Penderfyniad Rheoleiddio 117: Dosbarthu gwastraff wedi'i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau

Mae'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2026, ac erbyn hynny bydd yn cael ei adolygu. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddio yn dal yn ddilys. 

Gall CNC dynnu'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw'r gweithgareddau y mae'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Y Penderfyniad Rheoleiddio

Mae'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i weithredwyr sy'n dosbarthu gwastraff a gloddiwyd a gynhyrchwyd wrth wneud gwaith ffyrdd a strydoedd lle nad yw samplu'n bosibl cyn symud y gwastraff o'r safle cloddio.

Nid yw hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i’r canlynol:

  • gwastraff peryglus gydag arogl col-tar neu hydrocarbonau petrolewm eraill
  • sy'n cynnwys asbestos gweladwy neu ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos

Dim ond pan fyddwch chi'n gwneud gwaith o dan drwyddedau 'ar unwaith', 'bychan', a 'safonol' gan ddilyn Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (NRSWA) y mae'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol. Mae hyn hefyd yn cynnwys 'gweithiau mawr' lle mae angen trwydded 'mawr' oherwydd rheoli traffig yn unig.

Mae'r terfynau cyfaint canlynol yn berthnasol i bob gwaith cloddio unigol o fewn gwaith a wneir o dan drwydded neu orchymyn gwaith NRSWA.

Bydd yn dal yn rhaid i chi nodi'r codau dosbarthu priodol gan ddefnyddio WM3.

Os byddwch yn cludo’r gwastraff heb ei ddosbarthu yn unol â'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn, gallwch drosglwyddo'r mathau hyn o wastraff i safleoedd gwastraff trwyddedig nad oes ganddynt y codau gwastraff peryglus cyfatebol wedi'u rhestru os ydynt yn cydymffurfio ag amodau 'Storio a rheoli gwastraff wedi'i gloddio o waith stryd: RPS 299’. Mae pob gofyniad Dyletswydd Gofal arall yn dal i fod yn berthnasol.

Os na allwch ddilyn yr amodau yn y Penderfyniad Rheoleiddio hwn, rhaid i chi ddilyn y canllawiau technegol dosbarthu gwastraff i asesu a dosbarthu'r holl wastraff a gloddiwyd.

Nid yw'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill rydych chi'n eu cynnal.

Mae'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn wedi'i gysylltu ag RD51.2 Storio a rheoli gwastraff a gloddiwyd o osod ac atgyweirio cyfleustodau. Dylech ddarllen y Penderfyniad Rheoleiddio hwnnw er mwyn deall ble allwch chi fynd â'r gwastraff rydych chi'n ei ddosbarthu o dan y Penderfyniad Rheoleiddio hwn.

Mae'r corff masnach Street Works UK yn datblygu methodoleg ar gyfer asesu gwastraff cyfleustodau. Mae profion ar y mathau hyn o wastraff wedi dangos bod tua 15% o wastraff cyfleustodau yn bodloni un neu fwy o feini prawf i gael eu dosbarthu fel gwastraff peryglus.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn unig pan na allwch gael mynediad cyfreithlon i'r safle i gynnal gwaith samplu rhagarweiniol cyn i chi ddechrau gwaith cloddio
  • gwahanu’r gwastraff yn ôl y math o god gwastraff yn ystod gwaith cloddio a chludo (er enghraifft, rhaid cadw'r haen bitwminaidd a'r is-sylfaen ar wahân)
  • symud gwastraff naill ai i safle a reolir gan y cynhyrchydd, neu i safle sydd wedi'i drwyddedu'n addas sy'n cydymffurfio ag RD51.2
  • cynnwys cyfeirnod y drwydded waith (neu rif yr archeb waith) a manylion y gwaith cloddio penodol y casglwyd y gwastraff ohono, a rhoi 'dosbarthwyd gan ddefnyddio RD117' yn y disgrifiad ar unrhyw nodyn cludo neu nodyn trosglwyddo gwastraff sydd gyda’r gwastraff
  • cadw cofnodion o holl symudiadau gwastraff am 2 flynedd (neu 3 blynedd yn achos gwastraff peryglus) i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

Dylech gymhwyso'r Penderfyniad Rheoleiddio hwn  yn unig i wastraff sydd â’r codau canlynol:

  • 17 01 01 concrit
  • 17 01 02 brics
  • 17 01 03 teils a cerameg
  • 17 01 06* a 17 01 07 cymysgeddau o goncrit, brics, teils a cerameg
  • 17 03 01* a 17 03 02 cymysgeddau bitwminaidd
  • 17 05 03* a 17 05 04 pridd a cherrig
  • 17 09 03* a 17 09 04 gwastraff cymysg gwaith adeiladu a dymchwel

Nodyn: mae seren (*) wrth ymyl y cod yn golygu ei fod yn wastraff peryglus. Dim ond ar gyfer gwastraff dros15m3 sy'n cael ei ddosbarthu fel gwastraff peryglus y dylid defnyddio codau gwastraff peryglus.

Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  • trin neu ddefnyddio'r gwastraff o dan esemptiad gwastraff
  • trosglwyddo'r gwastraff i gyfleuster sydd wedi ei eithrio
  • defnyddio’r penderfyniad rheoleiddio hwn ar gyfer unrhyw wastraff sydd, neu y credir ei fod, yn beryglus

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddio hwn yn newid eich gofynion cyfreithiol i:

  • asesu a dosbarthu gwastraff yn unol â chanllawiau dosbarthu gwastraff (WM3) pan fyddwch chi'n symud gwastraff a gynhyrchir yn ystod gwaith stryd a gwaith cyfleustodau
  • ofalu bod y sawl sy'n derbyn y gwastraff wedi'i awdurdodi i'w dderbyn

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y Penderfyniad Rheoleiddio hwn.

Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:

  • achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
  • achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
  • effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig
Diweddarwyd ddiwethaf