Penderfyniad rheoleiddio 095: Gwaredu drwy losgi (heblaw wrth ymyl doc) feinwe planhigion gwastraff a phren fel sy'n ofynnol o dan hysbysiad iechyd planhigion

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych yn llosgi meinwe planhigion gwastraff neu bren a ddefnyddir i letemu neu gynnal cargo llongau (pacin), heblaw ar y safle cynhyrchu.

Ystyr ‘pacin’ yw meinwe planhigion gwastraff neu bren o unrhyw fath – gan gynnwys deunydd pacio, gwahanwyr a phaledi – a ddefnyddir i letemu neu gynnal cargo llong. Mae angen llosgi pacin wrth gyrraedd ochr y doc er mwyn osgoi cyflwyno chwilod ac ati o dramor.

Mae llosgi pacin wrth ymyl y doc lle caiff y cargo ei ddadlwytho yn esempt o’r gofyniad i gael trwydded amgylcheddol. Am resymau ymarferol neu logistaidd, nid yw bob amser yn bosibl llosgi'r holl feinwe planhigion gwastraff neu bren wrth ymyl y doc. Yn lle hynny, mae'r gwastraff yn cael ei losgi yn y man y danfonir y nwyddau iddo, ond nid yw hyn yn gymwys ar gyfer yr esemptiad.

Rydym yn fodlon nad oes unrhyw risg amgylcheddol ychwanegol i losgi pacin i ffwrdd o'r dociau ar yr amod y gwneir hynny o dan hysbysiad iechyd planhigion. Cyhoeddir hysbysiadau o’r fath o dan erthygl 32 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Ni fyddwn yn mynd ar drywydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd:

  • pan gedwir y gwastraff yn ddiogel cyn iddo gael ei losgi
  • pan mai dim ond y gwastraff sydd angen ei waredu o dan yr hysbysiad iechyd planhigion sy'n cael ei losgi
  • pan nad yw cyfanswm y gwastraff sy'n cael ei losgi neu ei storio dros unrhyw gyfnod o 24 awr yn fwy na 10 tunnell
  • pan fo'r gwastraff yn cael ei losgi cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl tynnu'r cynnyrch y mae'n ei becynnu
  • pan gedwir copi o’r hysbysiad iechyd planhigion yn cael ei gadw gan y sawl y’i cyflwynir iddo am hyd at chwe mis ar ôl y llosgi ac yn sicrhau ei fod ar gael i’n swyddogion ar gais

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn gwaredu drwy losgi (heblaw wrth ymyl doc) feinwe planhigion gwastraff a phren fel sy'n ofynnol dan hysbysiad iechyd planhigion.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf