BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gwneud cais i ollwng dŵr i gwrs dŵr.

Mae angen i chi wneud cais am ganiatâd dan adran 166 Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 i ollwng dŵr:

  • a allai gynnwys solidau neu ddeunydd sy’n llygru
  • a ryddhawyd yn sgil gostwng lefel y dŵr mewn cronfa drwy’r falf sgwrio
  • drwy bibellau sy’n fwy na 229mm o ddiamedr

Cyn dechrau

Mae angen i chi wybod:

  • a yw’n achos o ollyngiad unigol neu ollyngiadau lluosog
  • enw a chyfeiriad y safle
  • enw’r cwrs dŵr sy’n derbyn y gollyngiad
  • cyfeirnod gridy pwyntiau gollwng a samplu
  • y rhesymau dros y gollyngiad
  • diamedr y bibell ollwng 
  • o ba fath o ased fydd y gollyngiad yn dod
  • pryd ddigwyddodd y gollyngiad diwethaf (cronfeydd dŵr yn unig)
  • math o ollyngiad 
  • amcangyfrif o gyfaint y dŵr a gaiff ei ollwng
  • y gyfradd ollwng
  • pryd rydych chi’n bwriadu gwneud y gwaith gollwng 
  • ble bydd y dŵr yn draenio 
  • sut i dalu

Dogfennau i’w llwytho i fyny

  1. Cynllun safle yn dangos y safle, y pwynt gollwng a’r pwynt monitro.

  2. Manylion am sut byddwch chi’n lliniaru perygl llygredd. Er enghraifft, deuclorineiddio’r dŵr, neu gyfyngu ar ryddhau solidau crog.

  3. Ffotograffau neu wybodaeth arall i gefnogi eich cais.

  4. Dogfennau ychwanegol y mae angen i chi eu paratoi os ydych yn rhyddhau o gronfa ddŵr.


Ffioedd

  • £796 am ollyngiad dŵr unigol (a166a)
  • £1,298 am ollyngiadau dŵr lluosog o un safle yn unig (a166b)

Byddwn yn gwirio a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar eich cais. Os oes, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn cwblhau’r asesiad ar eich rhan.

Byddwn yn codi £649 yn ychwanegol os byddwn yn cwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. 

Amserlenni

Gollyngiadau dŵr unigol (a166a)

Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 7 diwrnod o dderbyn cais cyflawn a’r ffi gywir.

Os bydd angen i ni gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, bydd yn cymryd 7 diwrnod yn ychwanegol i benderfynu ar y cais. 

Gollyngiadau dŵr lluosog o un safle yn unig (S166b)

Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 3 mis o dderbyn cais cyflawn a’r ffi gywir.

Gollyngiad mewn argyfwng

Nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd i gyflawni gollyngiad brys. Ond bydd angen i chi roi gwybod i’n canolfan gyfathrebu ar gyfer digwyddiadau.

Diweddarwyd ddiwethaf