Hoffem glywed gennych


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i ennyn gwell dealltwriaeth o'r modd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

Mae dyfodol ein hamgylchedd naturiol a'n hynni yn effeithio ar bob un ohonom. Mae'r cymhlethdodau o ran y ddau nid yn unig yn enfawr ond maent hefyd yn fwyfwy brys wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd dod i'r amlwg. Mae angen i bawb gymryd rhan yn y sgwrs a'r trosglwyddiad.

Dyna pam rydym yn awyddus i siarad â chi am y cyfleoedd a'r heriau sy'n codi o Ddatganiadau Ardal sy'n ymwneud ag ynni a'n trosglwyddiad tuag at economi carbon isel.

I gymryd rhan, cysylltwch â ni yn pleccg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a byddwn yn ceisio eich ateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Peiriannydd tyrbin yn sefyll ar ben tyrbin gwynt yn edrych allan ar dirwedd Cymru


Ynni a Datganiadau Ardal


Mae Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, sy’n nodi blaenoriaethau, cyfleoedd a heriau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, yn nodi ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni fel blaenoriaethau allweddol. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol, ynghyd â chynllun ‘Cymru Carbon Isel’ Llywodraeth Cymru, hefyd yn cydnabod sut y gall Datganiadau Ardal helpu i gyflawni'r polisi a ddymunir mewn cyd-destun lleol. 

Nod Datganiadau Ardal, ymysg llawer o bethau eraill, yw sicrhau bod nodweddion a blaenoriaethau unigryw ardaloedd gwahanol yn cael eu hystyried o ran cyfleoedd a heriau sy'n ymwneud ag ynni. Bydd hynny, yn ei dro, yn galluogi cynllunio a dylunio systemau ynni lleol sy'n gosteffeithiol i Gymru. Yn llythrennol, ardaloedd lleol sydd yn y sefyllfa orau i ysgogi gostyngiadau mewn allyriadau trwy reoli polisi sy'n ymwneud â thir, adeiladau, dŵr, gwastraff a thrafnidiaeth. Gallant ymgorffori mesurau carbon isel o fewn cynlluniau strategol ar draws meysydd gwahanol megis iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a thai. Fel y cyfryw, nod Datganiadau Ardal yw ychwanegu gwerth at arferion, offer ac adnoddau presennol, gan alluogi datblygiad a rheolaeth gynaliadwy o systemau ynni o fewn cyfyngiadau ein hamgylchedd naturiol. Maent hefyd yn cyflwyno platfform i ni er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r ‘trilema’ ynni - diogelwch cyflenwad a seilwaith, tegwch cymdeithasol, ac argyfwng yr hinsawdd - o safbwynt lleol, gan greu cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd.

Yn 2019, o ganlyniad i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, cododd Llywodraeth y DU lefel yr uchelgais, gan ddeddfu ar gyfer targed o sero o ran yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae Cymru hefyd wedi derbyn yr her hon gan osod targed i sicrhau lleihad o 95% yn ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, corff cyhoeddus anadrannol annibynnol. Bydd targed Cymru yn cael ei gryfhau a'i arwain gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n darparu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. 

Yn ogystal, ym mis Medi 2017, nododd Llywodraeth Cymru y tri tharged ynni uchelgeisiol allweddol canlynol ar gyfer Cymru:

  • Cymru i gynhyrchu 70% o'i defnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030

  • Targed o 1GW o drydan adnewyddadwy yng Nghymru i fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2030

  • Pob prosiect ynni adnewyddadwy i gael elfen o berchnogaeth leol o 2020

Cynllun hydro garwnant ar ystad a reolir yng Nghyfoeth Naturiol Cymru

Gwaith cydweithredol 


Er mwyn cyflawni'r nodau uchelgeisiol hyn, bydd rhaid i'r holl randdeiliaid o fewn y maes ynni, o'r llywodraeth i'r cyhoedd, gydweithredu i greu system ynni yn y dyfodol sy'n garbon isel, gan leihau cost ariannol y broses o symud i ffwrdd o danwydd ffosil ar yr un pryd wrth ystyried biliau ynni. Yn ogystal, er mwyn lleihau'r ynni rydym yn ei ddefnyddio yn sylweddol, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar systemau sydd wedi'u hintegreiddio'n lleol ar gyfer gwres, pŵer, cludiant a storio ynni, gan gofleidio economeg 'system gyfan' ynni glân er mwyn cadw'r cyflenwad a'r galw yn gytbwys ar gyfer rhwydwaith sydd yn ysbeidiol iawn. 

