Penderfyniad rheoleiddio 093: Storio elifiant carthion mewn marina neu safle loc
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan fis Tachwedd 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Os ydych yn cydymffurfio â’r gofynion isod:
- ni chewch ond storio elifiant carthion o gychod sy'n defnyddio'r marina neu'r safle loc hwnnw
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- gadw’r gwastraff mewn cynwysyddion diogel – mae diogel yn golygu na all y gwastraff ddianc, ac ni all pobl heb awdurdod gael mynediad ato
- sicrhau bod pob cynhwysydd wedi’i adeiladu, ei archwilio a'i gynnal a'i gadw
Ni chewch storio:
- gwastraff peryglus
- gwastraff toiledau cemegol sy'n cynnwys fformaldehyd
- mwy na 60 metr ciwbig o wastraff ar unrhyw adeg
- unrhyw wastraff am fwy na thri mis
Ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd amgylcheddol na niweidio iechyd pobl, na:
- pheri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffpan ydych yn storio elifion carthion mewn marina neu safle loc.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig