Gwneud cais am drwydded gwastraff rheolau safonol newydd

BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded rheolau safonol gwastraff newydd.

Cyn i chi ddechrau

Mae angen i chi wybod:

Dogfennau i'w uwchlwytho

  1. Tystiolaeth bod gan y gweithredwr allu technegol, neu ei fod yn gweithio tuag at gymhwyster perthnasol

  2. Oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded i weithredu offer symudol, bydd angen cynllun safle arnom sydd:
  • yn cynnwys ffin y safle wedi ei farcio mewn gwyrdd
  • yn nodi'r rhan o'r safle rydych am wneud eich gwaith neu weithrediadau gwastraff ynddi
  • yn cynnwys nodweddion lleol i'n helpu i osod y safle yn ei amgylchedd lleol
  • wedi'i luniadu i raddfa ddiffiniedig
  • yn cynnwys dyddiad
  1. I wneud cais i ddodi gwastraff ar dir i'w adfer, bydd angen i chi ddarparu cynllun adfer gwastraff. Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cynllun atom cyn i chi ddechrau'r cais hwn.

  2. Os ydych am hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth.

 

Graddfeydd amser

Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen tri mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.

Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o dri mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.

Diweddarwyd ddiwethaf