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o rolau penodol mewn perthynas â materion ynni (gan gynnwys rheoli tir, cynghori a rheoleiddio) sydd â chysylltiad cadarn â Datganiadau Ardal. Gan adeiladu ar ein rôl, mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda, naill ai'n unigol neu wrth weithio ar y cyd, i greu cynllun manwl sy'n disgrifio'n union sut y dylai eu rhanbarth neu ardal ddatgarboneiddio orau ar sail heriau unigol, gan gynnal yr economi a mynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd. Mae gan awdurdodau lleol y gallu hefyd i ddod â rhanddeiliaid o’r diwydiant a’r gymuned at ei gilydd i sicrhau bod dull system ynni gyfan a chydlynol yn cael ei defnyddio ar draws y sectorau ynni yn eu rhanbarthau, un sy'n cynrychioli'r gost ariannol isaf i gymunedau lleol. Trwy ddatblygu strategaethau, cynlluniau a phrosiectau ynni rhanbarthol, gall awdurdodau lleol hybu’r broses o ddatgarboneiddio eu rhanbarthau ar y cyd â'r holl randdeiliaid allweddol, gan olrhain cynnydd yn erbyn targedau. 

Gobeithiwn y bydd Datganiadau Ardal, dros amser, yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu uchelgeisiau, strategaethau a chynlluniau datgarboneiddio awdurdodau lleol Cymru. Yn 2019, gwnaethom gynnal dau weithdy gyda rhanddeiliaid er mwyn archwilio'r cyfleoedd hyn yn fwy manwl. Gwnaethant nodi y gallai Datganiadau Ardal ychwanegu gwerth wrth ddatblygu a defnyddio cynlluniau datblygu lleol ac asesiadau ynni adnewyddadwy trwy amlinellu'r risgiau a'r cyfleoedd i'r amgylchedd lleol, a allai helpu i lywio a dylanwadu ar benderfyniadau ac arferion cynllunio. Gwnaethant hefyd amlygu'r rolau pwysig y gallai'r llywodraeth, busnesau lleol, grwpiau ynni cymunedol a thrigolion eu chwarae wrth helpu awdurdodau lleol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. 

Ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau yn uniongyrchol, rydym yn eich annog i ddarllen trwy'r Datganiadau Ardal a darparu adborth trwy ein ffurflen adborth ar-lein. 


Gorsaf hydro bwmpio Dinorwig

Darganfod themâu Datganiadau Ardal


Gellir canfod disgrifiad llawn o'r themâu gwahanol sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru yma:

Rhagor o wybodaeth


I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rôl a gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag ynni, ewch i: 

Ynni Yng Nghymru

Nodyn cyfarwyddyd ynni Cyfoeth Naturiol Cymru

Cynllun Ynni Gwynt Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhaglen Tanwydd Pren Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhaglen Ynni Dŵr ar Raddfa Fach Cyfoeth Naturiol Cymru

tyrbin yn cael ei gludo i Goedwig Brechfa ar Ystad Reoledig Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyllid

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â rhai o'r cyfleoedd cyllido a chymhelliant, ewch i:

Y gwasanaeth ynni (ar gyfer grwpiau’r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol)

Cymhelliant gwres adnewyddadwy domestig 

Ynni adnewyddadwy

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag offer presennol a ddefnyddir i ddatblygu ynni adnewyddadwy (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt), ewch i:

Ynni carbon isel

Pecyn ynni cymunedol

Cynlluniau datblygu lleol: canllawiau ar ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel

Ynni adnewyddadwy ac ynni carbon Isel mewn adeiladau: canllaw ymarfer

Pen Y Cymoedd ar ystâd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf