd.
Gellir canfod disgrifiad llawn o'r themâu gwahanol sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru yma:
Ar gyfer safonau ac arweiniad perthnasol, gweler y canlynol:
Gweler ein gwefan am gyngor a chanllawiau pellach sy'n berthnasol i amaethyddiaeth a choetiroedd.
Am wasanaethau cynghori, ewch i'r gwefannau canlynol:
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith cydweithredol sy’n mynd rhagddo gan ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir yn eich ardal chi, edrychwch ar astudiaethau achos prosiectau’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy gan gynnwys Rheoli'r ucheldiroedd yn gynaliadwy a Coetir a Gwrychoedd Ffermydd.
I gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd cyllido ac ymgeisio yn ymwneud â rheoli tir yn gynaliadwy y Rhaglen Datblygu Gwledig, ewch i wefannau Llywodraeth Cymru ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig:
Mae ffynonellau cyllido eraill yn cynnwys y canlynol: