Gall unrhyw un wneud cais am drwydded cwympo coed, ond caiff y drwydded ei chyhoeddi yn enw'r perchennog neu lesddeiliad y tir (os yw ei les yn rhoi'r hawl iddo gwympo coed).

Mae unrhyw waith cwympo coed heb drwydded neu ganiatâd arall yn drosedd, oni bai ei fod dan esemptiad.

Fel arfer, mae trwydded cwympo coed yn ddilys am ddwy flynedd ar gyfer llwyrdorri neu bum mlynedd ar gyfer teneuo.

Gall perchnogion neu reolwyr coetir ystyried cynllun rheoli coedwig ar gyfer cynigion cwympo coed tymor hir am hyd at ddeng mlynedd.

Gwiriwch a oes angen trwydded arnoch

Nid oes angen trwydded cwympo coed am bob prosiect cwympo coed.

Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch a chanfod yr hyn sydd angen ei ystyried cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.

Gwneud cais am drwydded cwympo coed

Cwblhewch y ffurflen gais am drwydded cwympo coed.

Cyn marcio’r map(iau), gwiriwch y canlynol:

  • Ei fod yn gyfredol, ac yn deillio o arolwg Ordnans
  • Fod ganddo raddfa addas yn ddelfrydol 1:10,000, 1:5,000 neu 1:2,500
  • Fod graddfa’r map yn y golwg, ac nad oes manylion perthnasol wedi cael eu cuddio gan blygiadau, labeli neu farciau
  • A fod ganddo o leiaf ddwy linell grid lorweddol a dwy linell grid fertigol Arolwg Ordnans, oni bai eich bod wedi defnyddio map rhyngweithiol CNC

Marcio’r map(iau):

  • marciwch yr ardal fydd yn cael ei chwmpo yn eglur
  • rhaid i unrhyw liw a ddefnyddir beidio â dileu manylion y map sylfaen
  • mae angen i gyfeirnod grid yr ardal fydd yn cael ei chwympo gael ei ddangos yn glir
  • os na yw’r fynedfa i’r ardal fydd yn cael ei chwympo yn amlwg, marciwch hon hefyd ar y map
  • dylech gynnwys teitl, graddfa ac allwedd i nodi’n glir beth ydych wedi ei farcio ar y map
  • peidiwch â defnyddio map a ddefnyddiwyd mewn cais blaenorol
  • rhaid iddo gael ei lofnodi neu ei awdurdodi a’i ddyddio gan yr ymgeisydd

Cyflwyno cais i gwympo coed llarwydd yn y gaeaf

Mae coed llarwydd yn agored i glefyd o'r enw Phytophthora ramorum, sy'n gallu lledaenu'n hawdd, gan fygwth planhigion a rhywogaethau eraill.

Rydym yn archwilio pob rhan o'r llarwydd cyn cymeradwyo trwydded cwympo coed, ond nid yw symptomau P. ramorum yn weladwy yn y gaeaf.

Os ydych yn ystyried cwympo coed llarwydd rhwng 30 Medi ac 1 Ebrill mae angen i chi ystyried un o'r opsiynau ganlyn:

Cymorth gyda’ch cais

Rydym yn cynnig dwy awr o gyngor am ddim i'ch helpu i gwblhau eich cais yn iawn y tro cyntaf.

Mae'r ddwy awr o gyngor am ddim yn cynnwys:

  • cymorth i ddewis y ffurflen gais gywir i'w chwblhau
  • cymorth i ddod o hyd i'r canllawiau cywir
  • dangos yr arferion gorau a safonau'r diwydiant y dylech eu dilyn
  • dangos i chi sut i adnabod ardaloedd gwarchodedig

Os hoffech gael rhagor o gymorth ar ôl y ddwy awr o gyngor am ddim, gallwn ddarparu mwy o gyngor, ond codir tâl am hyn.

Os hoffech ddwy awr o gyngor am ddim cyn i chi ddechrau eich cais i gwympo coed, cysylltwch â ni.

Sut rydym yn ymdrin â cheisiadau

  • Caiff cydnabyddiaeth ei hanfon atoch o fewn pum niwrnod gwaith.
  • Os oes angen, caiff ymweliad safle ei drefnu o fewn tair wythnos.
  • Caiff manylion y cais eu rhoi ar y cofrestr trwyddedau cwympo (oni bai fod y cais ar gyfer teneuo yn unig neu goed llarwydd yn bennaf) am bedair wythnos – nid oes modd cyhoeddi'r drwydded cwympo coed nes bod cyfnod y gofrestr wedi dod i ben.
  • Gallwn hefyd ymgynghori ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.

Sut i apelio yn erbyn ein penderfyniad

Os caiff eich cais am drwydded cwympo coed ei gwrthod ddwywaith:

  • am yr un ardal a'r un cynigion gwaith
  • ac mae o leiaf tair blynedd wedi mynd heibio rhwng ein gwrthodiad cyntaf a dilynol
  • neu os nad ydych yn cytuno â'r amodau ailstocio ar eich trwydded cwympo coed

yna gallwch wneud cais i Weinidogion Cymru adolygu ein penderfyniad.

Gallai'r Gweinidog ofyn i bwyllgor cyfeirio annibynnol ddarparu cyngor cyn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiwygio ein penderfyniad.

Diweddarwyd ddiwethaf