Penderfyniad rheoleiddio 060: Gwaredu gwastraff sy’n deillio o waith clirio carthffosydd sydd wedi blocio
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mai 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu gwaredu gwastraff sy’n deillio o waith clirio carthffosydd sydd wedi'u blocio yn ôl i'r garthffos.
Nid yw ond yn gymwys pan ddefnyddir tanceri i wagio carthffos sydd wedi'i blocio.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Ni chewch ond gollwng carthion yn ôl i'r un rhwydwaith carthffosydd y gwnaethoch chi eu cymryd oddi wrtho.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoliadol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol pan fyddwch yn gwaredu gwastraff sy’n deillio o waith clirio carthffosydd sydd wedi'u blocio yn ôl i'r un rhwydwaith o garthffosydd.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig