Os nad yw eich eiddo wedi ei gysylltu â charthffos gyhoeddus, mae’n debyg bod eich carthion yn cael eu trin gan system garthffosiaeth breifat. Gall hyn fod yn uned trin carthion gryno, tanc carthion, neu garthbwll. Oni chaiff y systemau hyn eu cynnal neu eu gwagio’n gywir, gallant ddod yn berygl i iechyd a llygru’r amgylchedd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithlon.

Rhaid cadw cofnodion cynnal a chadw am 5 blynedd. Lawrlwythwch ganllaw cynnal a chadw a llyfr lòg i’ch helpu i reoli’ch system yn effeithiol a chyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol.

Tanciau carthion

Mae deunydd solet yn gwaddodi ar waelod y tanc carthion gan ffurfio slwtsh, tra bo llysnafedd yn ymffurfio ar yr wyneb. Dylai’r slwtsh a’r llysnafedd gael eu tynnu oddi yno yn rheolaidd a’u cludo gan gludwr gwastraff cofrestredig i’w gwaredu.

Mae angen triniaeth bellach ar yr elifion hylif drwy gae draenio cyn y’u gollyngir i’r ddaear, neu drwy systemau trin eraill fel gwely cyrs, hidlydd graean neu uned trin carthion gryno pan fo cae draenio’n anaddas. Mae unedau trin carthion cryno yn trin yr elifion hyd at safon uwch a gallant beri bod modd gollwng yn uniongyrchol i gwrs dŵr addas.

Mae micro-organebau mewn cae draenio’n helpu i ddadelfennu’r elifion ac mae’r hylif sydd wedi’i drin yn pasio drwodd i’r dŵr daear yn y pen draw. Hyd yn oed pan fo’n cael ei gynnal yn briodol, gall eich cae draenio gael ei flocio ar ôl ei ddefnyddio am nifer o flynyddoedd a gall fod angen cael un newydd yn ei le.

Cynnal tanc carthion

Mae deunyddiau solet yn cronni dros amser. Os oes gormod o ddeunydd wedi cronni, gall lifo i’r cae draenio gan greu rhwystr. Bydd ychydig o ymdrech yn rheolaidd yn arbed arian ac yn ymestyn oes y system yn sylweddol. Dylech:

  • sicrhau bod y tanc yn cael ei wagio bob 12 – 24 mis gan gontractwr cofrestredig
  • gwirio’r cae draenio bob mis er mwyn sicrhau nad yw’n ddyfrlawn.

Ymysg y dulliau eraill sy’n gallu helpu i’ch tanc carthion weithredu’n ddidrafferth mae:

  • defnyddio ychydig o gynhyrchion glanhau’n aml
  • defnyddio’r un cynhyrchion glanhau, di-ffosffad bob amser
  • gosod dyfeisiau arbed dŵr ar seston ddŵr eich toiled
  • ychwanegu awyryddion at bibelli cawodydd a thapiau
  • bob amser rhoi llwyth golchi llawn mewn peiriannau golchi dillad a golchwyr llestri
  • peidio byth â fflysio dim ac eithrio gwastraff dynol a phapur toiled
  • peidio â phlannu coed ger eich system trin
  • peidio â gwaredu ag olewau, cemegion, brasterau neu doddyddion yn y draen
  • peidio â chysylltu dŵr ffo wyneb neu ddŵr ffo toeau
  • peidio â pharcio dros gae draenio neu ei gywasgu.

Unedau Trin Carthion Cryno

Mae unedau trin carthion cryno’n cyflawni llawer mwy o driniaeth fiolegol na thanc carthion a gallant beri bod modd gollwng yn uniongyrchol i gwrs dŵr. Mae angen cae draenio o hyd os gollyngir i’r ddaear.

Fel arfer mae elfen fecanyddol i unedau trin carthion cryno, sy’n darparu ocsigen i gynorthwyo gyda dadelfennu’r deunydd organig. Mae angen cyflenwad pŵer parhaus ar y mwyafrif o unedau trin carthion cryno.

Mewn rhai ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol, gall fod angen triniaeth bellach ar yr elifion a ddaw o uned trin carthion gryno. Gan ddibynnu ar sensitifrwydd yr amgylchedd, gellir trin yr elifion ymhellach drwy gyfrwng system hidlo fel tomen ddraenio ar yr wyneb, gwely cyrs, system wlyptir, neu ddiheintio uwchfioled.

Cynnal eich uned trin carthion gryno a’i gwasanaethu

Bydd slwtsh a deunydd solet yn cronni dros amser yn yr uned trin carthion gryno ac yn effeithio ar ei pherfformiad. Mae angen tynnu slwtsh o’r systemau trin yn rheolaidd.

Yn achos mwyafrif yr unedau trin carthion cryno, bydd angen eu gwasanaethu’n broffesiynol bob 12 mis a chynnal gwiriadau manwl bob 6 mis. Dylai gwaith cynnal a chadw gael ei wneud gan bersonél sydd wedi cymhwyso a’i hyfforddi’n addas ac yn unol â manyleb y gwneuthurwr. Gwneir hyn yn aml drwy gytundeb cynnal a chadw â chwmni gwasanaethu awdurdodedig.

Mae rhestr o beirianwyr gwasanaeth a achredwyd gan British Water ar gael ar wefan British Water.

Cofrestru tanc carthion

Mae’n ofynnol cael trwydded amgylcheddol ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n cynnwys rhyddhau hylif i’r ddaear neu gwrs dŵr. Ym mwyafrif yr achosion, mae tanciau carthion ac unedau trin carthion cryno wedi’u heithrio o’r angen i gael trwydded. Fodd bynnag, rhaid ichi gofrestru’ch tanc carthion neu uned trin carthion gryno yn un sydd wedi’i eithrio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y gwrthodir eithriad. Gallwch ddarllen rhagor ynglŷn â pham o bosibl y gwrthodwyd yr eithriad a’r camau nesaf y dylech eu cymryd.

Cofnodion cynnal a chadw

Mae angen ichi gadw cofnod o’r gwiriadau yr ydych wedi’u cwblhau a phryd y cafodd eich tanc ei wagio, at eich dibenion eich hun a rhag ofn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru neu ddarpar brynwr tŷ yn gofyn ichi am y cofnodion hynny.


Dylid cadw cofnodion am 5 blynedd.

Lawrlwythwch ein canllaw cynnal a chadw a llyfr lòg

Diweddarwyd ddiwethaf